Uwch Swyddog Trwyddedu Diwydiant
Dyddiad cau: 14 Awst 2022 | Cyflog: 6, £35,994-£39,369 | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr
Rhif swydd: 201565
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae'r rôl yn rhan o dîm sy'n gweithio'n agos gyda'i gilydd, y mae ei aelodau'n cefnogi ei gilydd wrth asesu ceisiadau sy'n gymhleth ac weithiau'n gynhennus, ar draws sbectrwm eang o sectorau diwydiannol, gan gynnwys gweithfeydd hylosgi canolig, gweithfeydd hylosgi mawr, ffermio dwys, cemegion, bwyd a diod, metelau, sment a mwynau, cynhyrchu pŵer, trin gwastraff, tirlenwi, llosgi gwastraff a gweithgareddau sy'n defnyddio sylweddau ymbelydrol. Ni fydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad o'r holl feysydd hyn yn y diwydiant, na meddu ar wybodaeth amdanynt, ond dylai feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth dda ynghylch o leiaf un neu ddau faes yn y diwydiant.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth a gwybodaeth fanwl am drwyddedu yn ôl y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, a sgiliau gwyddonol a fydd yn ei alluogi i ddeall cynigion technegol cymhleth, a'r gallu i ddarparu gwaith craffu cadarn er mwyn sicrhau bod polisi a chanllawiau wedi'u dilyn a bod deddfwriaeth ac arfer da wedi'u bodloni.
Bydd yr unigolyn yn meddu ar sgiliau trefnu ac yn gallu cyfathrebu'n dda, gan ddefnyddio'i fentergarwch i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar risg mewn modd amserol.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Arwain ar y gwaith o benderfynu ar drwyddedau cymhleth o dan ddeddfwriaeth trwyddedu Gosodiadau, trwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru lle maent ar gael, a chyflwyno, gwrthod neu amrywio trwyddedau o fewn amserlenni.
- Arwain ar y gwaith o ddylanwadu ar y fframweithiau mentora a hyfforddi a’u gweithredu, er mwyn cynorthwyo â datblygiad technegol swyddogion trwyddedu eraill yn y tîm trwyddedu gosodiadau ac ar draws y gwasanaeth trwyddedu, lle y bo'n berthnasol, gan sicrhau cysondeb o ran y dull.
- Profiad helaeth o wneud penderfyniadau trwyddedu gan ddefnyddio amrywiaeth o ganllawiau technegol a meddalwedd dechnegol a rhaglenni modelu, yn unol â'r hyn sy'n ofynnol gan y cynllun Gosodiadau.
- Arwain ar y gwaith o gefnogi timau gweithredol drwy ddarparu arbenigedd yn y trafodaethau cyn cyflwyno cais a'r gwaith ar ôl trwyddedu ar gyfer mathau amrywiol o geisiadau o fewn sectorau amrywiol y drefn gosodiadau.
- Adnabod a gweithredu ar gyfleoedd i wneud newidiadau o ran prosesau a gweithdrefnau.
- Darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol drwy gydlynu newid sy'n arwain at wella profiad rhanddeiliaid mewnol ac allanol o'r Gwasanaeth Trwyddedu.
- Cydlynu ac arwain y gwaith o baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau trwyddedu yn ymwneud â'ch maes gwaith neilltuedig.
- Cynrychioli'r Gwasanaeth Trwyddedu mewn grwpiau technegol mewnol perthnasol ac mewn digwyddiadau rhanddeiliaid allanol perthnasol.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn pwnc gwyddonol perthnasol.
- Dealltwriaeth fanwl o'r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae'n ymwneud â'r broses trwyddedu gosodiadau.
- Profiad helaeth o asesu ceisiadau trwyddedu gosodiadau cymhleth neu brofiad gwaith ymarferol arwyddocaol mewn diwydiant prosesu rheoleiddiol
- Sgiliau hyfforddi a mentora profedig.
- Dull sy'n canolbwyntio'n gryf ar y cwsmer o ran cyflawni.
- Hanes blaenorol o gyflenwi’r datrysiadau gorau posibl trwy ddadansoddi gwybodaeth yn effeithiol a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg.
- Sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi'u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 14 Awst 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Holly Noble ar Holly.Noble@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 654385
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.