Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Rhinog

Bob mis mae ein timau’n sgwennu blog am y llefydd arbennig maen nhw’n reoli. Yma, mae Paul Williams, Uwch Reolwr Gwarchodfeydd Ucheldiroedd Eryri yn disgrifio ymweliad gwlyb i Warchodfa Natur Genedlaethol Rhinog.

Mae’r niwl at fy nhraed, y glaw mân wedi fy ngwlychu, a does dim golwg o gopaon trawiadol y Rhinog Fawr a’r Rhinog Fach, ond dwi’n hapus! Ar ôl cyfnod mor hir o dywydd braf a phoeth ddechrau’r haf, da ydi cael croesawu’r glaw eto. Roedd y sychder wedi dechrau dangos ei ôl ar dirlun unigryw y Rhinogydd. Fel rheol yn borffor hardd efo grug trwchus, mae ambell lecyn wedi bod yn goch, a’r tyfiant wedi crino.

Yn fwy na dim mae’r glaw yn golygu llai o beryg o gael tân. Rwan fod rhywfaint o ddŵr yn ôl yn y tir, mae’r bygythiad - i’r grug ac i’r mawn oddi tano - yn llai, a diolch am hynny, oherwydd y byddai’n anodd iawn rheoli tân ar y rhostir anferth yma, a gallai fod yn ddifrifol i’r cynefin a’i fywyd gwyllt.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Rhinog drwch blewyn yn llai na 600 hectar o faint; ac mae’r tiroedd mynyddig, grugog o’i hamgylch yn fwy eto. Dyma’r peth agosaf at ‘wilderness’ sydd gennym ni yng Nghymru. Lle gwyllt, diarffordd, anghysbell, ac ôl llaw dyn yn llai amlwg na phob man arall. Yn ur un modd na fedrwch gyfieithu hiraeth ac eisteddfod i’r Saesneg, mae’n anodd cael gair Cymraeg boddhaol am wilderness. Er bod Geiriadur yr Academi1 yn eu rhestru, a nifer yn eu defnyddio: nid anialdir na diffeithwch mo’r Rhinogydd! Mae yma gyfoeth o fywyd gwyllt i’r rhai sy’n fodlon mentro i’w ganol i chwilio.

grug

Yn wledd o grug a chraig

Gwarchodfa’r Rhinog yw’r unig dir yng Nghymru sydd wedi’i ddynodi’n ‘Warchodfa Biogenetig’. Cafodd y fraint ryngwladol honno am mae dyma’r ardal fwyaf sydd gennym o rostir sych aeddfed mewn cyflwr da. Mae’r honiad bod yn rhaid torri a llosgi yn rheolaidd er mwyn rheoli grug yn cael ei wrth-brofi yn y Rhinogydd. Yma, pori ysgafn ydi’r unig reolaeth uniongyrchol. A da o beth, gan fod y tirwedd arw yn ei gwneud yn anodd iawn gweithio arni, ac yn amhosib defnyddio cerbyd o unrhyw fath yma.

Mae’n debyg bod Gerallt Gymro wedi disgrifio’r ardal fel ‘y mwyaf garw o holl dir Cymru’ yn y ddeuddegfed ganrif, a gallwch ddadlau mae ychydig iawn sydd wedi newid ar y ddaear ers hynny. Daw disgrifiad y naturiaethwr William Condry o dir y Rhinogydd fel “ankle-testing riot of heather and rocks…”2  i’r cof a chodi gwên bob tro dwi’n gorfod brwydro a baglu trwy’r tyfiant a’r cerrig dan draed wrth grwydro’r Warchodfa. Dau brif lwybr sydd yn croesi Gwarchodfa’r Rhinog; y ddau yn cysylltu arfordir Ardudwy efo plwyf Trawsfynydd. Trwy’r bylchau daw’r ddau, yn llwybrau masnach pwysig ers talwm dwi’n siwr: Bwlch Drws Ardudwy, a Bwlch Tyddiad, ac mae llwybrau llai amlwg yn gwyro oddi arnynt am y copaon. Ond buan iawn gwelwch chi be oedd gan Condry dan sylw os ewch chi off-piste!

Yn wahanol iawn i botiau mêl yr ymwelwyr fel yr Wyddfa a Chadair Idris (dwy Warchodfa arall dwi’n falch o weithio arnynt) ychydig iawn o bobol sy’n mentro i’r Rhinogydd, gan ychwanegu at naws gwyllt y lle. Yn sicr, does dim enaid byw yma pan mae’n glawio a’r cwmwl yn isel.

Ond dwi ddim yma i grwydro y tro hwn. Af oddi yma i sychu a chynhesu efo panad yn y swyddfa, ar ôl bodloni fy hun fod y pyllau -sydd mor werthfawr i weision neidr a llyffaint- yn llawn dŵr eto, a’r planhigion yn cael rhyddhad o’r sychder hir.

Ond cyn mynd, caf fwynhau llond llaw, neu ddwy, o ffrwyth hyfryd y rhostir. Mae’r llus yn dew a blasus rwan… ond peidiwch a dweud wrth pawb!

llus

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur yr Academi. Griffiths, B. Jones,D.G. Gwasg Prifysgol Cymru. 1995. Hefyd https://geiriaduracademi.org/telerau-defnydd/
  2. The Snowdonia National Park. Condry, W. New Naturalist, Collins. 1966

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.