Gorchymyn i ddyn o Ogledd Cymru dalu dros £31,000 am droseddau gwastraff

Dau 4x4 a nifer o injans ar y llawr mewn iard

Mae dyn o Gerrigydrudion, ger Corwen wedi cael gorchymyn i dalu £31,690 ar ôl pledio'n euog i dri chyhuddiad gwastraff yn Llys Ynadon Caernarfon ar 18 Mai.

Roedd Graham Percival wedi bod yn gweithredu North Wales 4x4 Breakers', busnes torri cerbydau, yn Ryddymain ger Dolgellau ers 2018. Dechreuodd yr ymchwiliad i'w arferion busnes mewn ymateb i adroddiadau o droseddau gwastraff honedig gan y gymuned a gwaith rhagweithiol gan swyddogion gorfodi CNC.

Roedd Mr Percival wedi casglu deunyddiau gwastraff o gwsmeriaid heb ddiogelu'r amgylchedd ac nid oedd ganddo'r drwydded gywir i wneud hynny'n gyfreithlon.

Plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o weithredu cyfleuster rheoledig heb drwydded amgylcheddol ac un cyhuddiad o fethu â chydymffurfio â hysbysiad.

Rhoddwyd gorchymyn cymunedol 12 mis i Mr Percival gyda 250 awr o waith di-dâl ar gyfer gweithredu cyfleusterau a reoleiddir heb drwydded amgylcheddol.

Hefyd, gorchmynnodd y Barnwr iddo dalu dirwy o £20,000 am fethu â darparu gwybodaeth ar ôl cael hysbysiad o drosedd a gordal dioddefwr o £190. Cafodd orchymyn hefyd i dalu £11,500 i CNC am gost yr ymchwiliad a'r erlyniad.

Dywedodd Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru:
"Mae troseddau gwastraff yn broblem ddifrifol sy'n costio miliynau o bunnoedd i fusnesau, tirfeddianwyr a threthdalwyr bob blwyddyn ac yn achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd, iechyd pobl a bywyd gwyllt.
"Mae'n drosedd casglu, cludo, storio neu dorri cerbydau heb drwydded amgylcheddol. Mae tynnu batris, olwynion neu drawsnewidyddion catalytig yn dal i gyfrif fel torri.
"Os byddwn yn dod o hyd i dystiolaeth bod busnes sy'n torri cerbydau yn gweithredu heb y drwydded briodol sy'n diogelu'r amgylchedd, ni fyddwn yn oedi cyn ymchwilio a chymryd y camau gorfodi priodol .
"Yn yr achos hwn, fe wnaethom erlyn y cyflawnwr, ac fe gafodd gost ariannol swmpus gan y llys."

Dylai unrhyw un sy'n amau gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn eu hardal roi gwybod amdano drwy linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.