Rheolwr Prosiect Tystiolaeth

Dyddiad cau: 2 Ebrill 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr. Rhoddir ystyriaeth i weithio’n oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.

Rhif swydd: 203493

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Rydym yn chwilio am reolwr prosiect a fydd yn cefnogi’r gwaith o gydgysylltu tystiolaeth, i bawb ei chyrchu, a fydd yn llywio penderfyniadau pwysig ynghylch heriau tystiolaeth sylweddol CNC, fel yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr polisi a gweithredol CNC, sy'n gofyn am ymagwedd broffesiynol a'r gallu i addasu i wahanol gynulleidfaoedd. Byddwch hefyd yn rheoli prosiect ein cynhadledd dystiolaeth flynyddol, sy'n gyfle gwych sy'n rhoi llwyfan i'n prif weithredwr, aelodau'r tîm gweithredol ac amrywiaeth o arbenigwyr tystiolaeth.

Mae hon yn rôl amrywiol a fydd yn darparu amrywiaeth eang o brofiad o weithio ar weithgareddau lluosog a chydag amrywiaeth o bobl yn fewnol yn CNC ac yn allanol. Byddwn yn darparu lefel gymedrol o ymreolaeth i ganiatáu i rywun dyfu a gweld ei syniadau ei hun yn cael eu gwireddu.

Byddai hyn yn addas ar gyfer unigolyn trefnus iawn sydd â diddordeb yn yr amgylchedd sydd ar hyn o bryd yn rheoli gweithgareddau lluosog mewn amgylchedd cyflym mewn modd anffurfiol neu ffurfiol. Bydd y rôl hon yn gofyn am sgiliau blaenoriaethu, cyflwyno a chyfathrebu da.

Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n dymuno defnyddio a datblygu ei sgiliau dadansoddi data a thystiolaeth a’u cymhwyso i gefnogi’r broses o gyfathrebu tystiolaeth a chyfleu gweithgareddau tystiolaeth ac anghenion rhaglenni CNC.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Cydlynu datblygiad y rhaglen dystiolaeth, cofrestru tystiolaeth, blaenoriaethu tystiolaeth a chyfathrebu tystiolaeth ac ymgysylltu â rheolwyr y rhaglenni tystiolaeth sydd wedi'i gwreiddio.
  • Darparu cefnogaeth i'r Arweinydd Tîm Rhaglenni a Phrosesau Portffolio Tystiolaeth i reoli amcanion y prosiect tystiolaeth canolog -
  • Cefnogi datblygiad a darpariaeth prosesau tystiolaeth wedi'u cydlynu â rheolwyr rhaglenni tystiolaeth.
  • Bod yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal offeryn cofrestru ar gyfer partneriaethau allanol ar y cyd â ffrwd waith cofrestru tystiolaeth.
  • Monitro tystiolaeth integredig a mewnflychau rhaglenni tystiolaeth ac ymateb a chyfeirio pob ymholiad sy'n ymwneud â rhaglenni tystiolaeth gan gynnwys llythyrau o ymholiadau am gefnogaeth, adolygiadau gan gymheiriaid.
  • Datblygu tudalennau’r fewnrwyd a’r rhyngrwyd ar gyfer rhaglenni tystiolaeth i godi ymwybyddiaeth o weithgareddau tystiolaeth CNC.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth ac arbenigedd wrth ddarparu a gweithio gyda thystiolaeth a'r mecanweithiau a'r prosesau sydd ynghlwm wrth ymchwil.
  2. Profiad o reoli portffolios, rhaglenni a/neu brosiectau a sgiliau gweinyddol i reoli camau gweithredu cyfarfodydd a digwyddiadau.
  3. Profiad ac arbenigedd mewn cynnal cofnodion a datblygu prosesau newydd.
  4. Gradd mewn pwnc perthnasol.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Arbenigedd amlwg mewn maes neu swyddogaeth ddiffiniedig, ac yn gallu darparu cyngor ac arweiniad i eraill.
  • Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn o waith y swyddogaeth ehangach.
  • Y gallu i ddangos sgiliau da o ran llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu, gan gynnwys sgiliau da wrth ddod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddehongli a deall ystod eang o wybodaeth a data technegol, gan dynnu pwyntiau ac egwyddorion allweddol i ddarparu'r blociau adeiladu ar gyfer datblygu polisïau, strategaeth a chynlluniau mewnol.
  • Bydd y dogfennau a gynhyrchir yn cynnwys gwybodaeth dechnegol / arbenigol, a fydd yn gofyn am rywfaint o feddylfryd gwreiddiol, creadigrwydd a dealltwriaeth o'r materion.
  • Y gallu i brosesu a dadansoddi gwybodaeth anarferol sydd ag elfennau cymhleth ac o natur dechnegol.
  • Dangos dealltwriaeth o ddeddfwriaeth ac yn gallu ei dehongli a'i chymhwyso, mewn perthynas â'i rôl.

Effaith

  • Gwerthfawrogi bod y gwaith a wneir yn gyffredinol o fewn maes arwahanol a’i fod yn effeithio'n bennaf ar yr amgylchedd uniongyrchol, ond gall hefyd ymestyn ar draws pynciau a meysydd gwaith eraill a bod potensial, os caiff ei wneud yn anghywir, iddo effeithio ar drydydd partïon a meysydd ehangach.
  • Bydd effaith penderfyniadau neu weithgareddau gwaith fel arfer yn y tymor byr i ganolig.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ryngweithio a chyfathrebu â phobl ar draws ystod o swyddogaethau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn allanol, gan ei gwneud hi'n ofynnol i ddeiliad y swydd gyfathrebu o amgylch ei faes arbenigedd, gan addasu ei ddull a'i arddull yn briodol.
  • Dangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da gyda'r gallu i ddatblygu, dylanwadu a chynnal cydberthnasau gwaith da. 

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 2 Ebrill 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yr wythnos sy’n dechrau 3 Ebrill 2023 trwy Microsoft Teams neu wyneb yn wyneb os yn bosibl.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Nina Menichino at nina.menichino@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf