Uwch-gynghorydd gorfodi
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31 Rhagfyr 2024 (bydd penodiad 12 mis hefyd yn cael ei ystyried).
Patrwm gwaith: Dydd Llun i ddydd Gwener, 37 awr. Bydd patrymau gwaith eraill yn cael eu hystyried.
Rhif swydd: 203314
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae'r Uwch-gynghorydd Gorfodi yn rôl hanfodol yn ein hadran Rheoleiddio a Thrwyddedu. Dyma gyfle cyffrous i dreulio dwy flynedd yn arwain, cynnal a dysgu am waith ar draws ystod eang o faterion gorfodi.
Byddwch yn cefnogi adolygiadau o'n gweithgareddau rheoleiddio eang, cynnal adroddiadau ar ein perfformiad o ran gorfodi a chosbi, gweithio gydag amrywiaeth o gydweithwyr i ddatblygu polisïau, canllawiau a hyfforddiant, a gweithio gydag eraill i wella ein data a'n systemau.
Does dim angen i chi fod wedi gweithio ym maes gorfodi'r gyfraith, ond bydd angen i chi ddangos sut rydych chi'n bodloni gofynion y rôl. Ar y cam ymgeisio nid ydym yn disgwyl i chi fod â gwybodaeth ymarferol drylwyr am y fframwaith deddfwriaethol sy’n sail i’n gwaith, ond byddai dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i gynnal ymchwiliadau troseddol yn fuddiol. Os oes gennych sgiliau trosglwyddadwy perthnasol nad ydynt yn gysylltiedig â gorfodi'r gyfraith, dywedwch wrthym amdanyn nhw hefyd.
Efallai fod gennych brofiad o reoli nifer o brosiectau ar yr un pryd a bod gennych sgiliau rhyngbersonol cryf sy'n eich galluogi i ddatblygu perthnasoedd da gyda rhanddeiliaid allweddol, yn fewnol ac yn allanol. Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfathrebu da, gallu i ymdopi â llwyth gwaith amrywiol ac sy'n gallu sicrhau canlyniadau llwyddiannus yn y pen draw.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Bod yn gyfrifol am ddatblygu cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Reoleiddio'r Dyfodol, datblygiadau rheoliadol strategol, gan sicrhau ei fod yn addas i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy
- Bod yn gyfrifol am ddadansoddi data rheoleiddio a dehongli tystiolaeth i fod yn sail effeithiol ar gyfer datblygu rheoliadau yn y dyfodol ac yna datblygu a phrofi opsiynau polisi yn seiliedig ar y dystiolaeth honno.
- Meddu ar brofiad o un neu fwy o feysydd swyddogaethol rheoliadol eang Cyfoeth Naturiol Cymru a'i ddeddfwriaeth.
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu cryf, gan y bydd y gwaith hwn yn cynnwys gweithio'n agos gyda rheoleiddwyr amgylcheddol eraill yn y DU ac yn Ewrop i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth dechnegol.
- Datblygu, adolygu a gwella dogfennau technegol er mwyn galluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson a phriodol gan staff yn y busnes gan arwain at ddull effeithiol o ddarparu gwasanaethau.
- Sefydlu a chynnal cydberthnasau gwaith â swyddogion Llywodraeth Cymru fel ein bod yn gwella ein sefyllfa fel cynghorydd yr ymddiriedir ynddo a’n bod yn gallu dylanwadu ar bolisïau’r Llywodraeth a deddfwriaeth yn y dyfodol.
- Cyfrannu at y gwaith o gyflwyno cynllun busnes y tîm, cynllun cyflenwi'r gyfarwyddiaeth a chynllun corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Dealltwriaeth dechnegol ragorol o'ch maes gwaith neilltuedig, gyda sgiliau dadansoddol cryf a phrofiad o reoli rhaglenni llwyddiannus a gyflawnwyd drwy brofiad gwaith sylweddol mewn maes cysylltiedig.
- Y gallu i weithio'n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE yn ogystal ag ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy'n berthnasol i'ch meysydd gwaith.
- Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau/rheoleiddwyr y Llywodraeth.
- Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflenwi canlyniadau tîm/prosiect/swyddogaeth benodol a'r sefydliad ehangach.
- Profiad o ddeall a chymhwyso egwyddorion rheoleiddio.
- Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
- Bydd disgwyl i chi gadw'n gyfredol â newidiadau mewn polisi rheoliadol a newidiadau arfaethedig mewn deddfwriaeth trwy aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol neu trwy gyfrwng cyfatebol arall.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd Gwaith.
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch Ffurflen gais wedi'u cwblhau a Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 29 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Martyn Evans ar martyn.evans@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.