Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Paul Culyer

Bob mis, mae ein timau yn ysgrifennu blog am y llefydd arbennig y maent yn gofalu amdanynt. Yma, mae Paul Culyer, un o’n Uwch-reolwyr Gwarchodfeydd yn siarad am sut y bu i deulu o fancwyr enwog helpu i achub Gwarchodfa Natur Genedlaethol fel Craig y Cilau.

Nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o’r ffaith bod Yr Anrhydeddus Nathaniel Charles Rothschild (1877-1923) o’r teulu bancio enwog, wedi chwarae rôl allweddol yng nghadwraeth natur Brydeinig. Yn naturiaethwr amlwg yn ei ddydd, ynghyd â bod yn fanciwr cyfoethog, prynodd Wicken Fen yn Nwyrain Anglia yn 1899, gan greu cadwraeth natur gyntaf y DU.

Yn 1912, sefydlodd y “Gymdeithas dros Hyrwyddo Gwarchodfeydd Natur i Brydain a’r Ymerodraeth” gyda'r bwriad o warchod llefydd arbennig i fywyd gwyllt trwy'r holl wlad. Roedd hyn wir yn gychwyn ar gadwraeth natur yn y DU.

Adwaenid y sefydliad hwn bellach fel Cymdeithas Frenhinol Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, gydag ymddiriedolaethau bywyd gwyllt unigol yn rheoli gwarchodfeydd natur ar draws y wlad.

Cydlynodd Rothschild arolygon cenedlaethol o Gymru, yr Alban, Lloegr ac Iwerddon, gan anfon holiaduron i berchnogion tir a chymdeithasau naturiaethwyr lleol, ac yna anfon aelodau i arolygu’r safleoedd.

Dros y tair blynedd ganlynol, lluniwyd rhestr o 284 o safleoedd ac mae’r rhain wedi cael eu henwi fel “Gwarchodfeydd Rothschild”.

Mae’r rhain wedi’u trefnu’n ôl y wyddor, ac mae ugain o’r safleoedd yng Nghymru, ac felly i rif 71 ar y rhestr.

Mae Gwarchodfa Natur Craig y Cilau yn un o emau botanegol Cymru

Wedi’i leoli ar glogwyni calchfaen serth, mae’r cymysgedd o goetiroedd, glaswellt a chorsydd mawn yn cynnig safle hynod amrywiol. Gellir dod o hyd i rywogaethau o’r Gerddinen ar wyneb y clogwyn, rhywogaethau sydd ond i’w gweld yng Nghymru. Mae planhigion prin eraill sy’n hoffi calch, megis llysiau Solomon persawrus, llysiau Steffan y mynydd a’r tormaen tribys, yn ffynnu yma hefyd.

Ar droed y clogwyni’n nythu ymhlith creigiau rhydd y llethrau sgri, gellir dod o hyd i redynen y calchfaen.

Ond mae mwy i’r warchodfa na’r hyn a wêl y llygad. Mae daeareg y calchfeini wedi esgor ar ogofau eang a chymhleth. Mae’r ogofau rhain yn boblogaidd gydag ogofäwyr profiadol a grwpiau addysg awyr agored, ac yn nodwedd naturiol bwysig eu hunain. Ond nid dim ond ogofäwyr sy’n hoff o’u defnyddio. Mae rhywogaeth o ystlumod yn defnyddio’r ogofau fel lle i gysgu dros y gaeaf.

Mae’r ystlumod pedol leiaf yn bwysig iawn ac mae Craig y Cilau yn rhan o’r Ardal Cadwraeth Arbennig Safleoedd Ystlumod Wysg. Gellir dod o hyd i rywogaethau eraill fel ystlum y dŵr, yr ystlum mwstasiog, yr ystlum hir glust ac weithiau ‘r ystlum pedol fwyaf.

Er mwyn cynnal y mosaig o gynefinoedd, rydym yn pori’r safle’n ysgafn gyda defaid ac weithiau merlod, yn debyg iawn fel yr oedd yn cael ei bori yn amser Charles Rothschild. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r ogofäwyr er mwyn amddiffyn y nodweddion tanddaearol daearegol a biolegol. Mae eu cymorth yn hanfodol wrth gydlynu mynediad diogel a chyfrifol i’r systemau ogof yn ogystal â’n helpu i fonitro’r nodweddion arbennig.

Mae’r gors fawn, Waun Ddu, wedi’i gynnwys yn ein prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru, ac mae rhaglen waith wedi’i gynllunio er mwyn gwella’r cynefinoedd gyforgors yma.

Felly, llwyddodd Charles Rothschild y symud ffocws cadwraeth natur o’r rhywogaethau i’r cynefinoedd mewn cyfnod ble roedd y cynefinoedd naturiol yn eang ym Mhrydain, ac mae’n siŵr bod y dasg wedi teimlo fel un ddiddiwedd. Mae llawer o’r safleoedd ar ei restr wedi’u niweidio dros y 120 mlynedd diwethaf a rhai wedi’u difrodi’n llwyr. Roedd yn deall bod yn rhaid i ni warchod y llefydd arbennig rhain, a’i bod yn ddyletswydd arnom, er mwyn y rheini sydd wedi byw, ac i’r rheini sydd eto i gael y cyfle o weld y rhyfeddodau naturiol rhain.

Byddai wedi bod yn ddigon hawdd i mi ysgrifennu am rifau 136 neu 150 neu 254; y rhain oll yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yma yng Nghymru.

Os hoffech ddarganfod mwy am ymweld â gwarchodfa Rothchild, ewch i:

https://www.wildlifetrusts.org/about-us/rothschilds-list#list

Neu hyd yn oed gwell, ewch i ymweld ag in!

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.