Swyddog Gweinyddol – Cymorth Prosiect

Dyddiad Cau: 2 Ebrill 2023 | Cyflog: £28,403 - £32,088 (Gradd 4) | Lleoliad: Resolfen neu Llanymddyfri

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.

Rhif swydd: 200734

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae hyn yn gyfle i ymuno â Thîm Cyflenwi Ynni CNC a gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at yr argyfwng hinsawdd a natur wrth wasanaethu cymunedau Cymru.

Yn y rôl hon byddwch yn cynnig lefel uchel o gymorth ysgrifenyddol a busnes i dimau prosiect sy’n hwyluso, datblygu ac adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy (a masnachol eraill) proffil uchel ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru. Byddwch hefyd yn ymgymryd â thasgau tîm a rhaglen i sicrhau effeithlonrwydd, cysondeb, a llywodraethu da ar draws y Timau Cyflenwi Ynni a Datblygu Masnachol ehangach.

Byddai’r rôl yn addas ar gyfer rhywun sy’n ddyfeisgar ac yn drefnus gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol (ysgrifenedig a llafar) ac sy’n talu sylw i fanylion. Bydd angen i ymgeiswyr hefyd fod yn hyblyg wrth ymateb i amgylchiadau newidiol a bod yn synhwyrol ac yn ddiplomyddol pan fo angen. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o gyflawni dyletswyddau gweinyddol allweddol sy'n cefnogi timau prosiect megis: cymryd cofnodion, trefnu cyfarfodydd ac amserlen yn ogystal â rheoli dogfennau electronig a blychau post a gweithgareddau caffael sylfaenol.

Mae gwybodaeth ymarferol a phrofiad o ddefnyddio Microsoft Office Tools (yn enwedig Excel, Word, PowerPoint a thimau) yn hanfodol. Byddai profiad o ddefnyddio Microsoft Project, Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), a meddalwedd delweddu data rhyngweithiol yn fanteisiol (bydd cyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn). Mae'r tîm yn defnyddio offer Rheoli Prosiect megis cofrestri risg, gwersi a ddysgwyd, cofnodion penderfyniadau ac ati i sicrhau cysondeb a thryloywder wrth wneud penderfyniadau a rheoli risg yn effeithiol.

Byddai dealltwriaeth neu brofiad sylfaenol o gefnogi rheolwr prosiect yn fanteisiol.

Mae’r rôl yn bennaf yn seiliedig ar ddesg gyda gofyniad am deithio achlysurol i leoliadau CNC eraill ledled Cymru gyda threfniant ymlaen llaw.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Rheoli'r systemau sy'n ofynnol i weithredu gweithdrefnau rheoli prosiect PRINCE 2
  • Llunio, adolygu a phrosesu gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cynnal a chadw'r pecyn cymorth rheoli prosiect, gan gynnwys cofnodion risg a materion.
  • Cynnal cofnodion llesiant, iechyd a diogelwch ar gyfer y tîm prosiect ar y safle.
  • Cynnal iechyd a diogelwch a systemau adrodd digwyddiadau amgylcheddol.
  • Rheoli, storio, adalw a dehongli dogfennau prosiect, gan gynnwys contractau, prydlesau a gwybodaeth arall sy'n sensitif yn fasnachol.
  • Darparu gwybodaeth at ddibenion rheoli contractau.
  • Trefnu caniatâd mynediad at safleoedd.
  • Delio ag ymholiadau gan ddatblygwyr a thimau mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau tîm, ymweliadau â safleoedd, a gwaith cysylltu â datblygwyr a chwsmeriaid.
  • Ymgymryd â gwaith gweinyddol priodol yn ymwneud â chanolfannau costau a darparu gwasanaethau ysgrifenyddiaeth lawn ar gyfer cyfarfodydd prosiect.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Byddwch yn meddu ar sgiliau da o ran llythrennedd, rhifedd a TG (Microsoft Office).
  2. Bydd gennych brofiad mewn gweinyddiaeth swyddfa.
  3. Byddwch yn meddu ar sgiliau rhifedd a'r gallu i gyfathrebu'n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  4. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  5. Byddwch yn drefnus, yn gallu ymaddasu, ac yn gallu ymateb i alwadau sy'n newid ar eich llwyth gwaith.
  6. Bydd gennych brofiad o reoli gwybodaeth a systemau rheoli prosiect
  7. Byddwch yn gallu dehongli contractau.
  8. Byddwch yn effeithiol o ran datblygu perthnasau da â rhanddeiliaid, yn fewnol ac yn allanol.
  9. Byddwch yn fodlon mynychu cyfarfodydd ar safleoedd a chofnodi arsylwadau ar y safle, yn ogystal â darparu dyletswyddau cyflenwi ar gyfer aelodau'r tîm ledled Cymru yn ôl y gofyn.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad gwaith perthnasol o ddod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid yn y maes pwnc, a hynny naill ai o ganlyniad i weithio mewn swyddi eraill yn CNC neu mewn sefydliadau eraill. Bydd deiliad y swydd yn meddu ar ddealltwriaeth dda o CNC, y gwaith a wneir gan y swyddogaeth, a'r effaith y mae'r gwaith yn ei chael yn allanol. Mae'n debygol y caiff y ddealltwriaeth hon ei datblygu a'i gwella trwy brofiad o gyflawni'r swydd yn CNC.
  • Bydd gan ddeiliaid y swyddi sgiliau cyfathrebu llafar da, ynghyd â'r gallu i weithio a rhyngweithio ag amrediad o unigolion a sefydliadau.  Bydd deiliaid y swyddi'n wydn, ac yn meddu ar sgiliau hwyluso ac ymgysylltu da, a sgiliau da o ran rheoli'r cydberthynas â chwsmeriaid, a bydd y gallu ganddynt i fod yn hyblyg, yn barod i newid, ac yn drefnus iawn. Bydd angen i ddeiliad y swydd allu addasu arddull a chynnwys ei iaith i weddu i'r gynulleidfa.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau llythrennedd, rhifedd a TG da. Bydd yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth a rheoli ei lwyth gwaith ei hun.
  • Er na fydd yn gwneud hynny ar lefel uchel, bydd deiliad y swydd yn deall contractau a chyfraith contractau, a bydd yn agored i ddysgu a datblygu ei wybodaeth a sgiliau ymhellach.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Y gallu i adalw, cynhyrchu, adolygu, prosesu, dehongli a chyflwyno amrywiaeth o wybodaeth. Dealltwriaeth o gontractau sylfaenol a'r gallu i reoli systemau adrannol mewnol.

