Cynorthwyydd, Tîm yr Amgylchedd
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2023 | Cyflog: £21,655 - £24,408 (Gradd 2 | Lleoliad: Bwcle
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr.
Rhif swydd: 200417
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Gan fod mwy o bethau cyffrous yn digwydd yma yn CNC nag erioed o'r blaen, mae natur amrywiol ein cylch gwaith yn golygu nad oes unrhyw ddau ddiwrnod fyth yr un fath.
Os ydych chi'n unigolyn trefnus, cydwybodol a gweithgar, ac yn un da am wneud gwaith gweinyddu, yn mwynhau amldasgio ac os ydych yn chwaraewr tîm ardderchog, yna mae gennym yr union swydd ar eich cyfer!
Fel Cynorthwyydd y Tîm Amgylchedd byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y tîm yn gallu gweithio'n effeithlon ac effeithiol, drwy ddarparu cymorth ardderchog i'r tîm a'n cwsmeriaid. Mae'r tîm yn un amlswyddogaethol, a byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo i ddarparu a chynnal a chadw offer a chyfarpar diogelu personol, derbyn a chofnodi gohebiaeth a darparu ystod o gymorth gweinyddol neu fusnes sy’n rhoi gwybodaeth ac yn cefnogi gweithgareddau'r swyddogaeth.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio’n gyflym, sydd â sgiliau TG rhagorol, sy’n gallu bodloni terfynau amser ac sy'n gallu blaenoriaethu ei lwyth gwaith yn effeithiol. Os ydych yn mwynhau cael eich gwobrwyo bob dydd o wybod fod popeth ydych yn ei wneud yn helpu i wneud gwahaniaeth, yna CNC yw'r lle i chi.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cefnogi'r ddarpariaeth integredig o swyddogaethau gan y tîm a'r lle, gan gynnwys casglu gwybodaeth gymhleth am gydymffurfiaeth reoleiddiol a gorfodi, cydlynu ymatebion, a gweinyddu rotâu ymateb i ddigwyddiadau.
- Cadw neu ddatblygu gwybodaeth am brosesau megis casglu tystiolaeth, gweinyddu cronfeydd data, neu wneud penderfyniadau am drwyddedau syml sy'n cefnogi'r gwaith a gyflawnir gan y tîm neu'r lle.
- Ymateb i ymholiadau syml gan gwsmeriaid a sicrhau bod ymholiadau mwy cymhleth yn cael eu cofnodi a'u trosglwyddo i'r staff perthnasol.
- Cefnogi a phrosesu ceisiadau caffael ar gyfer y tîm neu'r lle er mwyn sicrhau bod offer priodol ar gael a'u bod yn cael eu cynnal yn unol â'r gweithdrefnau.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Dealltwriaeth dda o gylch gwaith rheoleiddiol Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Sgiliau trefnu da.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid mewnol ac allanol a phartneriaid.
- Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Dymunol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 29 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Rhys Ellis ar rhys.ellis@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.