Uwch Swyddog Coedwig
Dyddiad cau: 12 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308-£40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: De’r Canolbarth Cymru (swyddfa Aberystwyth neu Lanymddyfri)
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr llawn amser, ond croesewir trafodaeth yn ystod y cyfnod cyfweld.
Rhifau swyddi: 200544
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae’r Tîm Gweithgareddau Coedwig yn gyfrifol am reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn gynaliadwy i fodloni achrediad dan Gynllun Sicrwydd Coetir y DU ac ISO14001 ac i gyflawni Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol. Mae’r tîm yn rheoli coetiroedd Llywodraeth Cymru yn ardal ddeheuol y Canolbarth (Gorllewin) sy’n ymestyn o Aberystwyth yn y gorllewin i Lanymddyfri yn y dwyrain. Mae’r rhain yn cynnwys cymysgedd o flociau ucheldirol ac iseldirol gan gynnwys gogledd a chanolbarth Tywi, Cwm Berwyn, Llanbedr Pont Steffan, Cross Inn, Tarenig, Myherin a Chwm Ystwyth.
Mae rôl yr Uwch Swyddog yn allweddol ar gyfer datblygu cynlluniau tactegol i gyflawni rhaglenni gweithredol blynyddol. Bydd gofyn gweithio’n agos â thimau o fewn CNC yn ogystal â chyflenwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni ar amser a hefyd eu bod yn bodloni’r safonau ansoddol ac yn rhoi gwerth am arian.
Disgwylir i’r unigolyn wneud y canlynol:
- Datblygu cynlluniau pum mlynedd tactegol a fydd yn cynnwys llwyrgwympo, teneuo yn ogystal ag addasu i ddefnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith, ailstocio, rhaglenni sefydlu a chynnal a chadw.
- Cynhyrchu proffiliau cyllideb blynyddol mewn cydweithrediad â’r Arweinydd Tîm ac adrodd yn rheolaidd ar y cynnydd.
- Asesu Cynlluniau Adnoddau Coedwig strategol arfaethedig i sicrhau bod ystod eang o amcanion yn cael eu gweithredu i fodloni Safon Coedwigaeth y DU.
- Cefnogi’r tîm ehangach o ran rheoli gweithrediadau pan fo angen.
- Cymryd cyfrifoldeb dros reoli data isadrannol.
- Rheoli prosiectau penodol pan fo angen.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arddangos ei fod yn llawn cymhelliant a bod ganddo syniadau arloesol.
Os hoffech ymweld â’r safle i drafod y rôl yn ogystal â gweld yr amgylchedd gwaith, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Rhaid cael trwydded yrru lawn y DU.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gweithredu fel arweinydd technegol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer sectorau neu faterion technegol penodol.
- Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwaith tîm a gweithredu unrhyw gamau y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynllunio busnes. Lle y bo'n briodol, gweithredu fel arweinydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer sectorau penodol technegol.
- Bydd yn ofynnol i gymryd rhan yng ngrwpiau technegol/strategol Cyfoeth Naturiol Cymru neu gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru ar fforymau allanol.
- Rhyngweithio ag arbenigwyr eraill yn Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn hyrwyddo arferion cyson y diwydiant a phynciau arbenigol.
- Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol am gyflawni rhaglenni a ddirprwywyd a rheoli cyllidebau y cytunwyd arnynt, yn cynnwys yr holl gydymffurfiaeth berthnasol a glynu at y broses gaffael.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Aelodaeth broffesiynol, neu o leiaf yn gweithio tuag at yr achrediad o'r pwnc perthnasol, o fewn amserlen y cytunir arni.
- Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir.
- Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
- Sgiliau hyfforddi a mentora.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnesau masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o bob agwedd ar arferion coedwigoedd, gan gynnwys cynllunio coedwigoedd a gweithrediadau coedwigoedd.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 12 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 21 Chwefror 2023
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Marius Urwin marius.urwin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07887626317 neu Alan Wilson ar alan.wilson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk Rhwng 3ydd Ionawr I 6ed.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.