Arbenigwr Data, Ecoleg Dŵr
Dyddiad Cau: 5 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm Gwaith: 37awr yr wythnosw, Dydd Llun i Dydd Gwener
Rhif swydd: 203415
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r Swydd
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r prif gynghorydd i Lywodraeth Cymru ynglŷn â materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a'i adnoddau naturiol. Ein nod yw ceisio tanategu ein cyngor a’n gweithrediadau gyda thystiolaeth gadarn. Yn ogystal â defnyddio tystiolaeth a gynhyrchir gan eraill, mae CNC ei hun yn casglu tystiolaeth, a hynny’n benodol trwy'r gwaith monitro amgylcheddol yr ydym yn ei wneud.
Sefydlwyd Tîm Dadansoddi Monitro CNC i ofalu am y data a gasglwn drwy ein rhaglenni monitro a gwneud mwy o ddefnydd ohono. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm brwdfrydig sy'n cynnwys dadansoddwyr data amgylcheddol, rheolwyr data ac arbenigwyr synhwyro o bell.
Rydym yn chwilio am rywun i reoli a datblygu ein cronfa ddata KiEco ymhellach, sy'n cadw llawer o'r data monitro ecolegol a gasglwn o amgylcheddau dŵr croyw a morol. Bydd angen i chi feddu ar ddealltwriaeth dda o egwyddorion rheoli data a’r arferion gorau yn y maes hwn (gan gynnwys safonau cyfnewid data). Mae gweithio gydag eraill yn rhan allweddol o’r rôl, a bydd angen i chi weithio’n agos, nid yn unig gyda chydweithwyr yn eich tîm uniongyrchol, ond hefyd gyda’r rhai sy’n gweithio mewn mannau eraill ar reoli data ecolegol, ar bolisïau a gweithdrefnau rheoli data, ar systemau TGCh a gyda Kisters, gwneuthurwyr KiEco.
Mae hwn yn gyfle gwych i helpu CNC i barhau i symud ymlaen yn y modd y mae’n rheoli ac yn sicrhau ansawdd ei ddata monitro ecolegol, ac yn sicrhau ei fod ar gael i’w ddefnyddio ymhellach wrth ddod o hyd i atebion i heriau rheoli’r amgylchedd dŵr.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Rheoli, datblygu a darparu mewnbwn technegol i'r archif data ecoleg dŵr (WISKI KiEco) fel gweinyddwr system arweiniol sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfedd â safonau TG a data, ac sy'n gyfrifol am berchenogaeth fusnes yr asedau data ecoleg dŵr.
- Gan weithio gyda'r arbenigwyr pwnc perthnasol, arwain y gwaith o ddatblygu, gweithredu a chynnal yr offerynnau a phrosesau cysylltiedig ar gyfer mewnbynnu data i archif ecoleg dŵr WISKI ac allbynnu data ohono, ac ar gyfer sicrhau ansawdd y data yn yr archif.
- Darparu gwybodaeth ac arbenigedd arbenigol ar gyfer datblygu ac asesu safonau ansawdd data a metrigau priodol ar gyfer data ecoleg dŵr.
- Cynorthwyo CNC o ran gwireddu’r buddion o ddefnyddio WISKI ar gyfer archifo data amgylcheddol ychwanegol.
- Arwain y gwaith o ddatblygu'r archif ecoleg dŵr er mwyn bodloni gofynion presennol CNC a'i ofynion yn y dyfodol, gan fanteisio ar newidiadau mewn technoleg a datblygu dulliau arloesol o wella gwasanaethau, er mwyn sicrhau y gwireddir buddion ac y cyflwynir ffyrdd gwell o weithio sy'n diwallu anghenion defnyddwyr, cwsmeriaid a'r amgylchedd.
- Sicrhau nad yw datblygiad y system yn peryglu ymarferoldeb ac integredd yr archif ecoleg dŵr.
- Cynorthwyo defnyddwyr y system trwy ddarparu datrysiadau i broblemau cymhleth a phroblemau ar raddfa fawr.
- Gweithredu fel arbenigwr technegol ar WISKI KiEco ar ran y busnes, i ddarparu gwasanaeth TG, ac o safbwynt y cydberthynas rhwng CNC a'r gwerthwr.
- Ymgysylltu â phartneriaid mewnol ac allanol, yn arbennig yr arbenigwyr pwnc perthnasol, i sicrhau dealltwriaeth o’u hanghenion, bod ein hanghenion a'n gallu i weithredu yn cael eu cyfleu, a bod trefniadau ar gyfer cyfnewid data ecoleg dŵr WISKI a chydweithio yn cael eu gweithredu a'u rheoli'n briodol er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben.
- Darparu cyngor, cymorth ac arweiniad technegol fel yr arbenigwr arweiniol ar WISKI KiEco o fewn y sefydliad, a gweithredu fel y prif ddarparwr hyfforddiant arbenigol uwch i ddefnyddwyr profiadol o WISKI KiECo.
- Sefydlu, rheoli a chynnal prosesau llywodraethu data ar gyfer data ecoleg dŵr.
Cymwysterau, Profiad a Gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gradd berthnasol neu brofiad cyfatebol. Mae aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol yn ddymunol.
- Profiad sylweddol o ddefnyddio system WISKI KiEco ac o reoli data ecoleg dŵr.
- Sgiliau TG rhagorol a phrofiad o ddefnyddio a rheoli data ecoleg dŵr, metadata a data cyfeirnodi mewn systemau TG cysylltiedig.
- Ymwybyddiaeth a’r gallu i werthuso gofynion data a TG prosesau busnes sy'n creu ac yn defnyddio data.
- Gallu magu cydberthnasau mewnol ac allanol cryf ag amrywiaeth o bartneriaid/rhanddeiliaid er mwyn cael dylanwad arnynt ac ennill cydweithrediad gan eraill.
- Bod yn gydnerth ac yn gallu ymdopi â sefyllfaoedd o dan bwysau mawr.
- Y gallu i weithio'n annibynnol, gan arddangos arloesedd, mentergarwch, a’r gallu i ddatblygu, neu dderbyn, syniadau newydd a datrysiadau creadigol
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml.
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau Hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i'w ddefnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 05 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â David Allen ar david.allen@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07880867875
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.