Cynorthwyydd, Tîm yr Amgylchedd
Dyddiad cau: 27 Ionawr 2023 | Cyflog: £21,655 - £24,408 | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 200598
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae diben ein sefydliad, sef rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae gan bawb yn Cyfoeth Naturiol Cymru rôl i'w chwarae wrth reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac, o fewn hynny, rôl Cyfoeth Naturiol Cymru o sicrhau bod cydnerthedd ecosystemau yn sail i lesiant ehangach yng Nghymru.
Bydd gan ddeiliad y swydd ran allweddol i'w chwarae wrth gefnogi gwaith tîm sydd â rôl hanfodol wrth wella llesiant drwy reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan wella'r amgylchedd drwy gyflawni cylch gwaith rheoleiddiol a rhagweithiol Cyfoeth Naturiol Cymru yn effeithiol ac effeithlon yn y lle.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cefnogi'r ddarpariaeth integredig o swyddogaethau gan y tîm a'r lle, gan gynnwys casglu gwybodaeth gymhleth am gydymffurfiaeth reoleiddiol a gorfodi, cydlynu ymatebion, a gweinyddu rotâu ymateb i ddigwyddiadau.
- Cadw neu ddatblygu gwybodaeth am brosesau megis casglu tystiolaeth, gweinyddu cronfeydd data, neu wneud penderfyniadau am drwyddedau syml sy'n cefnogi'r gwaith a gyflawnir gan y tîm neu'r lle.
- Ymateb i ymholiadau syml gan gwsmeriaid a sicrhau bod ymholiadau mwy cymhleth yn cael eu cofnodi a'u trosglwyddo i'r staff perthnasol.
- Cefnogi a phrosesu ceisiadau caffael ar gyfer y tîm neu'r lle er mwyn sicrhau bod offer priodol ar gael a'u bod yn cael eu cynnal yn unol â'r gweithdrefnau.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Dealltwriaeth dda o gylch gwaith rheoleiddiol Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Sgiliau trefnu da.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid mewnol ac allanol a phartneriaid.
- Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol
|
|
Gwerthuso gwybodaeth
|
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth
|
|
Effaith
|
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill
|
|
Cyfrifoldeb dros bobl
|
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau
|
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 27 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Jenny Phillips ar Jenny.phillips@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.