Digwyddiad BogFest cyntaf erioed yng Nghors Fochno eleni

BogFest ar Cors Fochno

Oherwydd niferoedd isel ar gyfer y BogFest dydd Sadwrn yma rydym wedi penderfynu aildrefnu i ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.

Bydd Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE (CNC) Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ei ddigwyddiad BogFest cyntaf erioed yng nghyforgors Cors Fochno ddydd Sadwrn 4 Mehefin 2022.

Bydd y digwyddiad, wedi’i drefnu ar y cyd â Chanolfan Gymunedol Cletwr, yn dathlu’r gors a’i phlanhigion a bywyd gwyllt pwysig, yn ogystal â’r rôl mae wedi’i chwarae mewn llên gwerin leol.

Bydd ymwelwyr sy'n mynychu'r digwyddiad am ddim yn cael eu diddanu gan y storïwr lleol Peter Stevenson, a bydd gweithgareddau gwneud clai lle bydd plant yn gallu creu eu cerflun bach eu hunain wedi'i ysbrydoli gan y bywyd gwyllt neu'r planhigion y byddant yn eu gweld ar y diwrnod.

Meddai Jake White, Rheolwr Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru: "Eleni, bydd y prosiect yn dathlu pwysigrwydd Cors Fochno o safbwynt amgylcheddol a diwylliannol, ac mae croeso i bawb."

Mae cyforgorsydd mawn nid yn unig yn gartref i fywyd gwyllt prin, ond maen nhw hefyd yn darparu llawer o'r pethau y mae cymdeithas yn dibynnu arnyn nhw fel dŵr glân, amddiffyniad rhag llifogydd, modd i storio carbon, ac maen nhw hefyd yn llefydd gwych i bobl fwynhau'r awyr agored.

Cors Fochno yw un o'r cyforgorsydd mwyaf yn iseldir Prydain sy'n dal i dyfu, gyda mawn hyd at 8 metr o ddyfnder mewn mannau. Mae wedi’i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) oherwydd ei phwysigrwydd amgylcheddol rhyngwladol.

Bydd y diwrnod yn dechrau am 9.30am yng Nghletwr a gallwch rannu ceir i deithio i Gors Fochno. Bydd dwy sesiwn i ymuno â nhw yn ystod y dydd, y cyntaf am 9.30am a'r ail am 12.30. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://cletwr.com/cymraeg/