Cynghorydd, Hyfforddiant a Dysgu
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2023 | Cyflog: £28,403 - £32,088 (Gradd 4) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2024
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr. Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.
Rhif swydd: 201876
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’r tîm Hyfforddiant a Dysgu yn CNC. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol o fewn y tîm. Mae angen ystod eang o hyfforddiant ar ein gweithwyr i sicrhau fod ganddynt y sgiliau cywir ar yr amser cywir i'w galluogi i gyflawni eu rôl a chynnal cymwyseddau. Bydd gofyn i chi ddarparu cyngor mewnol ar gyrsiau ac addasrwydd; byddwch yn delio â chyflenwyr allanol yn ddyddiol, yn trefnu archebion, yn cadarnhau archebion prynu ac yn delio â rhestrau presenoldeb, tystysgrifau a ffurflenni gwerthuso.
Byddwch yn cefnogi ein dysgwyr Cymraeg yn ystod eu profiad dysgu trwy ddarparu gwybodaeth am gyrsiau sydd ar gael iddynt, drwy gysylltu â thiwtoriaid, cynnal cofnodion a thrwy hyrwyddo dysgu Cymraeg o fewn CNC.
Gan weithio'n agos â Rheolwyr a Staff byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod contractau wedi eu trefnu i fodloni anghenion hyfforddi'r busnes drwy ddefnyddio fframweithiau cyfredol a datblygu tendrau newydd. Byddwch hefyd yn cefnogi gofynion hyfforddi a dysgu'r busnes trwy gydlynu'r gwaith o nodi anghenion hyfforddi a datblygu, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni dysgu a datblygu.
Ceir rhagor o wybodaeth am y rôl yn y prif ddisgrifiad rôl. Fodd bynnag, dylai fod gan ymgeiswyr y canlynol:
- Dealltwriaeth dda o systemau TG a phrofiad sylweddol o ddefnyddio Microsoft Office
- Sgiliau trefnu da a'r gallu i amldasgu
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid a chyflenwyr mewnol/allanol
- Mentergarwch a’r gallu i roi sylw rhagorol i fanylion
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm ehangach a dilyn cyfarwyddiadau
- Profiad o weithio'n effeithiol i derfynau amser lluosog o fewn amgylchedd swyddfa brysur.
Mae'r rôl yn rhan o'r Swyddogaeth Datblygu Sefydliadol, sy'n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Strategaeth a Datblygu Corfforaethol. Gan adrodd i'r Rheolwr Lles, Iechyd a Diogelwch, bydd y rôl hon yn cael ei rheoli gan yr Arweinydd Tîm Hyfforddiant a Dysgu.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cyflawni'n cynllun dysgu gan sicrhau'r gwerth gorau am arian
- Sicrhau bod unrhyw raglen hyfforddi a ddarperir yn diwallu anghenion y busnes
- Hyrwyddo rhaglen hyfforddi Cyfoeth Naturiol Cymru i'r staff fel eu bod yn ymwybodol o'r cyrsiau hyfforddi gan gynnwys sut i gofrestru
- Sicrhau bod tudalennau'r fewnrwyd ar ddysgu a datblygu'n gyfoes a bod y staff yn gwybod am ddatblygiadau
- Sicrhau y caiff gwerthusiadau ar ôl cyrsiau eu monitro a'u defnyddio gyda chyflenwyr er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant yn addas i'r diben
- Defnyddio manyleb tendro drafft ar ofynion defnyddwyr a chynorthwyo gyda'r gwaith o werthuso gwerthusiadau'r tendrau
- Creu contractau hyfforddi a sicrhau'r gwerth gorau am arian
- Datblygu amserlen dysgu i roi gwybod i'r busnes pryd y bydd hyfforddiant ar gael.
- Cynnal cofnodion a gwybodaeth yn unol â rheoliadau/deddfwriaeth a safonau cytunedig gan sicrhau bod cofnodion yr hyfforddiant yn gyfoes.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o weithio gyda thimau ar draws y busnes a rheoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro
- Profiad o broses tendro a drafftio gofynion hyfforddiant
- Sgiliau trefnu da a sgiliau cynllunio rhagorol
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 29 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal wythnos sy’n cychwyn 6 Chwefror 2023 drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Claire Leith at claire.leith@naturalresourceswales.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.