Gofyn barn pobl am gynllun llifogydd Dinas Powys

Map o Ddinas Powys gyda ardaloedd wedi'u lliwio i ddangos y lefel gwahanol o risg llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gorffen ei asesiad o opsiynau i reoli perygl llifogydd yn Ninas Powys, De Cymru, ac mae bellach yn ceisio barn y gymuned.

Gan ddefnyddio cofnodion o ddigwyddiadau llifogydd yn y gorffennol a modelu hydrolig, mae CNC wedi cadarnhau bod risg llifogydd sylweddol yn Ninas Powys o Afon Tregatwg a'i llednant East Brook.

Mae CNC yn credu ei fod wedi edrych ar bob opsiwn ymarferol er mwyn mynd i’r afael â'r perygl llifogydd i 197 o gartrefi yn Ninas Powys ac Eastbrook.

Gan ddilyn canllawiau wedi’u cyhoeddi, aseswyd pob opsiwn ynghylch a oedd yn darparu ateb ar gyfer y gymuned gyfan, lefel ddigonol o amddiffyniad rhag llifogydd, os oedd yn dechnegol bosibl ei hadeiladu a'r effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol. Gwrandawodd CNC hefyd ar bryderon y gymuned a defnyddiodd yr adborth hwn yn ystod ei asesiadau.

Mae CNC hefyd wedi ystyried hyfywedd economaidd pob opsiwn i benderfynu a ydynt yn darparu gwerth da am arian cyhoeddus. Mae hyn yn golygu darparu mwy o fudd nag y mae'n ei gostio i'w ddatblygu a'i adeiladu.

O’r rhestr hir o opsiynau, roedd pump ar y rhestr fer:

  • Rheoli llifogydd yn naturiol - gweithredu mesurau seiliedig ar natur megis adeiladu pyllau, gosod argaeau sy'n gollwng ar draws nentydd, plannu coed a dadgywasgu pridd, i arafu a storio dŵr llifogydd
  • Man storio sianel East Brook - defnyddio'r sianeli mawr naturiol i storio dŵr llifogydd i leihau llif llifogydd i lawr yr afon yn Ninas Powys.
  • Man storio Afon Tregatwg i fyny'r afon - adeiladu arglawdd rhwng Cwm George a Choed Casehill i storio dŵr llifogydd dros dro yn ystod adegau o law trwm.
  • Cynllun llifogydd drwy Ddinas Powys - adeiladu waliau ac argloddiau ar hyd glannau'r afon, mewn gerddi tai ac ar hyd ymylon St Cadoc's Avenue, i ddal y llifogydd.
  • Storio i fyny'r afon a storio sianelau.

Yn seiliedig ar yr asesiadau diweddaraf, y risgiau a'r adborth gan y gymuned, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid eraill, nid yw CNC yn credu bod cynllun dichonadwy ar hyn o bryd i ddarparu datrysiad cymunedol i reoli'r perygl o lifogydd yn Ninas Powys.

Dywedodd Tim England, Rheolwr Gweithrediadau (Rheoli Dŵr a Llifogydd), CNC:

Gall llifogydd ddinistrio bywydau pobl a'n gwaith ni yw edrych ar ffyrdd o reoli'r perygl o lifogydd yn ein cymunedau ledled Cymru.
“Credwn ein bod wedi ystyried pob ffordd ymarferol o leihau'r risg i'r gymuned yn Ninas Powys, ond yn anffodus nid yw'n ymddangos bod ateb perffaith.
“Mae'r rhesymau dros hyn yn wahanol ar gyfer pob opsiwn a ystyriwyd. Nid yw rhai yn dechnegol bosibl i'w hadeiladu, byddai rhai yn rhy ddrud ac anymarferol, ac eraill â risgiau a allai ddod yn rhy ddrud.
“Rydym yn gwrando ac yn ystyried barn y gymuned, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid eraill drwy gydol y broses hon er mwyn llywio sut rydym yn symud ymlaen.
"Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn siarad â phobl i egluro ein canfyddiadau, a hoffem glywed eu barn."

Mae rhagor o fanylion am y perygl llifogydd, yr opsiynau a ystyriwyd a sut y cafodd pob un ei arfarnu ar gael ar wefan CNC: www.cyfoethnaturiol.cymru/dinaspowys 

Mae CNC yn gofyn am adborth ar ei ganfyddiadau erbyn 27 Mawrth 2020.