Cynghorydd Arbenigol Data Ecolegol
Dyddiad Cau: 11 Ebrill 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 201411
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Rydym yn chwilio am rywun i reoli'r data a gasglwn ar gyfer gwaith ecolegol yn CNC. Yn y rôl arbenigol dechnegol hon, byddwch yn rheoli ac yn datblygu'r gwaith o weinyddu data monitro ac arolygu bioamrywiaeth daearol a morol a data ffisegol cysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys arwain ar ddefnyddio a datblygu data ecolegol a storfeydd data CNC, cynghori ar safonau data, a gweithio gyda'n partneriaid i wella llif data.
Er enghraifft, o ddydd i ddydd efallai y byddwch yn:
- cynghori ar ddatblygu storfeydd data a chronfeydd data newydd
- siarad â staff mewn adrannau eraill am ddata y mae angen ei gatalogio a'i archifo'n gywir
- datblygu safonau data a rhoi cyngor ar weithredu
- nodi mecanwaith ar gyfer trin cofnodion rhywogaethau a gyflwynir i CNC gan eraill
- cysylltu â cheidwaid data eraill ar draws CNC i gefnogi’r broses o ddatblygu strategaethau data ehangach
Bydd angen gwybodaeth dechnegol arbenigol arnoch sy'n ymwneud â monitro ecoleg a data bioamrywiaeth. Yn ogystal â'r sgiliau hyn bydd angen i chi roi sylw i fanylion a mwynhau cydweithio ag eraill.
Byddwch wedi'ch lleoli yn y Tîm Ecosystemau a Rhywogaethau Daearol, sef tîm o arbenigwyr ar gynefinoedd a rhywogaethau yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu. Ond byddwch yn gweithio ar draws CNC, gan gydweithio â chydweithwyr morol a monitro, yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio ar reoli data ecolegol, polisïau a gweithdrefnau rheoli data a systemau TGCh. Byddwch hefyd yn gweithio gyda phartneriaid allanol ar ddatblygu a rheoli systemau data fel Marine Recorder.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r person sydd â'r sgiliau cywir i helpu CNC i gael y gorau o'n data, drwy arwain a chefnogi'r gwaith o reoli data ecoleg ar draws CNC.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Paratoi asesiadau technegol, gan dynnu ar ystod o wybodaeth gymhleth a ffynonellau data.
- Rheoli, datblygu a darparu mewnbwn technegol i gadwrfeydd data ecoleg CNC gan gynnwys y Cofnodwr a’r Cofnodwr Morol. Fel gweinyddwr system arweiniol byddwch yn sicrhau cydymffurfedd â safonau data a TG, ac yn gyfrifol am berchenogaeth fusnes yr asedau data ecoleg a gedwir ynddo.
- Arwain ar ddatblygu, gweithredu a chynnal yr offer a’r prosesau cysylltiedig ar gyfer cadwrfeydd data ecoleg CNC, ynghyd ag ansawdd data, gwiriadau a sicrwydd.
- Arwain datblygiad i fodloni gofynion rheoli data ecolegol CNC yn awr ac yn y dyfodol. Mabwysiadu newidiadau mewn technoleg ac arloesi i wella gwasanaethau a darparu buddion a ffyrdd gwell o gefnogi defnyddwyr.
- Cydgysylltu â rhanddeiliaid allanol i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu deall, bod ein hanghenion a’n gallu i gyflawni yn cael eu cyfleu, a bod trefniadau ar gyfer cyfnewid data ecoleg a bioamrywiaeth, lle bynnag y cânt eu storio, yn cael eu gweithredu a’u rheoli’n briodol i sicrhau eu bod yn amserol ac yn addas i’r diben.
- Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd bioamrywiaeth, a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cefnogi ymgysylltiad a meithrin perthnasoedd mewnol ac allanol cryf ag ystod o bartneriaid a bod yn bwynt cyswllt arweiniol ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid a cheisio cael cydweithrediad eraill, gan gynrychioli CNC mewn gweithgorau yn ôl yr angen.
- Gweithredu fel arbenigwr technegol ar gyfer systemau cofnodi ecoleg a bioamrywiaeth ar gyfer y busnes. Darparu cyngor technegol, cefnogaeth ac arweiniad fel arbenigwr arweiniol. Darparu hyfforddiant arbenigol uwch ar holl systemau cofnodi ecoleg a bioamrywiaeth CNC, gan gynnwys paratoi dogfennau canllaw
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynwyd drwy'r Byrddau Busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
- Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol Sgwrs cytunedig.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth dechnegol arbenigol sy'n ymwneud â datblygu ac asesu safonau a metrigau Ansawdd Data priodol ar gyfer monitro ecoleg a data bioamrywiaeth.
- Profiad o: ddefnyddio storfeydd data ecoleg, a rheoli gwaith monitro ecoleg a data bioamrywiaeth. Sgiliau TG cryf a phrofiad o ddefnyddio a rheoli data, meta-ddata a data cyfeirio mewn systemau TG cysylltiedig. Ymwybyddiaeth a'r gallu i werthuso gofynion TG a data sy’n perthyn i brosesau busnes sy'n cynhyrchu ac yn defnyddio data.
- Gweithio gyda/mewn cyrff cadwraeth natur statudol, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol, a chyrff cyhoeddus a'r gwasanaethau TG perthnasol.
- Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
- Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â bioamrywiaeth a rheoli data: gyrwyr polisi Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ym maes bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau: a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru.
- Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu'n gweithio tuag at ddod yn aelod.
- Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi pob Pennaeth Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 11 Ebrill 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Liz Halliwell at liz.halliwell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk or 07717800692
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.