Ymchwilio Afon Llynfi ger Talgarth, Powys

Ymchwilio Afon Llynfi ger Talgarth, Powys
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio ar ôl canfod llygredd yn Afon Llynfi i lawr yr afon o Dalgarth, Powys.
Canfuwyd twf sylweddol o ffwng carthion yn yr afon a gostyngiad yn nifer y pryfed sy’n byw yn yr afon a nifer o’i rhagnentydd.
Cysylltir ffwng carthion fel arfer â dŵr llygredig ac mae’n tyfu ar unrhyw arwyneb fel ymateb i faetholion organig sy’n mynd i mewn i’r cwrs dŵr. Credir fod y llygredd yn ymestyn dros hyd at 5km.
Ceir tystiolaeth hefyd sy’n awgrymu fod dŵr daear yn yr ardal wedi ei halogi. Credir mai gweithgareddau gwasgaru ar y tir sy’n gyfrifol am achosi’r llygredd.
Meddai Steve Morgan, Rheolwr Gweithgareddau CNC: “Mae ein swyddogion yn cynnal ymchwiliadau er mwyn cadarnhau ffynhonnell y llygredd, casglu tystiolaeth a chanfod pwy sy’n gyfrifol am hyn.”