Aelod o’r Tîm Gweithlu Integredig
Dyddiad cau: 2 Ebrill 2023 | Cyflog: £21,655 - £24,408 (Gardd 2)| Lleoliad: Depo Fingerpost, Holt, Wrecsam
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Pythefnos 9-diwrnod
Rhif swydd: 200383
Disgrifiad o’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw ac yn cyflwyno rhaglen waith cyfalaf ar gyfer asedau Cyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn cynnwys asedau perygl llifogydd a thir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn darparu ymateb brys priodol a bydd yn ofynnol i gyfrannu at rota wrth gefn a gweithio y tu allan i oriau.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Byddwch yn darparu gwasanaeth llafur â llaw er mwyn cynnal asedau Cyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn cynnwys asedau perygl llifogydd a thir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Byddwch yn gallu defnyddio offer megis offer â llaw a allai gynnwys llifiau cadwyn.
- Byddwch yn gallu gweithredu fel arolygwr a thaflwr/arwyddwr.
- Byddwch yn gallu deall cynlluniau technegol a chyfleustodau a gweithredu mewn cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu.
- Byddwch yn defnyddio cyfarpar a pheiriannau bach h.y. Aebi/Reform, peiriant torri gwair wrth gerdded, peiriant malu pren, ac ati.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Trwyddedau gweithredwyr perthnasol ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar neu’n gweithio tuag atynt.
- Tystysgrif Gweithio'n Ddiogel IOSH.
- Cymhwysedd mewn TGCh (lefel sylfaenol).
- Cymorth Cyntaf Brys +F.
- Mae profiad blaenorol yn y maes coedwigaeth, adeiladu, amaethyddol, amgylcheddol neu fel gweithredwr cyfarpar yn ddymunol.
- Mae'r rôl yn anodd yn gorfforol felly bydd angen lefel resymol o ffitrwydd.
- Hyderus yn gweithio mewn dŵr ac wrth ymyl dŵr.
- Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y rôl. Mae TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol.
- Trwydded yrru lawn y DU yn ddelfrydol yn cynnwys categori B + E (tynnu trelars)
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Dyddiad cau ar gyfer y cais 2 Ebrill 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb, lleoliad i’w gadarnhau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Pete Ellis at peter.ellis@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.