Adolygiadau llifogydd Chwefror 2020 yn sbarduno galwad i gynyddu'r ymateb i effeithiau Argyfwng yr Hinsawdd

Afon Taf ym Mhontypridd yn ystod y storm Dennis

Rhaid i'r gwersi a ddysgwyd o lifogydd mis Chwefror fod yn gatalydd ar gyfer newid seismig yn y ffordd y mae Cymru'n ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac yn rheoli ei pherygl llifogydd yn y dyfodol.

Dyna'r alwad frys gan Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Clare Pillman, wrth i'r sefydliad gyhoeddi ei adolygiadau i'w ymateb i lifogydd mis Chwefror heddiw (22 Hydref 2020).

Cyrhaeddodd y glawiad a’r llifoedd uchaf erioed yn sgil Stormydd Ciara, Dennis a Jorge yn gynharach eleni yn dilyn gaeaf eithriadol o wlyb, ac arweiniodd at y llifogydd mwyaf difrifol a helaeth yng Nghymru ers 1979, pan effeithiwyd ar lawer o'r un cymunedau.

Mae buddsoddiadau a wnaed i adeiladu amddiffynfeydd CNC ers hynny wedi gwella gallu Cymru i wrthsefyll glaw eithafol yn sylweddol. Mae rhwydwaith o amddiffynfeydd rhag llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ledled Cymru'n helpu i ddiogelu 73,000 o eiddo rhag llifogydd, ac amcangyfrifir wnaeth 19,000 o eiddo yn Ne Cymru dianc rhag y dyfroedd llifogydd yn ystod Storm Dennis oherwydd presenoldeb amddiffynfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ac eto, teimlwyd effeithiau'r stormydd olynol yn gynharach eleni dros y wlad benbaladr wrth i 3,130* eiddo ddioddef yn nyfroedd y llifogydd a ddilynodd yn ystod y mis.

Cadarnhaodd y Swyddfa Dywydd yn ddiweddarach mai Chwefror 2020 oedd y mis Chwefror gwlypaf ers dechrau cofnodi, a’r pumed mis gwlypaf ers dechrau cadw cofnodion ym 1862.

Wrth fyfyrio ar y digwyddiadau, dywedodd Clare Pillman:

O'r bywydau a ddifawyd gan y llifoedd didrugaredd, i'r heriau a wynebwyd gan y rhai yn yr ymateb brys, roedd digwyddiadau eithriadol mis Chwefror yn brawf i bawb dan sylw ac rydym yn meddwl am y rhai sy'n dal i adfer ac ailadeiladu heddiw.
Yn union fel yr oedd llifogydd 1979 yn drobwynt ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru, roedd digwyddiadau mis Chwefror yr un mor dyngedfennol. Roedd llymder stormydd y gaeaf yn rhybudd o batrymau amlach o dywydd eithafol i ddod, a rhaid i'r gwersi a ddysgwn o'n profiadau gynnau'r trafodaethau am y buddsoddiadau sydd eu hangen, a'r paratoadau y mae angen i bob un ohonom eu gwneud i addasu i newid yn yr hinsawdd ac atgyfnerthu gwytnwch Cymru yn wyneb llifogydd am flynyddoedd i ddod.

Daw'r alwad i weithredu ar y diwrnod y mae CNC yn cyhoeddi canlyniadau ei adolygiadau ar ei ymateb i stormydd mis Chwefror.

Mae'r adroddiadau – sydd wedi'u hadolygu'n annibynnol - wedi edrych ar weithdrefnau a chamau gweithredu CNC, gan gynnwys perfformiad amddiffynfeydd rhag llifogydd a'r gwasanaeth rhybuddio rhag llifogydd yng nghyd-destun yr amodau eithriadol. Maent hefyd wedi edrych ar sut mae'r sefydliad yn rheoli'r tir sydd yn ei ofal i ddeall a gyfrannodd unrhyw un o weithrediadau rheoli tir CNC cyn y llifogydd at effeithiau ar gymunedau.

Canfu'r adolygiadau fod y penderfyniadau a'r camau a gymerwyd gan staff CNC wedi chwarae rhan sylweddol wrth liniaru effeithiau a allai fod wedi bod yn fwy difrifol ledled Cymru. Wrth gau llifddorau, gosod rhwystrau dros dro a chlirio strwythurau, sicrhawyd bod llawer o ardaloedd yn cael eu diogelu'n effeithiol rhag y dyfroedd.

Serch hynny, roedd maint y digwyddiadau'n golygu bod straen mawr ar weithrediadau CNC. Roedd hyn yn cynnwys y gallu i ymateb i ddigwyddiadau a oedd yn gwaethygu'n gyflym ac nas rhagwelwyd ar lawr gwlad, neu i gasglu arsylwadau gweledol i gefnogi cyhoeddi rhybuddion llifogydd.

Cyhoeddwyd 243 o Rybuddion Llifogydd, 181 o Negeseuon Llifogydd - Byddwch yn barod a 6 Rhybudd Llifogydd Difrifol ym mis Chwefror, gan ganiatáu i bobl gymryd camau i leihau'r effaith arnynt eu hunain, eu teuluoedd a'u heiddo. Fodd bynnag, ni chyhoeddwyd 12 rhybudd llifogydd lle dylid bod wedi’u cyhoeddi, a chyhoeddwyd chwech yn hwyr. Mae rhai gwelliannau wedi'u gwneud yn ddi-oed ers hynny i helpu i leihau'r posibilrwydd y bydd hyn yn digwydd eto mewn digwyddiad ar raddfa debyg, ac mae'r adolygiad yn argymell camau gweithredu tymor hwy ar gyfer gwelliannau pellach.

Difrodwyd rhai amddiffynfeydd yn dilyn y llifogydd ond gaeth dim un ohonynt fethiant strwythurol.

Mae'r holl waith atgyweirio i amddiffynfeydd yr oedd angen rhoi sylw iddynt ar unwaith wedi'i gwblhau . Bydd gwelliannau amddiffynfeydd tymor hwy yn cael eu rolnu i'w gyflawni dros y misoedd nesaf.

Cydnabyddir bod llawer o ddigwyddiadau eraill yn ymwneud â llifogydd o afonydd a nentydd llai, draeniad ffyrdd a charthffosydd. Mae CNC yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar eu hymchwiliadau eu hunain i achosion llifogydd yn eu hardaloedd eu hunain lle y bo'n briodol.

Fel rhan o'r adolygiad rheoli tir, mae CNC hefyd wedi edrych ar reoli tir Ystad Goetir Llywodraeth Cymru uwchben Pentre, Aberpennar a Blaenllechau yn Rhondda Cynon Taf i ganfod sut y gallai gweithrediadau tir fod wedi cyfrannu at effeithiau llifogydd yn yr ardal hon.

Canfu'r adolygiad fod gweithrediadau CNC ar y safle uwchben pentref Pentre yn cyd-fynd â safonau arferion coedwigaeth da ac nad oedd y gweithrediadau hyn yn debygol o fod yn brif achos y llifogydd ym Mhentre.

Mae'r adolygiad o lifogydd yn nodi pum thema allweddol y mae angen i CNC fynd i'r afael â hwy yn y tymor byr a'r tymor hwy – wedi'u hategu gan ddeg maes gweithredu allweddol - a fydd yn cyflymu cynnydd Cymru i fod wedi’i diogelu a'i pharatoi’n well ar gyfer tywydd mwy eithafol.

Y rhain yw:

• Diffygion yn narpariaeth y gwasanaeth rhybuddio am lifogydd, sy'n amlwg mewn digwyddiadau mor ddifrifol ac eithafol.
• Cyfyngiadau o ran capasiti i rybuddio ac ymateb yn effeithiol i lifogydd ar raddfa sylweddol fel hon.
• Yr angen am fewnbwn sefydliadol cryfach a chyfannol i ymateb CNC i lifogydd.
• Gwelliannau sydd eu hangen yng ngweithredoedd CNC yn y cyfnod cyn digwyddiadau ac i'w allu i wella yn eu sgil.
• Rhaid gwneud dewisiadau anodd ynglŷn â lefel y gwasanaeth sy'n ymarferol, yn realistig ac yn ddichonadwy, a'r goblygiadau cysylltiedig o ran y buddsoddiad y bydd ei angen.

