Swyddog Twyni Byw/Sands of LIFE, Cyfathrebu a Dehongli
Dyddiad cau: 5 Chwefror 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Byddai Bangor neu Crosshands yn fanteisiol
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 30 Mehefin 2024
Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos. Llun i Gwener
Rhif swydd: 200445
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â phrosiect adfer bioamrywiaeth gwerth miliynau o bunnoedd, lle byddwch yn arwain ar yr holl weithgareddau ymgysylltu a chyfathrebu. Mae'r prosiect mewn cyfnod lle byddwn yn cwblhau ein gwaith ymarferol ac yn canolbwyntio ar rannu'r canlyniadau â chymunedau lleol a chynulleidfaoedd digidol, yn ogystal ag ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys trwy ein cynhadledd brosiect.
Fel aelod o dîm prosiect Twyni Byw, byddwch yn helpu i gyflwyno’r rhaglen uchelgeisiol o adfer safleoedd yn ymarferol, monitro a gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid sydd wrthi’n digwydd ar 10 safle twyni tywod mewn pedair Ardal Cadwraeth Arbennig yng Nghymru.
Byddwch yn arwain ac yn rheoli holl agweddau cyfathrebu ac ymgysylltu’r prosiect; darparu gweithgareddau’n uniongyrchol a rhoi cymorth i’r Arweinydd Tîm a’r tîm ehangach. Byddwch yn gofalu fod targedau penodol yn cael eu cyflawni’n amserol yn unol â gofynion y Comisiwn Ewropeaidd a CNC. Byddwch yn gweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr ar draws CNC, ond yn enwedig gyda’n harweinwyr cyfathrebu, brandio a digidol a chyda’n harweinwyr dehongli a marchnata.
Mae prosiect Twyni Byw (LIFE 17 NAT/UK/000023) wedi derbyn arian gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cynnal a chyflawni Cynllun Cyfathrebu’r Prosiect ar y cyd â chydweithwyr a phartneriaid/rhanddeiliaid, yn unol â chanllawiau a gweithdrefnau’r Comisiwn Ewropeaidd a CNC.
- Cydweithio, datblygu a chyflawni rhaglen waith fanwl ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer 10 safle’r prosiect.
- Llunio cynnwys effeithiol, diddorol ac o’r radd flaenaf trwy bob sianel a gweithgaredd, wedi’i dargedu at anghenion cynulleidfaoedd penodol, er mwyn cyflawni canlyniadau strategol a gwella’r modd y caiff ein rhanddeiliaid fynediad at wybodaeth yn ymwneud â’r prosiect.
- Datblygu a darparu llif cyfathrebu integredig ar draws gweithgareddau a sianeli amrywiol, yn cynnwys rhai digidol, gan sicrhau bod cynulleidfa eang ac amrywiol yn cael ei denu.
- Paratoi a mynd i’r afael â gwaith ymgysylltu ar y safle ac oddi ar y safle yn ymwneud â thwyni tywod, ar gyfer amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd, yn cynnwys:
- deunyddiau addysgol
- cynorthwyo gyda theithiau cerdded tywysedig/ymweliadau gan amrywiaeth o gynulleidfaoedd
- ffilmiau
- Map Stori
- deunyddiau ysgrifenedig, yn cynnwys taflenni
- paneli dehongli
- mynychu digwyddiadau cyhoeddus, fel sioeau amaethyddol
- cydgysylltu â chynghorau lleol a grwpiau cymunedol/diddordeb arbennig eraill.
- digwyddiadau mawr sydd wedi’u hanelu at ymgysylltu â’r ‘gymuned twyni tywod’ genedlaethol a rhyngwladol, fel y gynhadledd Forlannol.
- Cyfrannu at benderfyniadau strategol er mwyn sicrhau bod enw da CNC a’r prosiect yn cael ei ddiogelu a’i hybu.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o waith cyfathrebu ac ymgysylltu gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid/cynulleidfaoedd, yn cynnwys datblygu a chyflawni partneriaethau a chynlluniau cyfathrebu.
- Yn hollol hyddysg mewn cyfrifiadura a thystiolaeth eich bod yn gwbl gyfarwydd â pharatoi cyfraniadau digidol a dulliau lledaenu.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ynghyd â’r gallu i weithio mewn tîm gyda chydweithwyr a phartneriaid. Y gallu i ddatblygu a rheoli perthnasau gweithio cryf gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid, o ymarferwyr i wneuthurwyr polisïau.
- Sgiliau hunanreoli a threfnu effeithiol, yn cynnwys y gallu i weithio o fewn fframwaith prosiect a rheoli llwythi gwaith anodd, ynghyd â’r gallu i gefnogi a hyrwyddo arloesedd, a dangos menter ac ymrwymiad.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl
Dymunol: Lefel 5 – Siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflen gais wedi’u cwblhau at
Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 5 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Meinir Wigley at Meinir.wigley@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk or 07970 254369
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.