Cynghorydd Arbenigol Arweiniol: Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad
Dyddiad cau: 7 Chwefror 2023 | Cyflog: £41,150-£46,147 (Gradd 7) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 203463
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Byddwch yn ymuno â’n tîm ar adeg gyffrous wrth i ni gefnogi’r gwaith o baratoi a chyflawni’r Cynllun Corfforaethol nesaf ar gyfer CNC. Rydym yn chwilio am rywun i arwain y cylch adrodd ar gyfer cynllunio busnes a pherfformiad, gan ddarparu dadansoddiad o gynnydd CNC yn erbyn Amcanion Llesiant y Cynllun Corfforaethol, sef mynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur ac atal llygredd.
Fel arbenigwr y sefydliad ac arweinydd arbenigol, byddwch yn sicrhau bod gan CNC Fframwaith Cynllunio Corfforaethol a Rheoli Perfformiad priodol ar waith sy’n bodloni anghenion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Byddwch yn sicrhau bod y rhain wedi’u datblygu gan ddefnyddio’r pum ffordd o weithio a’r naw egwyddor ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR): Mae CNC yn dibynnu ar eich arbenigedd i wneud hyn.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Arwain a darparu arbenigedd, cyngor ac arweiniad ar gyfer paratoi’r Cynllun Corfforaethol ac adolygu Amcanion Llesiant CNC yn barhaus gan ddefnyddio dulliau hwyluso allanol a mewnol, ysgrifennu copi a chyhoeddi
- Arwain a darparu arbenigedd, cyngor ac arweiniad ar gyfer paratoi cynllun busnes blynyddol CNC gyda chysylltiadau â chynlluniau gwasanaeth a chynlluniau eraill gan ddefnyddio dulliau hwyluso mewnol, ysgrifennu copi a chyhoeddi
- Arwain a darparu arbenigedd, cyngor ac arweiniad ar gyfer rheoli perfformiad ar bob lefel, gan weithio ar y cyd â Phenaethiaid Busnes, Gwasanaeth a Lle, y Tîm Gweithredol a staff o bob rhan o’r sefydliad
- Cynghori a darparu arweiniad ar gynllunio corfforaethol a pherfformiad a rhoi adroddiadau i staff uwch ac i’r sefydliad cyfan
- Sefydlu perthnasoedd adeiladol â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r cyrff cenedlaethol, gan weithio ar y cyd i ddatblygu a chyflawni amcanion a rennir
- Sefydlu perthnasoedd cryf a chadarnhaol â gyda Bwrdd CNC a’r Tîm Gweithredol a’u cynghori a’u harwain i sicrhau bod eu dyheadau a’u cyfeiriad yn cael eu hadlewyrchu yn ein harferion cynllunio a pherfformiad
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth dechnegol arbenigol am gynllunio corfforaethol a rheoli perfformiad, deddfwriaeth sylfaenol a sut y gellir troi hyn yn gamau gweithredu ar lawr gwlad i helpu i gyflawni ein Hamcanion Llesiant
- Gwybodaeth dda ac eang am CNC a’i swyddogaethau a sut maen nhw’n helpu i gyflawni ein pwrpas a’n Hamcanion Llesiant
- Y gallu i ysgrifennu a chyflwyno adroddiadau a dogfennau eraill sy'n addas ar gyfer Bwrdd CNC, arbenigwyr, staff a symleiddio gwybodaeth ar gyfer cynulleidfa gyffredinol: sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
- Profiad sylweddol mewn cynllunio corfforaethol a/neu reoli perfformiad ar gyfer sefydliad mawr, cymhleth
- Profiad o weithio ar lefel Bwrdd CNC a chynrychioli CNC yn allanol ar lefel debyg
- Sgiliau hwyluso rhagorol a phrofiad o weithio gydag ystod eang o randdeiliaid yn fewnol ac yn allanol ar amrywiaeth o lefelau, gan gynnwys gyda Llywodraeth Cymru
- Sgiliau da o ran datblygu partneriaethau a thrafod
- Dadansoddi gwybodaeth a safbwyntiau ansoddol a meintiol cymhleth sy’n aml yn gwrthdaro â’i gilydd a’u distyllu i greu cynlluniau clir, cydlynol, ymarferol a hawdd eu deall
- Gallu rheoli matrics a gweithio fel rhan o dimau eraill sydd ag ystod o sgiliau technegol ac arbenigeddau, gan gynrychioli’r adran cynllunio corfforaethol a rheoli perfformiad.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 8 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Sue Ginley ar sue.ginley@naturalresourceswales.gov.uk neu (ar ôl 23 Ionawr 2023) Caroline Hawkins ar caroline.hawkins@naturalrerourceswales.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.