Mae casgliadau'r adolygiad o reoli’r ystad tir hefyd wedi arwain at ddeg argymhelliad allweddol arall ar sut y dylai CNC addasu ei ddull presennol o reoli tir er mwyn cyfrannu at leihau'r risg o lifogydd bach i ganolig ar lefel leol.

Ychwanegodd Clare Pillman:

Mae CNC yn cymryd y canlyniadau a'r camau a argymhellir yn ein hadolygiadau o ddifrif, gan dderbyn yn llwyr ble mae angen newid i wella'r gwasanaeth a ddarparwn. Rydym wedi ymrwymo i weithredu'r gwelliannau y mae'n eu hargymell.
Ymhlith y materion y mae ein hadolygiadau wedi'u nodi, mae pethau y gellir mynd i'r afael â hwy'n gyflym, ac rydym wedi ymdrin â rhai o’r rhain yn barod. Bydd meysydd eraill o welliant yn gofyn am fuddsoddi, dylunio a chynllunio sylweddol a bydd yn cymryd peth amser, blynyddoedd o bosibl, i'w datrys yn llawn.
Ond mae'n amlwg bod gwersi i'w dysgu a gwelliannau i'w gwneud ar gyfer yr holl gyrff sy'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd yng Nghymru. Er na allwn briodoli pob storm i effeithiau newid yn yr hinsawdd, mae'r dystiolaeth wyddonol yn awgrymu ein bod yn debygol o weld mwy o'r digwyddiadau tywydd eithafol hyn yn y dyfodol.
Nid oes un ateb, ac mae'r her yn fwy nag y gall unrhyw un sefydliad fynd i'r afael ag ef ar ei ben ei hun. Dyna pam mae angen i bob lefel o lywodraeth, y sefydliadau sy'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd, busnesau a'r cymunedau sydd mewn perygl, i gyd fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau, gan dynnu ar yr holl ddulliau sydd ar gael inni i ateb heriau hinsawdd sy'n newid.

Cyhoeddir yr adolygiadau yn yr wythnos y lansiodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol – fframwaith sy'n nodi'r cyfeiriad ar gyfer dull Cymru o reoli'r risgiau sy'n deillio o lifogydd ac erydu arfordirol yn wyneb argyfwng yr hinsawdd dros y degawd nesaf.

Dywedodd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Syr David Henshaw:

Rydym yn croesawu cyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cymru ac rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda hi a chyda phartneriaid i weithredu a datblygu'r polisi mewnol.
Serch hynny, hyd yn oed yn y cyd-destun hwn, ac er gwaethaf y buddsoddiad sylweddol mewn rheoli perygl llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf, dangosodd digwyddiadau mis Chwefror fod angen gwneud mwy i addasu i heriau a fydd yn cael eu gwaethygu gan y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Mae dewisiadau a phenderfyniadau anodd i'w gwneud.
Un o gasgliadau pwysig ein hadolygiadau yw nad oedd graddfa'r adnoddau sydd ar gael i CNC yn cyfateb i faint y dasg dan sylw ar gyfer digwyddiad o'r raddfa a'r maint hwn. Gellir gwneud gwelliannau i rai elfennau o'n gwasanaeth presennol o fewn yr adnoddau presennol, a byddant yn gwneud hynny.
Ond fel y dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wrth lansio'r strategaeth llifogydd newydd i Gymru, mae angen i ni gael y sgyrsiau am sut rydym yn ymateb i'r perygl o lifogydd a heriau’r hinsawdd yn y dyfodol. Mae arnom angen dealltwriaeth gyffredin hefyd o lefel y gwasanaeth y mae Cymru am ei chael ac yr ydym yn barod i fuddsoddi ynddo, a sut y gall pob sefydliad a cymuned gydweithio i wella gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd yn y dyfodol.

Bydd CNC yn parhau i fuddsoddi yn ein pobl, ein technoleg, ein seilwaith, ein systemau a'n prosesau i ymgymryd â'n dyletswyddau rheoli perygl llifogydd ac amddiffyn ein cymunedau. Ond mae effaith newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth i bob un ohonom fynd i'r afael ag ef ar y cyd ac mae'n fater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef yn ddi-oed.

Darllenwch ein hadolygiadau o Stormydd Chwefror 2020