Partner Busnes Adnoddau Dynol (Gwaith Achos Cysylltiadau Gweithwyr)
Dyddiad cau: Dydd Llun, 29 Awst 2022 | Cyflog: £39,700-£44,522 (Gradd 7) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr
Rhif swydd: 203270
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Eich prif waith fydd arwain a chefnogi'r amrywiaeth o waith achos sy’n ymwneud â chysylltiadau gweithwyr ar gyfer CNC cyfan. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio gyda rheolwyr ac uwch reolwyr (Cyfarwyddwyr Gweithredol, y Tîm Arwain a Thimau Rheoli) ar berthynas waith ymarferol i wella arferion Rheoli Pobl yn barhaus yn enwedig mewn perthynas â Disgyblu, Cwynion a Gallu. Byddwch yn atebol i Uwch Reolwr yn yr adran Rheoli Pobl a allai fod â'r un arbenigedd neu beidio. Byddwch yn gweithio'n agos ac ar y cyd â chydweithwyr yn yr un Tîm Cyfarwyddiaeth a chydag arbenigwyr proffesiynol tebyg ar draws CNC i sicrhau gwelliant parhaus.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Bod yn brif arbenigwr a llysgennad CNC ar Ddisgyblu, Cwynion a Chefnogi Gallu.
- Arwain y gwaith o sicrhau bod rhyngwynebau Rheoli Pobl gyda thimau’r Gwasanaethau Pobl a Chyflogres yn effeithiol ac effeithlon.
- Bod yn llysgennad a cheidwad ar gyfer datblygu a chyflawni a chynnal safon broffesiynol barhaus ar draws CNC.
- Cyfrannu, hyrwyddo a lle bo angen arwain ar fentrau’r Gyfarwyddiaeth a mentrau Corfforaethol.
- Datblygu perthnasoedd gwaith sy’n meithrin ymddiriedaeth ac yn grymuso rheolwyr i ddefnyddio arferion Rheoli Pobl yn hyderus.
- Nodi a chyflawni amcanion yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol mesuradwy’r Gyfarwyddiaeth ac CNC.
- Fel uwch aelod o’r tîm Rheoli Pobl, byddwch yn rhagweithiol ac yn defnyddio arferion gorau a pherthnasoedd gwaith mewnol ac allanol yn effeithiol.
- Deall yr anghenion busnes a'r materion rheoli pobl a chymryd camau i lunio a gweithredu mentrau.
- Darparu cyngor technegol ar gyfer yr holl arbenigeddau Rheoli Pobl ar draws CNC.
- Nodi tueddiadau a phatrymau a defnyddio’ch menter i wella’r holl arferion Rheoli Pobl.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Cymhwyster CIPD (lefel 7: Uwch)/Aelod Siartredig o'r CIPD neu Gymhwyster Adnoddau Dynol ar lefel gyfatebol, neu'r lefel gyfatebol o brofiad.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o ddeddfwriaeth rheoli pobl ac arferion gorau.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 3 – Y gallu i gyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith neu bydd disgwyl i’r ymgeisydd ddatblygu ei sgiliau Cymraeg i’r lefel hon drwy ddilyn rhaglen hyfforddi y cytunwyd arni.
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi'i at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: Dydd Llun, 29 Awst 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ddydd Mercher, 21 Medi 2022 drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Claire Murphy, Rheolwr Adnoddau Dynol ar claire.murphy@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.