Gadewch y barbeciw gartref i atal tanau mewn coedwigoedd

Wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru ddechrau’r broses o ail-agor cefn gwlad Cymru ac i rhoi mwy o fynediad i’n safleoedd i bobl lleol., anogir ymwelwyr i adael barbeciws gartref i helpu i atal tanau gwyllt.

Mae barbeciws tafladwy yn gallu achosi tanau gwyllt anodd eu rheoli yng Nghymru ac yn ddiweddar, bu tân ger Fferm Hafod yng Nghwm Afan. Llwyddwyd i reoli’r tân yn sydyn, cyn iddo gydio’n ormodol.

Y prif bethau sy’n achosi tanau gwyllt damweiniol yw peidio â diffodd barbeciws yn gyfan gwbl, peidio â chael gwared ohonynt yn iawn neu fynd â nhw adref.

Mae sigaréts a thanau agored hefyd yn achosi tanau anodd eu rheoli sy’n difetha coedwigoedd a mannau gwyllt.

Meddai Richard Owen, Arweinydd Tîm ar gyfer Cynllunio Hamdden Ystâd, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Wrth i ni groesawu pobl yn ôl i’n safleoedd, rydyn ni’n gofyn i bobl gymryd gofal a helpu i gefnogi ein gwasanaethau brys a gwarchod mannau arbennig.
“Nid yw pobl yn sylweddoli mor hawdd ydyw i weddillion tân o farbeciw neu goelcerth, neu daflu sigarét sydd heb ddiffodd, ddatblygu i rywbeth llawer mwy.
“Ewch â phicnic gyda chi yn lle barbeciw i leihau’r perygl o dân. Os bydd pobl yn anwybyddu’r cyngor hwn ac yn penderfynu cael barbeciw beth bynnag, hoffwn eu hannog i wneud yn gwbl sicr eu bod yn ei ddiffodd ar ôl gorffen coginio ac yn cael gwared ohono’n iawn trwy fynd ag ef adref.
“Mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae i atal y difrod a wneir i’n coedwigoedd, byd natur, bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn sgil tanau gwyllt. Dilynwch gyngor diogelwch a’r Cod Cefn Gwlad.”

Dilynwch y cyngor diogelwch canlynol i helpu i atal tanau gwyllt ac i sicrhau eich bod yn ymweld yn ddiogel â choedwigoedd a thiroedd cenedlaethol Cymru:

  • Os gwelwch dân gwyllt, galwch 999 a gofynnwch am y gwasanaeth tân ac achub.
  • Ewch â phicnic gyda chi yn hytrach na barbeciw tafladwy. Os dewiswch fynd â barbeciw, gwneud yn siŵr ei fod wedi ei ddiffodd yn llwyr ac ewch ag ef adref gyda chi.
  • Peidiwch byth â thanio tân agored yn ystod cyfnodau maith o sychder.
  • Diffoddwch sigaréts yn llwyr a’u gwaredu mewn modd cyfrifol.