Cynghorydd Arbenigol Safonau Cynaeafu

Dyddiad Cau: 16 Ebrill 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 7) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 30 Mehefin 2023 (Cyfnod Mamolaeth)

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos- croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad

Rhif swydd: 201660

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

I helpu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyflawni’r safonau uchaf o reoli coedwigoedd cynaliadwy fel sy’n gweddu i’r coedwigoedd gwladwriaethol ardystiedig hiraf yn y byd a sefydliad a chenedl sy’n anelu at fod yn arweinydd byd-eang ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR). Bydd deiliad y rôl yn gwneud hyn drwy ganolbwyntio ar weithrediadau Cynaeafu Pren a/neu Reoli Coedwigoedd ar gyfer sut rydym yn rheoli’r tir yn ein gofal drwy reoli’r gwaith o baratoi polisïau, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau CNC. Bydd rhain yn cyfieithu Cymraeg & DU

Polisi’r Llywodraeth, gofynion Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS) a safonau’r diwydiant i ddulliau ymarferol o gyrraedd y pwynt darparu. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o dimau eraill Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, Masnachol a Gweithrediadau, swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y sector.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Paratoi asesiadau technegol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth a data cymhleth;
  • Rheoli’r gwaith o lunio deunydd i lywio datblygiad dogfennau canllaw a chyngor statudol CNC.
  • Rheoli datblygiad gweithdrefnau, dulliau, a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflawni ffyrdd newydd o weithio.
  • Cynnal archwiliadau ac ymweliadau cymorth
  • Cysylltu â rhanddeiliaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr sector a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiect, polisi a strategaeth yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
  • Diffinio’r cymwyseddau sy’n ofynnol a datblygu adnoddau hyfforddi a’u rhoi ar waith.
  • Cynnal gwybodaeth am y sector(au) Coedwigaeth gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technolegol a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sector(au).
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl y gofyn;
  • Cydweithio â’r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflawni Cynllun Datblygu Personol y cytunir arno.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â Choedwigaeth; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran coedwigaeth; a’r materion a’r cyfleoedd ar ystad CNC.
  2. Gwybodaeth a phrofiad o ran gweithrediadau cynaeafu coed a rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy
  3. Profiad o: ddadansoddi a dehongli’n dechnegol amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth a data amgylcheddol cymhleth.
  4. Gweithio gyda chwmnïau yn y diwydiant Coedwigoedd a phan fo angen gydag awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol, parciau cenedlaethol;
  5. Gweithio mewn amgylchedd o reoli rhaglen a phrosiect a meddu ar brofiad a/neu gymwysterau Rheoli Prosiect.
  6. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol neu’n gweithio tuag at aelodaeth.
  7. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi pob Pennaeth Busnes yng nghyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y gofyn. 

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 – y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Dymunol Lefel 2 – gallu defnyddio rhywfaint o Gymraeg sylfaenol

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Y gallu i ymgymryd â thasgau ymarferol neu dechnegol neu waith sy'n gofyn am wybodaeth/arbenigedd arbenigol. 
  • Y gallu i ddarparu cyngor gwrthrychol i bobl eraill ar faterion perthnasol ar sail ei wybodaeth a'i brofiad a bod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf yn ei faes arbenigol.
  • Dangos profiad sylweddol perthnasol o weithio mewn amrywiaeth o sefydliadau gwahanol, neu rolau/swyddogaethau o fewn sefydliad unigol.
  • Y gallu i arwain a rheoli meysydd gwaith penodol a allai gynnwys gweithredu cynlluniau.
  • Yn meddu ar sgiliau mentora a'r gallu i rannu sgiliau a gwybodaeth ag eraill o fewn y swyddogaeth a/neu ar draws y sefydliad.
  • O bosib yn arbenigwr mewn ystod o bynciau sy'n ymwneud â'i broffesiwn. 

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli ystod o wybodaeth gymhleth o natur dechnegol, sy'n ymwneud â maes arbenigedd penodol, gan gyfrannu at ddatblygu strategaethau a pholisïau.
  • Y gallu i dynnu pwyntiau allweddol a'u cyfleu i unigolion ar bob lefel.
  • Y gallu i ddehongli cynlluniau cyflenwi perthnasol a deall eu cyd-destun yn strategaeth a pholisïau cenedlaethol ac ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni canlyniadau gan ddefnyddio rhywfaint o grebwyll neu greadigrwydd, wrth ymateb i ofynion sy'n gwrthdaro, trwy newid blaenoriaethau.
  • Y gallu i wneud penderfyniadau annibynnol ar ystod eang o faterion, gan ystyried yr opsiynau sydd ar gael a'r goblygiadau posibl i'r busnes.
  • Bydd penderfyniadau yn gofyn am gyfraniad gan reolwyr llinell a chyfoedion, a dealltwriaeth o bolisi Cyfoeth Naturiol Cymru y mae ei effaith yn debygol o fod yn ehangach na'r swyddogaeth neu'r adran uniongyrchol ac o natur tymor canolig.
  • Gwerthfawrogi canlyniadau gwneud penderfyniadau anghywir a’r effaith andwyol y gallent ei chael ar y sefydliad mewn perthynas â rhanddeiliaid allanol, megis sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaeth ac ati.
  • Y gallu i gyfrannu at osod cyfeiriad strategol ar eu cyfer eu hunain, eu maes ac eraill.
  • Y gallu i ddatblygu strategaeth a pholisïau sefydliadol gyda rhywfaint o ymreolaeth wrth weithredu polisi sefydliadol.
  • Y gallu i addasu ac ymateb i benderfyniadau a wnaed sy'n arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig ar gyfer delio â materion o fewn maes gwaith deiliad y swydd, nad ydynt efallai'n glir neu'n amlwg ar unwaith.
  • Efallai y bydd angen gwneud rhai penderfyniadau heb gyfeirio at eraill.

Effaith

  • Dangos gwerthfawrogiad o sut y bydd ei benderfyniadau a'i gamau gweithredu'n dylanwadu ar bobl eraill yn fewnol ac yn allanol.
  • Meddu ar ddealltwriaeth o ganlyniadau ei benderfyniadau, a fydd â lefel gymedrol o effaith a dylanwad ac a fydd o natur tymor canolig.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ryngweithio a chysylltu ag eraill ar draws y busnes, gan gynnwys y sefydliad yn y gwaith o gyflenwi cynlluniau gwaith a pholisïau yn y modd mwyaf effeithlon.
  • Bydd angen cyfathrebu â chydweithwyr mewnol a rhanddeiliaid allanol, a all gynnwys cyfraniad a dylanwad arbenigol at weithredu polisi a strategaeth.
  • Gall rhai rhyngweithiadau fod yn heriol yn emosiynol lle mae unigolion yn ddig neu'n ofidus, felly bydd angen pwyll, amynedd a'r gallu i aros yn ddigynnwrf i geisio datrys y mater.
  • Bydd y gwaith yn cynnwys cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a/neu arwain prosiectau, sy’n gofyn am sgiliau cyfathrebu a dwyn perswâd da.
  • Y gallu i hwyluso a/neu gyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan gyfrannu a rhoi cyngor yn ôl y gofyn. 
  • Y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Y gallu i lunio dogfennau, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati â pheth cymhlethdod, sy'n cynnwys elfennau o gyngor, arweiniad neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu arnynt neu'n eu defnyddio, ac a fyddai’n cael canlyniadau negyddol petaent yn cael eu drafftio'n anghywir neu'n wael.
  • Y gallu i ganfod data a chynnwys o sawl lleoliad, sy'n cynnwys rhywfaint o ymchwilio allanol a mynegi barn broffesiynol o ran sut y dylai ymchwil o'r fath gael ei dehongli.
  • Mae effaith dogfennau o'r fath yn debygol o fod o natur tymor canolig

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 16fed o Ebrill 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 4ydd/5ed o Fai 2023 ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Sally Tansey ar Sally.Tansey@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf