Trwyddedau cyffredinol newydd ar gyfer rheoli adar gwyllt

Heddiw (21 Mehefin), mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi pedair trwydded gyffredinol newydd ar gyfer rheoli adar gwyllt, a fydd yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2022.

Mae hyn yn dilyn cwblhau adolygiad CNC o'i system drwyddedu, a gynhaliwyd i sicrhau bod y prosesau sydd ar waith ar hyn o bryd yn gadarn ac yn gymesur.

Er bod pob aderyn gwyllt yn cael ei warchod gan y gyfraith, mae amgylchiadau penodol lle mae CNC yn rhoi trwydded ar gyfer rheolaeth farwol ar adar gwyllt a dinistrio wyau a nythod at ddibenion penodol, fel amddiffyn iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, atal difrod difrifol i gnydau, da byw neu bysgodfeydd, neu warchod rhywogaethau eraill.

Gellir defnyddio'r trwyddedau newydd a gyhoeddwyd heddiw – GL001, GL002, GL004 a GL005 – o 1 Gorffennaf 2022 ar gyfer gweithgareddau cyffredin sy'n peri risg isel i gadwraeth neu les rhywogaeth a warchodir.

Maent yn cadarnhau'r copïau rhagolwg a ryddhawyd ym mis Ebrill, gyda rhai mân newidiadau technegol.

Meddai Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Trwyddedu a Pholisi CNC:

"Rydym yn ymroddedig i ddarparu system drwyddedu sy'n effeithiol, yn ymarferol ac yn gymesur i ddefnyddwyr, gan hefyd ddarparu'r amddiffyniad angenrheidiol i adar.
"Rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ac wedi gwahodd tystiolaeth gan eraill i lywio ein gwaith. Daw’r trwyddedau hyn yn sgil mwy na 18 mis o waith, gan gynnwys dadansoddi dros 600 o ymatebion i'n hymgynghoriad, adolygiad o'r dystiolaeth wyddonol ac Adolygiad Barnwrol.
"Un o argymhellion allweddol ein hadolygiad yw ein bod yn sefydlu proses adolygu ffurfiol sy’n para chwe blynedd ar gyfer ein trwyddedau cyffredinol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n addas ar gyfer y dyfodol."

Gellir parhau i ddefnyddio'r fersiynau cyfredol o'r pedair trwydded gyffredinol hyn tan 30 Mehefin 2022.

Gall unrhyw un sy'n bwriadu defnyddio dulliau marwol i reoli adar mewn achosion nad ydynt yn dod o dan drwydded gyffredinol wneud cais am drwydded benodol o hyd.

Rhagor o wybodaeth ar gael yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Trwyddedau Cyffredinol i Adar 2022