A yw cael perllan yn eich ysgol neu leoliad addysg yn swnio'n ffrwythlon?

Disgyblion yn Ysgol Gynradd Fairfield yn plannu coeden afal

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i ysgolion a lleoliadau addysg yn Ne Cymru gofrestru i dderbyn coed ffrwythau am ddim i greu eu perllannau eu hunain i helpu i addysgu plant am natur pan fyddant yn ailagor.

Nod y Prosiect Perllannau Ffrwythlon yw rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar addysgwyr i allu sefydlu perllan fach, ei reoli a'i ddefnyddio fel adnodd dysgu.

Mae'r prosiect yn darparu cyfleoedd i wella cysylltiad plant â natur, tra hefyd yn cynyddu bioamrywiaeth drwy greu cynefinoedd newydd gyda bwyd i adar a phryfed mewn ardaloedd trefol yn bennaf.

Gofynnir i ysgolion a lleoliadau addysg yn ardaloedd Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr, gyda digon o le i blannu hyd at bum coeden ffrwythau, lenwi ffurflen ar-lein i gofrestru eu diddordeb erbyn 31 Ionawr 2021.

Ynghyd â choed ffrwythau am ddim, bydd ysgolion a lleoliadau addysg cymwys yn derbyn hyfforddiant i'w helpu i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd dysgu y bydd eu perllan newydd yn eu cynnig.

Dywedodd Nadia De Longhi, Rheolwr Gweithrediadau CNC:

"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gallwn gefnogi a hwyluso dysgu yn yr amgylchedd naturiol, o'i gylch ac ar ei gyfer.
"Profwyd ei fod yn helpu dysgwyr o bob oed i ddatblygu cysylltiad cryfach â natur a’n gwella ymwybyddiaeth amgylcheddol sy'n arwain at ymddygiad cadarnhaol yn y tymor hir. Mae plannu coed ffrwythau hefyd yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
"Er gwaethaf yr aflonyddwch a achoswyd gan bandemig y coronafeirws, mae dwsinau o ysgolion a lleoliadau eisioes wedi cofrestru i dderbyn eu coed ffrwythau gyda chymorth gan ein partneriaid awdurdod lleol, ac mae rhai eisoes wedi plannu eu coed. Rydym yn annog mwy o ysgolion a lleoliadau i fanteisio ar y cyfle ffrwythlon hwn.
"Ar ôl cofrestru, byddwn yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i gynllunio eu perllan, darparu'r adnoddau dysgu y bydd eu hangen arnynt a dosbarthu’r coed."

Ym mis Rhagfyr, plannodd disgyblion Ysgol Gynradd Fairfield ym Mhenarth berllan o bum coeden afalau ar dir eu hysgol.

Cyn plannu, gwnaeth y disgyblion gynllun plannu coed ac roedd ganddynt bopeth yr oedd ei angen arnynt ar y diwrnod i blannu'r coed yn ddiogel.

Nawr mae'r coed yn y ddaear bydd Pwyllgor Eco'r ysgol yn gofalu amdanynt.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio Cyngor Bro Morgannwg:

"Rwy'n falch iawn bod cymaint o ysgolion y Fro wedi cymryd rhan weithredol yn y prosiect hwn, mae rhai hyd yn oed wedi gwirfoddoli i ofalu am goed ar gyfer ysgolion eraill sydd â gwaith adeiladu ymlaen ar hyn o bryd.
"Rwy'n arbennig o falch bod Ysgol Gynradd Fairfield, fy ysgol gynradd leol, wedi croesawu'r cynllun gan sicrhau bod gan eu coed bopeth sydd ei angen arnynt i ffynnu. Edrychaf ymlaen at ymweld â'u perllan newydd cyn gynted â phosibl."

Gall ysgolion a lleoliadau addysg ymuno â'r prosiect drwy ymweld â https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/south-central-wales/prosiect-perllannau-ffrwythlon