Peiriannydd Cymorth y Cwmwl - Llifogydd
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr - bydd angen i chi weithio fel rhan o batrwm sifft hyblyg i gwmpasu oriau gwasanaeth rhwng 8am a 6pm. Mae hefyd yn ofynnol gweithio ar benwythnosau pan fo angen er mwyn bodloni gofynion y busnes. Hefyd bydd angen i chi weithio ar rota amser penodol sy’n darparu gwasanaeth TGCh ‘y tu allan i oriau’ i lefel y cytunwyd arni.
Rhif swydd: 203407
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Gan weithio â’r gwasanaeth Llifogydd - Rhybuddio a Hysbysu fel rhan o Dîm Platfform TGCh bydd disgwyl i’r rôl ddarparu cymorth technegol i holl raglenni byw y Gwasanaeth Llifogydd Cenedlaethol a phlatfformau cwmwl o fewn fframwaith Llyfrgell Seilwaith Technoleg Gwybodaeth (ITIL), fel rhan o gynnyrch a model gweithredu tîm platform newydd, i ddarparu gwasanaeth ystwyth rhagorol sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gofalu bod iechyd ac argaeledd rhaglenni a systemau yn unol â threfn reoli TGCh.
- Gofalu bod digwyddiadau a cheisiadau am wasanaeth yn cael eu datrys o fewn y cytundebau lefel gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
- Dilyn cynllun gwaith y Tîm Platfform.
- Gweithio gydag Uwch Beirianwyr i ddatrys materion a gwella systemau byw.
- Cynghori a rhoi arweiniad i Ddadansoddwyr a Phrentisiaid o fewn y tîm a’r tu allan.
- Dilyn amserlenni cynnal a chadw a thasgau rhagweithiol a gweithredu uwchraddiadau arferol gwasanaethau.
- Gweithio gyda phartneriaid strategol allanol i sicrhau bod problemau rhaglenni yn cael eu datrys o fewn cytundebau lefel gwasanaeth.
- Rhyddhau gwelliannau i raglenni a gwasanaeth yn unol â threfn reoli TGCh. Cynorthwyo i gydgysylltu ‘profi derbynioldeb i’r cwsmer’ yn achos rhaglenni a gwasanaethau CNC.
- Gweithio â’r uwch beirianwyr i ddatblygu a gwella rhaglenni sy’n bodoli eisoes yn unol â methodoleg ddatblygu TGCh.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o gefnogi Office 365/Microsoft Dynamics 365/SharePoint Rhaglenni ar-lein/y we/pecynnau masnachol parod
- Profiad o weithio mewn Amgylchedd Cwmwl Cyhoeddus.
- Dealltwriaeth o gefnogaeth a datblygiad rhaglenni gyda’r technolegau canlynol: Azure PaaS, HTML 5, CSS, C#, MS SQL a Power Shell
- Gwybodaeth o Fframwaith Rheoli Gwasanaeth ITIL
- Profiad ymarferol o fethodolegau cylch bywyd rhaglenni.
- Profiad o brosesau rheoli Digwyddiadau, Problemau, Newidiadau a Rhyddhau.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 - yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
E-bostiwch y canlynol i: Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddyfynnu’r cyfeirnod swydd 203407
- Eich CV
- Llythyr eglurhaol i gefnogi eich cais
- heb fod yn fwy na dwy ochr A4
- yn egluro pam y mae gennych ddiddordeb yn y swydd
- yn rhoi tystiolaeth sy’n dangos pam ydych chi’n addas, yn seiliedig ar yr adrannau ‘Cyfrifoldebau’ a ‘Cymwysterau, profiad a gwybodaeth’ uchod.
Dyddiad cau i wneud cais: 29 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 2023
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Ian Johns ar Ian.Johns@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.