Cynorthwyydd, Tîm Rheoleiddio Gwastraff

Dyddiad cau: 22 Mawrth 2023 | Cyflog: £21,655 - £24,408 (Gradd 2)| Lleoliad: Llaneirwg, Caerdydd

Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Rhagfyr 2023.

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.

Rhif swydd: 203454

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) – sef pwrpas ein Sefydliad – wrth wraidd popeth a wnawn. Mae gan bawb yn CNC rôl i’w chwarae wrth gyflawni SMNR ac o fewn hynny yn rôl CNC o ran sicrhau bod gwydnwch ecosystemau yn sail i les ehangach yng Nghymru.

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi gwaith tîm sy'n chwarae rhan hanfodol mewn gwella lles trwy reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan wella’r amgylchedd drwy gyflawni cylch gwaith rheoleiddio rhagweithiol CNC yn effeithiol ac effeithlon yn y lle penodol.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Cefnogi’r gwaith integredig o gyflawni swyddogaethau fel tîm ac fel lle gan gynnwys coladu gwybodaeth gymhleth am gydymffurfio â rheoliadau a gorfodi, cydlynu ymatebion a gweinyddu rotâu ymateb i ddigwyddiadau.
  • Meddu ar neu ddatblygu gwybodaeth mewn prosesau megis coladu tystiolaeth, gweinyddu cronfeydd data neu benderfyniadau ar drwyddedau syml sy'n cefnogi gwaith y tîm neu'r lle.
  • Ymateb i ymholiadau sylfaenol gan gwsmeriaid a sicrhau bod ymholiadau mwy cymhleth yn cael eu cofnodi a'u trosglwyddo i staff perthnasol.
  • Cefnogi a phrosesu ceisiadau caffael ar gyfer y tîm neu'r lle i sicrhau bod offer priodol ar gael ac yn cael ei gynnal yn unol â gweithdrefnau.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Dealltwriaeth dda o gylch gwaith rheoleiddio CNC.
  2. Sgiliau trefnu da.  
  3. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid a phartneriaid mewnol ac allanol.
  4. Gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Dymunol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais. 

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Bydd gwybodaeth a sgiliau wedi'u hennill trwy brofiad gwaith ymarferol blaenorol fel bod gan ddeiliad y swydd lefel resymol o gymhwysedd technegol i gyflawni gofynion y rôl. Bydd y rôl yn gofyn am sgiliau rhifedd, llythrennedd, TG a chyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Bydd hefyd gan ddeiliad y swydd sgiliau llythrennedd, rhifiadol a chyfathrebu da, a dealltwriaeth o'r gofynion a goblygiadau o safbwynt iechyd a diogelwch sy’n ymwneud â gweithgareddau’r gwaith.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Yn gyffredinol, bydd yr wybodaeth a ddefnyddir at ddibenion gyflawni’r rôl yn syml, yn hawdd ei deall, ac o ffynonellau sy'n hawdd eu cyrchu.
  • Gallai fod elfen o gasglu a chofnodi data sy’n gofyn am rywfaint o gywirdeb.  Gall gwirio a dilysu data/gwybodaeth fod yn nodwedd rolau ar y lefel hon.
  • Mae dogfennau eraill yn debygol o fod yn weddol arferol a safonol o safbwynt eu deall neu eu cwblhau.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Yn gyffredinol, bydd y gwaith yn dilyn cynllun gwaith cytunedig a fydd angen i ddeiliad y swydd ei ddilyn heb lawer o ofyn i wyro oddi arno, heblaw am flaenoriaethu tasgau. Yn gyffredinol, bydd gwaith yn dilyn trefn arferol. Fodd bynnag, efalli y bydd rhai problemau sy'n dod i'r golwg a fydd yn gofyn am rywfaint o flaengaredd neu farn, er y bydd datrysiadau yn seiliedig ar wybodaeth a phrofiad blaenorol a datrysiadau a chanlyniadau hysbys yn gyffredinol. Felly, mae gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth yn eithaf cyfyngedig.

Effaith

  • Mae'r gwaith a wneir yn gyffredinol o fewn maes penodol felly bydd unrhyw effaith yn ei sgil yn effeithio'n bennaf ar eraill yn y tîm. Fodd bynnag, bydd gan rai agweddau ar y gwaith y potensial, os cânt eu gwneud yn anghywir, i gael effaith isel ar drydydd partïon. Byddai'r effaith yn hysbys yn eithaf sydyn a gellid ei chywiro a’i thrin yn gyflym heb i unrhyw faterion tymor hwy godi.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Bydd cyfathrebu gyda chydweithwyr sy'n cyflawni agweddau tebyg ac agweddau gwahanol ar y gwaith. Efallai y bydd hyn yn cynnwys arwain ar rai agweddau ar y gwaith sy'n gofyn am y gallu i roi arweiniad neu gyfarwyddiadau clir i eraill os oes angen.
  • Bydd cyswllt â'r cyhoedd a thrydydd partïon hefyd, a fydd fel arfer yn golygu cyfnewid gwybodaeth.
  • Bydd cyfathrebu ysgrifenedig yn cynnwys cwblhau dogfennau safonol a chadw cofnodion, gan ofyn am sgiliau TG da.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 22 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Gareth.davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf