Arbenigwr Arweiniol – Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2023 | Cyflog: £41,150-£46,147 (Gradd 7) | Lleoliad: Hyblyg yn Ne-Ddwyrain Cymru
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 201129
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae rheoleiddio diwydiant yn Ne-ddwyrain Cymru yn cwmpasu ystod amrywiol o sectorau a llu o safleoedd cymhleth a diddorol.
Yn ogystal â rheoleiddio o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am gyflawni o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol.
Mae cyfle cyffrous yn cyflwyno ei hun ar ffurf arbenigwr arweiniol parhaol o fewn tîm Rheoleiddio Diwydiant y De-ddwyrain. Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o reoleiddio safleoedd cymhleth, gan ddefnyddio'r ystod lawn o offer rheoleiddio (gan gynnwys ymatebion gorfodi) wrth gymhwyso ein hegwyddorion rheoleiddio. Bydd datrys problemau ac ymdrin â materion/safleoedd cynhennus, rhoi cyngor ar opsiynau a chydweithio yn agweddau pwysig ar y rôl.
Mae sgiliau mentora a hyfforddi yn hanfodol i gefnogi cydweithwyr a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gydag arbenigwyr eraill er mwyn ateb ymholiadau technegol, datblygu adnoddau hyfforddi a datblygu a gwella cysondeb ledled Cymru.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gweithredu fel arweinydd technegol cenedlaethol arbenigol i CNC ar gyfer sectorau neu faterion technegol penodol.
- Gweithredu fel cynghorydd a mentor technegol ar gyfer aelodau'r tîm.
- Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwaith tîm a gweithredu unrhyw gamau y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynllunio a chyflawni busnes.
- Gweithio gyda gweithredwyr i ddatblygu strategaethau rheoleiddio tymor canolig ar gyfer y gosodiadau, gan gynnwys ymgysylltu ag uwch-reolwyr a swyddogion gweithredol o fewn cwmnïau, i gyflenwi buddion lluosog.
- Arwain yn rheolaidd ar ein hymateb i faterion/achosion mawr neu gynhennus a gweithredu fel rheolwr cyfrifon i randdeiliaid allweddol.
- Cyfrannu at waith sector a grwpiau sector traws-asiantaeth yn ôl y gofyn i helpu i fabwysiadu dulliau rheoleiddio cyson a lledaenu arferion da sydd o fudd i'r amgylchedd. Lle y bo'n briodol, gweithredu fel arweinydd CNC ar gyfer sectorau technegol penodol.
- Bod yn barod i gymryd rhan mewn grwpiau technegol/strategol neu gynrychioli CNC mewn fforymau allanol, e.e. grwpiau sector rheoleiddwyr y DU. Bydd y mathau hyn o grwpiau'n cytuno ar strategaeth reoleiddiol sy'n benodol i’r sector yng Nghymru, y DU neu Ewrop.
- Datblygu cydberthnasau gwaith rhwng cyfarwyddiaethau, gan gyfrannu at ddatblygu unrhyw bolisïau sy'n ymwneud â diwydiant sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru.
- Gweithio gyda'r tîm trwyddedu i helpu gyda'r broses adolygu trwyddedau parhaus mewn ymateb i ddiweddariadau o fewn dogfennau cyfeirio’r technegau gorau sydd ar gael (BREF) a chyhoeddi casgliadau’r technegau gorau sydd ar gael (BAT).
- Rhyngweithio ag arbenigwyr rheoleiddiol eraill yn CNC i hyrwyddo arferion rheoleiddiol cyson.
- Cefnogi cynghorwyr yn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu ar lefel weithredol.
- Asesu cydymffurfedd â gosodiadau, safleoedd Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH), safleoedd gwastraff, a safleoedd sy'n ymdrin â sylweddau ymbelydrol.
- Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion.
- Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Aelodaeth o gorff proffesiynol.
- Profiad o weithio ar draws ystod eang o sectorau diwydiannol perthnasol.
- Sgiliau hyfforddi a mentora.
- Profiad o reoli materion cynhennus a gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned a'r cyhoedd.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnesau masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth ym maes prosesau rheoleiddio a gorfodi a rheoli digwyddiadau.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol Lefel 3 – gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd Gwaith
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 29 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Wayne Grimstead ar wayne.grimstead@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.