Bywyd prentis Cyfoeth Technoleg Gwybodaeth
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am y grŵp diweddaraf o Brentisiaid Cyfoeth TG. Dyma fydd y trydydd grŵp i ymuno â’n tîm TG prysur.
Yn ein blog diweddaraf, mae Owen a Dee, dau o’n prentisiaid TG presennol yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn ateb rhai cwestiynau am ei bywyd fel prentis yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Sut ydych chi wedi elwa o gynllun prentisiaeth Cyfoeth?
Owen: Mae’r cynllun prentisiaeth wedi fy nghynorthwyo i ennill ardystiad Microsoft o fewn chwe mis o ymuno â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yr oedd wastad gen i syniad, o’r dyddiau cynnar y byddwn yn mynd i fyd TG ond ers ymuno â’r cynllun, mae gen i syniad llawer mwy clir o’m llwybr gyrfa.
Rwy’n hyderus bod y sgiliau yr wyf wedi eu datblygu yn medru cael eu defnyddio mewn man arall ac rwy’n teimlo fy mod wedi ennill hyder, yn enwedig gyda gofal cwsmeriaid a sgiliau ysgrifennu.
Mae wedi rhoi'r profiad o weithio o fewn amgylchedd swyddfa i mi.
Yr wyf yn dal i weithio tuag at fynd yn beiriannydd TG ac yn gobeithio erbyn diwedd fy mhrentisiaeth y byddaf yn sylweddoli beth yw fy uchelgais.
Pa fath o gyngor a fyddech yn ei roi i rywun sy’n ystyried gwneud cais am brentisiaeth?
Owen: Byddwn i’n dweud wrthynt am fynd am brentisiaeth.
Pan oeddwn yn 16 mlwydd oed fe benderfynais fynd i lawr y llwybr prentisiaeth. Nid oeddwn eisiau mynd i’r brifysgol oherwydd roeddwn yn ei weld fe dyled fawr i mi a fy nheulu.
Nid wyf erioed wedi difaru fy mhenderfyniad ac rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle i ennill cymwysterau diwydiannol, cyflog a swydd ar ddiwedd yr hyfforddiant.
Sut ydych chi wedi elwa o gynllun prentisiaeth Cyfoeth?
Dee Mae ymuno yng nghynllun y brentisiaeth wedi cynnig nifer o gyfleoedd i mi i ddysgu sgiliau newydd. Rwyf wedi bod yn ffodus i astudio ac ennill cymwysterau TG yn ogystal â’r wobr amhrisiadwy o weithio gyda phobl fedrus iawn - addysg yn ei hun.
Rwyf yn ysbrydoledig i weithio yn TG gan fy mod yn mwynhau gweithio yn y rôl yr wyf wedi cael ei roi ynddi ac rwy’n gobeithio parhau gyda’r math yma o rôl gan fy mod yn credu ei fod yn siwtio fy niddordebau.
Pa fath o gyngor a fyddech yn ei roi i rywun sy’n ystyried gwneud cais am brentisiaeth?
Dee Byddwn i’n ei cynghori nhw i fynd amdani, rwy’n credu mai dyma’r peth gorau rwyf wedi ei wneud yn fy ngyrfa. Rwyf wedi dysgu cymaint o fewn cyfnod byr a hynny wrth weithio ar y swydd a gweithio gyda thîm talentog o bobl.
Bydd y cais ar gyfer y prentisiaid diweddaraf yn cau ar 28 Awst.