Dadorchuddio cerfluniau coetir newydd

Red deer Fforest Fawr

Gan ein bod wedi cael rhagflas o’r gwanwyn yng Nghymru o’r diwedd yr wythnos hon, caiff teuluoedd a cherddwyr yn Fforest Fawr, Tongwynlais eu croesawu gan lu o gerfluniau coetir newydd.

Aeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ati i gomisiynu’r artist Simon O’Rouke i greu 10 o gerfluniau anifeiliaid o gochwydden, ac maent wedi’u gosod ar hyd llwybr cerdded. 

Mae’r newydd-ddyfodiaid yn darlunio’r bywyd gwyllt a fyddai wedi crwydro’r goedwig ers talwm, ond sydd bellach wedi diflannu. Gyda phob un ceir cerdd yn adrodd hanes y goedwig a’i bywyd gwyllt. 

Cyn comisiynu’r gwaith celf, gofynnodd CNC i blant ysgol am awgrymiadau, a dewiswyd y syniad hwn yn y pen draw. 

Bydd y teulu newydd o gerfluniau’n disodli cerfweithiau eraill ar y llwybr, y bu’n rhaid eu symud ymaith y llynedd gan eu bod wedi pydru. 

Mae ambell un o’r hen gerfweithiau’n dal i fod ar y llwybr a chyn bo hir byddant yn cael eu hadnewyddu. 

Meddai Mike James, Rheolwr Coetir yn Cyfoeth Naturiol Cymru: 

“Mae Fforest Fawr yn lle gwych i ymweld ag ef, ac eisoes mae’n denu teuluoedd, cerddwyr, beicwyr a marchogwyr o bell ac agos. 

“Gobeithio y bydd pobl yn mwynhau ein llwybr cerfluniau newydd, ac y bydd cymeriadau’r coetir yn dod â stori’r goedwig, ei bywyd gwyllt a’i hanes yn fyw. 

“A chyda’r stori, daw neges gref – pwysigrwydd gofalu am ein hamgylchedd a’n coedwig er mwyn i’r bywyd gwyllt sy’n byw yno ar hyn o bryd allu parhau i ffynnu yno am flynyddoedd i ddod.” 

Rhwng 8-25 Mai bydd CNC hefyd yn dechrau uwchraddio’r llwybrau troed ar hyd y llwybr cerfluniau, yn barod ar gyfer ymwelwyr newydd dros yr haf. Bydd y llwybr troed yn parhau i fod ar agor yn ystod y cyfnod hwn. 

Ym mis Medi bydd gwaith i gael gwared ag oddeutu 4,000 o goed llarwydd heintiedig yn cychwyn. Yn ystod y cyfnod hwn bydd yn rhaid cau rhai rhannau o’r goedwig a gofynnir i bobl gadw at y gwyriadau, y bydd arwyddion clir wedi’u codi ar eu cyfer.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru