Uwch-beiriannydd Cymorth Cymwysiadau

Dyddiad Cau: 26 Mawrth 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhif swydd: 201849

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Gan weithio i Arweinydd y Tîm Cymorth Cymwysiadau, disgwylir i'r arbenigwr ddarparu cymorth technegol i holl gymwysiadau byw Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn fframwaith ITIL a model gweithredu Tîm Cymorth Cymwysiadau diffiniedig, er mwyn darparu gwasanaeth rhagorol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Bod yn Arweinydd Technegol ar gyfer Cymwysiadau TGCh Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Datblygu cymwysiadau newydd a gwella cymwysiadau presennol yn unol â methodoleg datblygu TGCh
  • Sicrhau iechyd ac argaeledd cymwysiadau a systemau yn unol â llywodraethu TGCh
  • Sicrhau bod digwyddiadau a cheisiadau am wasanaeth yn cael eu datrys o fewn y cytundebau lefel gwasanaeth cytunedig.
  • Gweithio gydag Arweinydd y Tîm Cymwysiadau i weithredu cynllun gwaith y Tîm Cymorth Cymwysiadau
  • Gweithio gydag uwch-beirianwyr i ddatrys problemau a gwella systemau byw
  • Cynnig llwybr uwchgyfeirio ar gyfer problemau technegol a chynghori peirianwyr, dadansoddwyr a phrentisiaid o fewn y tîm
  • Mynychu fforymau Llywodraethu TGCh a chyfrannu tuag at ddylunio a gweithredu datrysiadau newydd
  • Arwain, diffinio a chynllunio tasgau cynnal rhagweithiol gan gynnwys diweddariadau rheolaidd i wasanaethau
  • Gweithio gyda phartneriaid strategol allanol i sicrhau bod problemau ynghylch cymwysiadau yn cael eu datrys o fewn cytundebau lefel gwasanaeth
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau 

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth a phrofiad helaeth o gefnogi a gweinyddu Office 365 / SharePoint Online / SharePoint 2013 / RecordPoint a CRM Dynamics Online / CRM Dynamics On-Premise
  2. Profiad profedig o weithio o fewn amgylchedd Azure.
  3. Profiad o ddatblygu gan ddefnyddio JavaScript, JQuery.
  4. Profiad o weithio mewn Visual Studio 2012 a 2013 a'r Team Foundation Server (TFS).
  5. Gwybodaeth am Reoli Gwasanaeth ITIL – yn benodol ynghylch rheoli digwyddiadau a phroblemau a sgiliau rheoli prosiect i ddiffinio, cynllunio a rheoli llifoedd gwaith o fewn eich cylch gwaith.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Gofyniad i gyflawni lefel uwch o dasgau/gwaith ymarferol neu dechnegol sy'n gofyn am wybodaeth/arbenigedd arbenigol.  Arbenigwyr mewn ystod o bynciau sy'n ymwneud â'u proffesiwn. 
  • Er mwyn cyflawni gwasanaethau technegol/arbenigol bydd gofyn am wybodaeth fanwl am eu maes pwnc.
  • Y gallu i ddarparu cyngor gwrthrychol i bobl eraill yn seiliedig ar eu gwybodaeth a'u profiad, gan fod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf mewn meysydd technegol/arbenigol. Profiad o weithio mewn amrywiaeth o sefydliadau/rolau/swyddogaethau gwahanol.
  • Profiad sylweddol perthnasol o weithio yn y maes perthnasol. Y gallu i reoli rhaglenni llai o faint sy'n llai cymhleth a/neu reoli prosiectau ar raddfa fwy.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Dehongli a deall dulliau cyflawni gweithredol a chynlluniau strategol CNC a'i gyd-destun ehangach.
  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli amrediad eang o wybodaeth gymhleth, gan ddethol pwyntiau allweddol i'w cyfathrebu i unigolion ar bob lefel, a chyfrannu at ddatblygu polisïau.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan ganlyniadau disgwyliedig ond mae deiliad y swydd yn gallu penderfynu ar y ffordd orau o’u cyflawni. Gallai arweiniad gael ei ddarparu gan gymheiriaid ond mae'n debygol y bydd angen defnyddio ychydig o ddyfarniad neu greadigrwydd. Efallai y bydd yn ofynnol newid blaenoriaethau o ganlyniad i ofynion sy'n gwrthdaro. Bydd amcanion a thargedau yn cael eu hadolygu ar sail ganolraddol.
  • Gall gynnwys rheoli prosiectau canolig o ran maint. Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau annibynnol, gyda mewnbwn gan reolwyr llinell a chymheiriaid, a dealltwriaeth o bolisi CNC a'r ystod o opsiynau sydd ar gael a'u goblygiadau posibl i'r busnes. Yn rhan o'r gwaith o ddatblygu polisi sefydliadol a ac yn meddu ar rywfaint o ymreolaeth yn y gwaith o weithredu polisi sefydliadol.
  • Efallai y bydd penderfyniadau a wnaed yn arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig ar gyfer delio â materion o fewn maes gwaith deiliad y swydd. Gall canlyniad gwneud penderfyniadau anghywir gael effaith andwyol ar y sefydliad mewn perthynas â'i randdeiliaid allanol fel sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaethau ac ati.
  • Efallai y bydd penderfyniadau'n ymwneud ag amrediad eang o faterion ac ni fyddai canlyniadau rhai penderfyniadau bob amser yn glir neu'n amlwg. Efallai y bydd problemau sy'n dod i'r golwg hefyd yn ymwneud â'r gwaith mewn rhannau eraill o'r sefydliad a gallai’r rhain fod yn amrywiol. Bydd penderfyniadau yn debygol o gael effaith ehangach na'r swyddogaeth neu'r adran uniongyrchol ac yn debygol o barhau dros y tymor canolig.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Y gallu i gysylltu â rolau eraill ar draws y busnes, gan gynnwys y sefydliad wrth gyflawni polisïau a chynlluniau gwaith yn y ffordd fwyaf effeithlon. Gall rhyngweithio ag eraill hefyd fod gyda phobl a sefydliadau y tu allan i CNC.
  • Bydd y gwaith yn cynnwys cyfathrebu ysgrifenedig a llafar, arwain prosiectau llai o faint sy'n llai cymhleth, sy’n gofyn am sgiliau dwyn perswâd da. Efallai y bydd y gwaith hwn yn cynnwys hwyluso a/neu gyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan gynnig cyngor a mewnbwn yn ôl yr angen.  Bydd gofyn meithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Bydd deiliaid y swyddi fel arfer yn cynhyrchu dogfennau llai cymhleth, fel adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati. Bydd y rhain yn cynnwys lefel is o gyngor, arweiniad neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu'n seiliedig arnynt neu'n eu defnyddio, ac sy'n debygol o gael effaith andwyol os ydynt yn anghywir neu’n cael eu drafftio'n wael.
  • Y gallu i ddod o hyd i wybodaeth o sawl lleoliad trwy ymchwil a chymhwyso barn broffesiynol ynghylch sut y dylid dehongli'r deunydd, y mae ei effaith yn debygol o bara yn y tymor canolig.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 26 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Andrew Lightfoot ar andrew.lightfoot@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf