Arbenigwr Cynnyrch Arweiniol - Offeryn Rheoli Gwasanaeth

Dyddiad cau: 26 Mawrth 2023 | Cyflog: £41,150 - £46,147 (Gradd 7)Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 30 Medi 2023

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhif swydd: 203501

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Bydd deiliad y swydd yn berchen ar (a bydd ganddo ymreolaeth) dros offeryn rheoli gwasanaeth TGCh o fewn TGCh, gan gynnal perthynas agos â chwsmeriaid busnes - gan gynnwys Penaethiaid Gwasanaeth.

Bydd deiliad y swydd yn gweithredu ar lefel dactegol a gweithredol ac yn goruchwylio ac yn atebol i'r busnes am gefnogaeth perfformiad ac ansawdd yr offeryn Rheoli Gwasanaeth.

Bydd yn gweithio gyda'r busnes i ganfod meysydd i'w gwella ac yn nodi gofynion newydd a gweithio gyda Phenaethiaid Gwasanaeth i nodi datblygiadau a galw newydd ac i’r dyfodol.
                                                   
Mae'r swydd hon yn rhan o'r Tîm Rheoli TGCh.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Bod yn gyfrifol am oruchwylio cymorth o’r dechrau i’r diwedd a chynnal a chadw'r offeryn rheoli gwasanaeth TGCh o fewn TGCh ac i gwsmeriaid busnes CNC gan weithio'n agos, pan fo angen, gyda Hornbill trydydd parti.
  • Goruchwylio gwasanaethau gweithredol i gwsmeriaid TGCh, i'r lefelau y cytunwyd arnynt mewn CLGau, gan sicrhau bod yr offeryn Rheoli Gwasanaeth yn rhoi gwerth i'r busnes.
  • Goruchwylio a chynnal y perthnasoedd busnes ar gyfer meysydd busnes dynodedig CNC gan ddefnyddio’r offeryn Rheoli Gwasanaeth.                  
  • Bod yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli cyfarfodydd datblygu Hornbill creadigol a gwerthfawr gyda'r cwsmeriaid gan gynnwys Penaethiaid Gwasanaeth.
  • Goruchwylio'r holl gysylltu mewn perthynas â mentrau TGCh a newidiadau i'r offeryn rheoli gwasanaeth TGCh i'r cwsmer.
  • Arwain ar gyfathrebu newidiadau mewn galw neu ofynion cwsmeriaid i'r offeryn rheoli gwasanaeth TGCh a
    bod yn gyfrifol am reolaeth weithredol a thactegol.
  • Goruchwylio a chynhyrchu gwybodaeth reoli fanwl o'r offeryn rheoli gwasanaeth TGCh ar gyfer y cwsmer busnes a TGCh. Creu a rheoli dangosfwrdd ystadegau ac adroddiadau - gan ddefnyddio Hornbill a PowerBI.
  • Cydweithio â’r tîm datblygu/prosiect a pherchennog y Cynnyrch i ddylunio/adeiladu/profi proses newydd fel rhan o welliant parhaus y Gwasanaeth
  • Gweithio gyda'r tîm cwsmeriaid busnes a TGCh, i wella'r offeryn rheoli gwasanaeth trwy awtomeiddio, integreiddio, tryloywder, a defnyddio'r mentrau CSI.
  • Chwarae rhan bwysig yn natblygiad a chyflwyniad yr offeryn Rheoli Gwasanaeth TGCh yn unol â'r strategaeth TGCh.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gradd TG neu brofiad cyfatebol. Sefydliad ITIL yn orfodol gyda phrofiad rheoli gwasanaeth helaeth (tair blynedd). Cymhwyster Gweithrediadau a/neu Bontio proffesiynol ITIL yn ddymunol iawn.
  2. Profiad busnes helaeth a'r gallu i adeiladu a chynnal perthnasoedd cymhleth. Profiad o reoli mewn amgylchedd rheoli matrics.
  3. Yn gallu ac yn barod i gyfathrebu ar bob lefel o fusnes a TGCh.
  4. Gallu datblygu a chynnal perthnasoedd busnes.
  5. Gallu nodi risgiau a materion a rheoli neu uwchgyfeirio'n briodol.
  6. Gallu cynrychioli strategaethau a mentrau TGCh yn gydlynol ac yn hyderus.
  7. Profiad o ddatblygu a gweinyddu offeryn Rheoli Gwasanaeth.
  8. Profiad o ddefnyddio offer adrodd i greu Gwybodaeth Ystadegol.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Bydd deiliad y swydd wedi cael profiad sylweddol perthnasol o weithio mewn nifer o sefydliadau gwahanol, neu o weithio mewn rolau neu swyddogaethau gwahanol o fewn sefydliad unigol.
  • Yn bennaf, cyflogir deiliaid y swyddi am eu lefel uwch o wybodaeth arbenigol/dechnegol. Bydd angen i ddeiliad y swydd hefyd allu meddwl yn strategol.
  • Bydd deiliad y swydd yn arddangos sgiliau mentora da.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Bydd deiliad y swydd yn dadansoddi ac yn dehongli ystod eang o wybodaeth gymhleth, gan ddidynnu pwyntiau allweddol a'u cyfleu i unigolion ar bob lefel, na fyddant o bosib yn gyfarwydd â natur dechnegol/arbenigol y wybodaeth.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gymryd penderfyniadau annibynnol ar sail mewnbwn oddi wrth reolwyr llinell a chymheiriaid, ynghyd â dealltwriaeth o bolisi CNC, gan ystyried yr ystod o opsiynau sydd ar gael a'u goblygiadau posibl i'r busnes. Bydd deiliaid y swyddi ynghlwm wrth y gwaith o ddatblygu polisi sefydliadol ac efallai y byddant yn cyfrannu at ddatblygu strategaeth.
  • Gall y gwaith olygu rheoli prosiectau mawr neu raglenni gwaith llai, a llai cymhleth. Efallai y caiff penderfyniadau eu gwneud sy'n arwain at newidiadau i weithdrefnau/arferion sefydledig ar gyfer ymdrin â materion o fewn maes gwaith deiliad y swydd, a/neu bydd canlyniad cymryd penderfyniadau anghywir yn cael effaith andwyol ar y sefydliad mewn perthynas â’i randdeiliaid allanol, fel sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaethau ac ati. 
  • Efallai y bydd penderfyniadau'n ymwneud ag ystod eang o faterion ac ni fydd canlyniadau rhai penderfyniadau bob amser yn glir neu'n amlwg. Efallai y bydd problemau sy'n dod i'r golwg hefyd yn ymwneud â'r gwaith mewn rhannau eraill o'r sefydliad a gallai’r rhain fod yn amrywiol. Bydd penderfyniadau a wnaed gan ddeiliad y swydd yn debygol o gael effaith ehangach na'r swyddogaeth neu adran uniongyrchol ac yn debygol o barhau dros y tymor canolig.

Effaith

  • Mae dibyniaeth ar waith a chyfraniad arbenigol/technegol deiliad y swydd, a bydd ei benderfyniadau a'i weithredoedd yn dylanwadu ar unigolion eraill. Bydd deiliad y swydd fel arfer yn gweithio ar draws y sefydliad wrth gynllunio a/neu reoli nifer o wasanaethau a/neu ddarparu arbenigedd technegol/arbenigol manwl.
  • Bydd canlyniadau ei benderfyniadau/gweithredoedd yn cael effaith tymor canolig i hirdymor yn fewnol neu'n allanol.
  • Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am nodi a rheoli risgiau i enw da.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Bydd y gwaith yn gofyn am gyfathrebu'n ysgrifenedig ac ar lafar a/neu arwain prosiectau allweddol, a bydd y rhain yn gymhleth iawn ac yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a darbwyllo da. Efallai y bydd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys hwyluso a/neu gyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, cynnig mewnbwn a chyngor technegol neu arbenigol cymhleth (gan gynnwys ynghylch newidiadau deddfwriaethol), a llywio cyfeiriad trafodaethau neu weithgareddau. Bydd gofyn meithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Bydd deiliaid y swyddi yn llunio dogfennau, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati sy’n weddol gymhleth. Bydd y rhain yn cynnwys cyngor, arweiniad neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu yn ei chylch neu'n ei defnyddio, ac y byddai'n cael effaith andwyol pe bai’n anghywir neu’n cael ei drafftio'n wael.
  • Efallai y bydd angen cyrchu data a chynnwys o nifer o leoliadau neu ffynonellau, gan ofyn am ymchwil allanol a chrebwyll proffesiynol ynghylch sut dylai ymchwil o’r fath gael ei dehongli. Yn gyffredinol, mae dogfennaeth o'r fath yn debygol o gael effaith dros dymor hwy.

Cyfrifoldeb dros adnoddau

  • Bydd deiliaid y swyddi'n gyfrifol am ddefnyddio offer a data'n ddiogel a chyfreithiol er mwyn cyflawni gofynion y rôl.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 26 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 3 Ebrill 2023 drwy Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Alison Jones ar Alison.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf