Tîm tystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn darganfod yr enghraifft gyntaf yng Nghymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darganfod math o ffyngau prin nad wyddys amdano ynghynt yng Nghymru, yn ystod arolwg o 200 o gorstiroedd a ffeniau pwysicaf y wlad.
Mae’r arolygon manwl o fawndiroedd yng Nghymru yn aml yn datgelu rhywogaethau prin ac anarferol, ac yn ystod un o’r arolygon hyn daeth y tîm o hyd i rywbeth cyffrous iawn – Coden Fwg y Ffeniau (neu Bovista paludosa).
Mae’r Arolwg Mawndir Cenedlaethol wedi bod yn edrych ar fanteision mawndiroedd o safon uchel i bobl, i’r economi ac i fywyd gwyllt.
Mae’n gynefin pwysig ar gyfer natur, mae’n storio miliynau o alwyni o ddŵr sy’n helpu i leihau llifogydd ac mae’n storio carbon sy’n helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Dyma eglurhad Sam Bosanquet, uwch ecolegydd llystyfiant Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae arolygu’r mawndiroedd hyn yn waith pwysig gan eu bod yn cyflawni cymaint o fanteision cudd i gymdeithas.
“Pa un ai yw’n fater o reoli llif ein hafonydd, storio carbon neu , yn syml, gan ei fod yn lle rhagorol i ymweld ag ef, mae’n rhaid inni sicrhau eu bod mewn cyflwr da."
Roedd dod o hyd i’r goden fwg ar Fynydd Epynt ym Mhowys yn fonws ychwanegol a dyma’r tro cyntaf i’r math hwn o ffwng gael ei ddarganfod yng Nghymru. Mae’n eithriadol o brin a dim ond pum enghraifft arall a gofnodwyd yn y DU erioed.
Mae mor brin fel bod Coden Fwg y Ffeniau wedi ei henwi ar restr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) fel rhywogaeth y rhoddir blaenoriaeth i’w chadwraeth yn y DU.
Er bod mwy na 30 rhywogaeth o goden fwg Brydeinig i’w cael, mae cynefin ffen y Bovista paludosa yn nodedig ac mae ei phrinder yn adlewyrchu’r diffyg llystyfiant ffen yn ne Prydain.
Ychwanegodd Sam, sydd hefyd yn brif swyddog cadwraeth ffyngau CNC:
“Nid yn aml y mae rhywogaethau y rhoddir blaenoriaeth i’w cadwraeth yn y DU, ac sy’n gwbl newydd i Gymru, yn cael eu darganfod, ac mae hyn yn ein helpu i bwysleisio gwaith diddorol ac amrywiol ein hecolegwyr arbenigol wrth iddynt gasglu tystiolaeth i CNC.
“Yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf mae’r tîm wedi darganfod y ffwng Geoglossum sphagnophilum am y tro cyntaf ym Mhrydain mewn safle yng Ngwynedd a’r Sacroleotia turficola am y tro cyntaf yng Nghymru yn Sir Gaerfyrddin.”