Effaith

  • Caiff y gwaith a wneir gan ddeiliad y swydd effaith ar ei dîm neu swyddogaeth uniongyrchol ei hun. Bydd ei fewnbwn ac effeithiolrwydd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni gweithgareddau eraill.
  • Bydd deiliad y swydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da er mwyn ei alluogi i weithio gyda chwsmeriaid, y cyhoedd, cymunedau a thrydydd partïon. Gallai hyn gael effaith ar waith darparu gwasanaethau neu mae potensial y gellir achosi niwed i gydberthnasau. O safbwynt swyddi sy'n ymwneud ag addysg, caiff hyn effaith ar ddysgu ac ymddygiadau'r gynulleidfa.
  • Effaith tymor gymharol fyr y caiff unrhyw benderfyniad neu weithgaredd a wneir, a chaiff unrhyw gamgymeriad neu esgeulustod ei nodi, gan ei gwneud yn bosibl mynd i'r afael ag ef a'i ddatrys yn ddidrafferth. Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar ddealltwriaeth o effaith gyffredinol y swyddogaeth, hyd yn oed os nad yw ei swydd yn dylanwadu ar y canlyniad yn uniongyrchol.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Y gallu i ryngweithio ar lefel uchel, a hynny â chwsmeriaid mewnol ac allanol.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu da, y mae modd eu haddasu, gan ddibynnu ar yr unigolyn a natur y cydberthynas.
  • Bydd gwaith cyfathrebu yn cynnwys rhoi a rhannu gwybodaeth, ymdrin ag ymholiadau, a darparu cyngor syml. Gall rhywfaint o waith cyfathrebu ymwneud â gofynion contractau, ac felly bydd angen i ddeiliad y swydd allu cyfleu gwybodaeth yn glir, yn gryno ac yn hyderus.
  • Gall fod angen rhywfaint o ryngweithio ag unigolion sy'n ddig neu wedi'u cynhyrfu, a bydd hynny'n gofyn am bwyll, amynedd, a'r gallu i aros yn ddigynnwrf er mwyn ceisio datrys y broblem.

Cyfrifoldeb dros adnoddau

  • Bydd deiliaid y swyddi'n gyfrifol am ddefnyddio cyfarpar yn ddiogel er mwyn cyflawni gofynion eu rôl.
  • Mae'n bosibl y bydd rhai agweddau ar y rôl yn ymwneud â chreu incwm.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 2 Ebrill 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Charlotte Lewis ar charlotte.lewis@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf