Byd Tanddwr Parth Cadwraeth Forol Sgomer

Un o brif nodau ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (NNR) yw rheoli a gwarchod yr amrywiaeth eang o gynefinoedd a bywyd gwyllt sydd yng Nghymru.
A ’dyw Gwarchodfa Natur Forol Ynys Sgomer (MNR) ddim gwahanol, heblaw bod y rhan fwyaf o'i bywyd gwyllt rhyfeddol ynghudd o dan y dŵr.
Fe’i dynodwyd yn Warchodfa Natur Forol yn 1990 a newidiwyd ei henw i 'Barth Cadwraeth Forol Sgomer' yn 2014.
Mae'r Parth Cadwraeth Forol (MCZ) yn amgylchynu Ynys Sgomer (sydd yn Warchodfa Natur Genedlaethol ynddi’i hun) a Phenrhyn Marloes, Sir Benfro. Mae'r arfordir rhyfeddol hwn ynghyd â gwely'r môr yn darparu digonedd o wahanol gynefinoedd ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion.
Ond pam fod yr ardal hon yn arbennig a pham bod angen ei diogelu?
Mae'r MCZ hon ar y pwynt mwyaf gogleddol ar gyfer nifer o rywogaethau dŵr cynnes sy’n fwy cyffredin yn y Môr Canoldir, fel y môr-wyntyll pinc, cwrelau meddal coch a phinc a chwrel cwpan ysgarlad ac aur.
Mae hefyd yn ffin ddeheuol rhai rhywogaethau gogleddol fel yr heulseren, rhywogaeth o seren fôr sydd â 13 o goesau.
Safle Sgomer a’r ffaith bod dyfroedd cynnes o Lif y Gwlff yn cwrdd â'r cerhyntau dŵr oer o'r Arctig sydd i gyfrif am y gymysgedd unigryw hon o greaduriaid.
Mae cerhyntau llanwol cryfion o amgylch yr ynys sy’n llawn plancton (gwaelod y gadwyn fwyd), ac sy’n caniatáu i lawer o rywogaethau ffynnu.
Mae'r anifeiliaid sydd ynghlwm wrth wely'r môr, fel blodau’r gwynt, pinwydd môr, chwistrellod môr a chregyn gleision, yn bwydo ar y plancton. Maent hwythau wedyn yn darparu bwyd ar gyfer anifeiliaid symudol fel sêr môr, draenogiaid môr, pysgod a chimychiaid.
Mae'r cartrefi’n amrywio o riffiau creigiog serth, coedwigoedd trwchus o wymonau i gymunedau o waddodion cyfoethog sy'n darparu amrywiaeth eang o fywyd.
Mae'r cyfoeth hwn o fywyd yn bwydo miloedd o adar môr sy'n nythu ar Ynys Sgomer a phoblogaeth iach o forloi llwyd yr Iwerydd.
Rhaglen Fonitro Danddwr
Er mwyn amddiffyn yr amgylchedd morol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae angen i ni ddeall sut a pham mae'r amgylchedd yn newid.
Mae gennym dîm o bedwar biolegydd môr Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi’u lleoli yn Martins Haven, ac sydd i gyd yn ddeifwyr gwyddonol cymwys. Ein prif swyddogaeth yw mapio, arolygu a monitro cynefinoedd morol a'r rhywogaethau sy'n byw yn y GNF er mwyn casglu tystiolaeth a gwybodaeth am iechyd yr amgylchedd morol.
Cyfraniad hollbwysig deifwyr gwirfoddolwyr 
Mae rhai o'n harolygon fel pysgod tiriogaethol, draenogiaid môr a gwellt y gamlas (sy’n wair morol rhubanog) yn cael eu cynllunio'n benodol ar gyfer timau o ddeifwyr gwirfoddol profiadol a brwdfrydig.
Cynhelir arolwg gwirfoddolwyr bob blwyddyn dros ddau benwythnos, sy’n ffordd wych o gasglu llawer iawn o ddata.
Eleni cynhaliwyd arolwg o boblogaeth y cregyn bylchog, sy’n arolwg arbennig o bwysig.
Arolygon cynefinoedd gwaddod a chregyn bylchog
Gwaharddwyd llusgrwydo am gregyn bylchog, a hel cregyn bylchog mewn unrhyw fodd (gan gynnwys â llaw), pan ddynodwyd MCZ Sgomer yn warchodfa.
Cynhaliwyd ein harolwg cyntaf o gregyn bylchog gan ddeifwyr gwirfoddol yn 2000, er mwyn asesu sut mae’r boblogaeth wedi newid ers yr 1980au. Rydym wedi gwneud hyn bob pedair mlynedd.
Mae’r canlyniadau yn dangos fod y boblogaeth wedi cynyddu a bod y cynefin gwaddod nawr yn cynnal cynnydd mewn bywyd gwyllt amgen ers i’r safle gael ei ddynodi 26 mlynedd yn ôl.
Ar yr olwg gyntaf mae cynefinoedd (gwaddod) o raean, llaid a chregyn wedi torri yn ymddangos yn anghyfannedd. Ond o edrych ychydig yn fanylach byddwch yn dechrau sylwi ar arwyddion o fywyd.
Mae’r anifeiliaid sy’n byw fan yma unai â chuddliw anhygoel i’w helpu i oroesi neu maent yn goroesi drwy dyrchu dan y gwaddod; creaduriaid fel mwydod, milflodau’r môr sy’n tyllu a chreaduriaid bach tebyg i ferdys, o’r enw deudroediaid. Yn wir, mae dros 1000 o rywogaethau yn byw yn y cynefinoedd gwaddod o amgylch Sgomer, sy’n ei wneud yn un o leoliadau mwyaf amrywiol y DU.
Mae cregyn bylchog eu hunain hefyd yn cael eu hystyried yn 'gynefinoedd micro' gan fod llu o anifeiliaid eraill yn glynu i’w cregyn. Mae’r rhain yn cynnwys cregyn llong, sbyngau a chwistrellod môr. Mae hyd yn oed cregyn bylchog marw yn darparu cartref i nifer o rywogaethau o grancod, sêr brau, a draenogiaid môr ifainc.
Maent hefyd yn ffefryn gyda physgodyn morol bychan o'r enw llyfrothen adeiniog, oherwydd eu bod yn gallu dodwy’u hwyau y tu mewn i'r gragen ac yna cuddio ynddi i warchod eu hepil yn ddiogel.
Arolygon morol yn rhoi data tymor hir pwysig
Ym Mharth Cadwraeth Forol (MCZ) Sgomer mae rhaglen fonitro rhywogaethau morol a chymunedau mwyaf cynhwysfawr y DU.
Rydym hefyd yn monitro’r tywydd a chyflwr y dŵr fel tymheredd y môr, sy’n dylanwadu ar fywyd gwyllt y safle. Mae ein rhaglen fiolegol yn casglu tystiolaeth a gwybodaeth am fywyd gwyllt ar y glannau ac o dan y dŵr gan ein galluogi i gyflwyno adroddiad ar iechyd ein hamgylchedd morol.
Mae’r holl waith hyn yn llywio ein hymagwedd at sut allwn arwain pobl orau tuag at ddefnyddio a mwynhau’r amgylchedd morol yn yr ardal heb amharu arno.
Yn yr un modd â Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ar dir, mae angen ardaloedd lle diogelir cynefinoedd morol naturiol er mwyn cynnal cymunedau morol iach a bywyd gwyllt.