Swyddog Coetir Rheoliadol
Dyddiad cau: 3 Ebrill 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Grade 5) | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos, llawn amser
Rhif swydd: 200614
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Fel Swyddog Coetiroedd Rheoliadol, byddwch yn helpu i gyflawni ein rôl wrth sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol mewn coedwigoedd ac ymateb i ddigwyddiadau ledled Gogledd Ddwyrain Cymru.
Fel tîm, rydym yn gweithredu dros Gymru gyfan, gyda swyddogion unigol yn gofalu am eu hardal eu hunain. Rydym yn chwilio am swyddog a all gyfrannu at gyflawni ein gwaith rheoleiddio gyda'r sector coedwigaeth, busnesau ac unigolion. Byddwch yn gweithio yn y swyddfa / cartref yn bennaf (i'w drafod ar ôl penodi), ond bydd cyfleoedd rheolaidd ar gyfer gwaith maes, a byddwch yn gweithio gydag ystod eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol.
Bydd gennych rôl fawr i'w chwarae wrth ymateb i achosion honedig o gwympo anghyfreithlon, rhoi cyngor i lywio canlyniad ceisiadau am drwyddedau cwympo coed, sgriniau AEA a cheisiadau eraill am ganiatadau perthnasol yn yr ardal sy’n ymwneud â choedwigaeth a choed. Bydd angen i chi ymateb i ddigwyddiadau mewn modd amserol a diogel a chymryd camau gorfodi priodol pan fo angen. Mae'r meysydd gwaith hyn yn debygol o ddominyddu eich llwyth gwaith ond efallai y gelwir arnoch i gyfrannu at feysydd eraill o fewn cylch gwaith y timau Rheoleiddio Coedwigoedd ac Iechyd Coed.
Mae dycnwch, dyfalbarhad, a'r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith da i gyd yn sgiliau y mae ein Swyddogion Coetiroedd Rheoleiddiol llwyddiannus yn eu harddangos.
Dros amser byddwch yn datblygu eich sgiliau o ran gallu rhoi cyngor technegol i rhanddeiliaid mewnol ac allanol, a'ch gallu i gynnal ymchwiliadau a chamau gorfodi dilynol o ganlyniad i weithgarwch cwympo coed anghyfreithlon.
Rydym yn chwilio am swyddog brwdfrydig a phroffesiynol sy'n gallu gweithio'n gyflym, yn aml yn ôl terfynau amser tynn ac sy'n gallu blaenoriaethu ei lwyth gwaith yn effeithiol er mwyn cyflawni mwy dros yr amgylchedd.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Asesu cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- Cymryd camau gweithredu priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Cynhyrchu gweithdrefnau a dogfennau perthnasol.
- Cyhoeddi Hysbysiadau Statudol yn unol â pholisi’r llywodraeth ac egwyddorion rheoliadol
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth a phrofiad o'r sector coedwigaeth.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddiol a gorfodi.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Dymunol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd Gwaith
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 3 Ebrill 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Callum Stone ar callum.stone@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07787 196475
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.