Cymorth Canolfan Ymwelwyr (Ynyslas)
Dyddiad cau: 26 Mawrth 2023 | Cyflog: £25,326 - £28,077 (Gradd 3)| Lleoliad: Ynys Las, Borth ger Aberystwyth
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Hydref 2023
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr ar sail rota gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc
Rhif swydd: 202791
Disgrifiad o’r swydd
Mae 'r swydd hon yn helpu i gynnal treftadaeth naturiol Cymru fel y gall pawb ei mwynhau a chael budd ohoni. Byddwch yn gwneud hyn drwy helpu i reoli Canolfan Ymwelwyr o ddydd i ddydd ac yn cefnogi gwaith cydweithwyr i rheoli a hyrwyddo’r safle.
Darparu pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymwelwyr, sy'n canolbwyntio ar gofal cwsmeriaid, iechyd a diogelwch a chysylltu â phartneriaeth yn y Ganolfan Ymwelwyr. Datblygu a darparu rhaglen o ddigwyddiadau arloesol sy'n cael ei chyfarwyddo gan amcanion corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Bwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr sy'n darparu cyfeiriadedd a gwybodaeth am yr atyniadau a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnig yn bersonol, dros y ffôn a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol.
- Bwynt cyswllt cyntaf i ddarparwyr gwasanaethau, partneriaid busnes, staff caffi a staff eraill Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn sicrhau bod y ganolfan ymwelwyr yn rhedeg yn esmwyth.
- Cynnal archwiliadau iechyd & diogelwch ac archwilio cyfleusterau yn y ganolfan ymwelwyr ac adrodd am unrhyw broblemau.
- Hyrwyddo mynediad cyfrifol gan y cyhoedd ac annog pobl i beidio â chamddefnyddio'r amgylchedd naturiol.
- Cefnogi tîm hamdden y ganolfan ymwelwyr. Helpu i drefnu, cynllunio a chyflwyno digwyddiadau gyda'r amcanion o alluogi mwy o bobl i fwynhau manteision mynediad i'r amgylchedd naturiol, datblygu marchnadoedd newydd a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r adnodd naturiol.
- Gweithredu fel darparwr Cymorth Cyntaf yn ôl yr angen.
- Sicrhau bod arwyddion priodol yn cael eu dangos mewn ardaloedd cyhoeddus i helpu i sicrhau diogelwch y cyhoedd, a hyrwyddo’r Ganolfan Ymwelwyr a’r atyniadau/ardaloedd cyfagos.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Cymhwyster proffesiynol mewn gofal cwsmeriaid, digwyddiadau neu fanwerthu – dymunol.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Dyddiad cau i wneud cais: 26 Mawrth 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Ymwelwyr Ynyslas
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Jenn Jones ar jenn.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd