Arweinydd Tîm yr Amgylchedd
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2023 | Cyflog: £41,150-£46,147 (Gradd 7) | Lleoliad: Bwcle
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr. Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.
Rhif swydd: 200395
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Dyma gyfle arbennig i arwain a gweithio gyda grŵp ymroddgar o bobl a bod yn rhan o dîm gweithgar sydd â chylch gwaith eang. Byddwch yn atebol i'r Rheolwr Gweithrediadau a byddwch yn arwain gwaith y tîm ar draws ystod o weithgareddau gan gynnwys rheoleiddio a digwyddiadau, yn ogystal â gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a chwsmeriaid. Mae pob diwrnod yn wahanol gan fod y rôl yn cynnwys cymysgedd o waith a gynlluniwyd ymlaen llaw a gwaith ymatebol.
Bydd gan Arweinydd y Tîm werthfawrogiad technegol o gylch gwaith cyfan y tîm (gwaith Rheoli’r Amgylchedd, Safleoedd Gwarchodedig, Pysgodfeydd a Bioamrywiaeth) yn ogystal â Rheoli Digwyddiadau. Bydd yn mynd ati i bennu a rheoli blaenoriaethau ac ymatebion rheoleiddiol yn y ‘Lle’. Bydd disgwyl iddo arwain neu hyrwyddo maes penodol o waith ar lefel lle neu gyfarwyddiaeth.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddatblygu rhwydwaith cynhwysfawr o randdeiliaid ac un o elfennau allweddol y rôl hon fydd meithrin a chefnogi’r broses o weithio mewn partneriaeth y tu allan i CNC er mwyn Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a chyflawni canlyniadau lles.
Lle mae’r rôl hon yn eistedd
Mae’r rôl hon yn eistedd yn y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae’r swydd yn un o ddwy swydd Arweinydd Tîm yr Amgylchedd yn adran Gweithrediadau’r Gogledd-ddwyrain ac mae’n un o 6 rôl arweinydd tîm sy’n atebol i Reolwr Gweithrediadau’r Gogledd-ddwyrain.
Mae Tîm Amgylchedd Sir y Fflint a Wrecsam yn cyflawni llawer o gylch gwaith rhagweithiol CNC ar y rheng flaen o ran rheoleiddio a chynghori, gan gynnwys gorfodi a rheoli digwyddiadau. Mae’r tîm yn alluogwyr allweddol ar gyfer amcanion Cynllun Corfforaethol CNC, yn uniongyrchol a thrwy weithio gydag eraill drwy arfer ein hystod o ddyletswyddau statudol. Maen nhw hefyd yn cyflawni gwaith rhagweithiol mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac eraill i gyflawni amcanion Lles a BGC yn y lle.
Mae’r timau’n gweithio’n arbennig o agos gyda Thimau eraill yr Amgylchedd yn CNC, ein timau Rheoleiddio a’n tîm Pobl a Lleoedd. Yn allanol, mae’r tîm yn gweithio gydag awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol ac ystod eang o diwyddiannau a sectorau.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Datblygu a gweithredu cynlluniau gwaith lleol i wireddu ein dyheadau rheoleiddiol ac ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid perthnasol.
- Bod yn gyfrifol am benderfyniadau rheoleiddiol ar lefel lle, gan sicrhau y glynir at y Cod Rheoleiddwyr a'n Hegwyddorion Rheoleiddiol.
- Bod yn gyfrifol am awdurdodi penderfyniadau rheoleiddiol a gorfodi o fewn cylch gwaith y tîm, gan gynnwys cydsyniadau safleoedd gwarchodedig.
- Sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant aelodau o'r tîm drwy weithredu a monitro arferion gweithio diogel ac asesiadau risg.
- Rheoli gwariant y tîm o fewn y gyllideb.
- Byddai disgwyl iddo hefyd arwain tîm technegol rhithwir i gefnogi cyflawni mewn lle.
- Cyflawni rôl uwch o fewn gwasanaeth cadarn sy’n rheoli digwyddiadau nad ydynt yn rhai llifogydd yn CNC ac sy’n dilyn prosesau CNC.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o reoli llinell. (Hanfodol)
- Sgiliau hyfforddi a mentora. (Hanfodol)
- Profiad o ymgysylltu â'r gymuned a gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd. (Dymunol).
- Sgiliau trefnu, rheoli amser a rhyngbersonol cadarn.
- Dealltwriaeth dda o'r amgylchedd lleol a phwysau sy'n berthnasol i gylch gwaith y tîm.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddiol a gorfodi.
- Trwydded yrru lawn sy'n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau).
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol Lefel 3 – gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd Gwaith
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros bobl |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 29 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â David Powell ar david.powell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.