Adolygiad o drwyddedau amgylcheddol yn canolbwyntio ar y sector prosesu bwyd, diod a llaeth

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi adolygu trwyddedau amgylcheddol safleoedd mwyaf Cymru ar gyfer prosesu bwyd, diod a llaeth ac wedi’u diweddaru er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau amgylcheddol uchaf.

Mae’r ymarfer yn cynnwys adolygu trwyddedau yn erbyn yr arferion gorau diweddaraf yn y diwydiant, sy’n cael eu galw’n Dechnegau Gorau Sydd ar Gael (BAT).

Mae’n ofyniad gan y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol ac mae’n sicrhau bod diwydiant yn parhau i ddefnyddio’r technegau gorau ar gyfer atal neu leihau allyriadau ac effeithiau ar yr amgylchedd.

Meddai Holly Noble, Arweinydd y Tîm Trwyddedu yn CNC:

“Mae ein trwyddedau amgylcheddol yn pennu’r amodau ar gyfer sut mae’n rhaid i gyfleuster weithredu ac yn cyfyngu ar yr allyriadau i’r amgylchedd – ond nid dyna benllanw’r broses.
“Bydd pob safle’n cael ei reoleiddio’n agos gan ein swyddogion, ond hefyd mae’n rhaid iddyn nhw gadw ar flaen y gad o ran y datblygiadau technolegol diweddaraf a gweithio’n gyson tuag at wella’u perfformiad amgylcheddol.
“Mewn rhai achosion, mae hyn yn gofyn i gwmnïau wneud buddsoddiad sylweddol yn eu seilwaith, ac rydyn ni’n deall nad yw hyn yn hawdd mewn dyddiau mor ansicr, ond mae’n ymarfer pwysig i ni ei wneud, sy’n ein caniatáu ni i yrru gwelliannau yn y diwydiant a chodi’r holl safleoedd ar gyfer prosesu bwyd, diod a llaeth i lefel gyson ar draws Cymru.”

Ymhlith y technegau posib, mae’r dechnoleg a ddefnyddir a’r ffordd mae gosodiad yn cael ei ddylunio, ei adeiladu, ei gynnal a’i gadw, ei weithredu a’i ddatgomisiynu.

Mae’r safleoedd hyn ar gyfer prosesu bwyd a diod yn gyfleusterau mawr sy’n defnyddio amrywiaeth eang o dechnolegau i drin deunyddiau amrwd wrth gynhyrchu cynhyrchion bwyd a diod. Gall y rhain amrywio o weithgareddau sychu mewn hufenfeydd i falu a phelennu mewn melinau bwyd anifeiliaid.

Lle bo gwelliannau wedi’u nodi, bydd hyn yn arwain at leihad yn yr allyriadau a gwell perfformiad amgylcheddol.

Er enghraifft, bellach mae gan safleoedd malu a phelennu derfyn mwy llym ar gyfer allyriadau llwch i’r aer ac mewn safleoedd sy’n defnyddio oeryddion ar gyfer oeri a rhewi, mae amod newydd wedi’i gynnwys i leihau’r defnydd o’r cemegau oeri sydd â’r potensial mwyaf o ran cynhesu byd-eang.

Ac yn achos y safleoedd hynny sy’n arllwys carthffrydiau wedi’u trin i’r dŵr wyneb, mae rhai wedi gweld y terfynau ar gyfer carthffrydiau wedi’u tynhau ar gyfer gwahanol baramedrau, yn cynnwys nitrogen a ffosfforws. Er enghraifft, mewn un safle bydd gweithredu’r BAT newydd yn arwain at leihau’r terfyn ar gyfer ffosfforws o 15 mg/l i 2 mg/l.

At ei gilydd, bydd yr amodau newydd yn annog defnyddio dulliau amgen ac yn symbylu gwelliannau parhaus i’r dyfodol.

Mae deunaw o gyfleusterau wedi’u hasesu a thrwyddedau wedi’u hailgyhoeddi gydag amodau wedi’u diweddaru a fydd yn gwella systemau rheoli amgylcheddol y safle, gan sicrhau lefel uwch o berfformiad amgylcheddol gydag ymrwymiad i wella’n barhaus.

Cyhoeddwyd Dogfen Gyfeirio Technegau Gorau Sydd ar Gael yr UE ar 3 Rhagfyr 2019 yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan osodiadau bwyd, diod a llaeth sy’n bodoli eisoes bedair blynedd i gydymffurfio, ond rhaid i osodiadau newydd gydymffurfio â’r safonau newydd ar unwaith.