Arweinydd Tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd
Dyddiad cau: 10 Ebrill 2023 | Cyflog: £41,150 - £46,147 (Gradd 7) | Lleoliad: Bwcle
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 20 Rhagfyr 2023
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser neu oriau cywasgedig – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.
Rhif swydd: 200269
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r Swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd â phrofiad fel arweinydd tîm presennol neu rywun sydd â gwybodaeth fanwl am reoli perygl llifogydd sydd am ddatblygu profiad fel arweinydd tîm i arwain y tîm dadansoddi perygl llifogydd am 9 mis.
Mae’r rôl hon yn atebol i’r Rheolwr Perygl Llifogydd ac Adnoddau Dŵr a bydd yn arwain, rheoli, cyfarwyddo ac ysgogi tîm o staff technegol arbenigol, gan ddod â lefel uchel o ddylanwad, gwybodaeth a phrofiad gweithredol i'r tîm.
Mae'r tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i ddeall perygl llifogydd. Defnyddir y dystiolaeth a'r wybodaeth a gynhyrchir gan y tîm i ddiweddaru ein mapiau llifogydd cyhoeddedig, dylanwadu ar geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd, gwerthuso opsiynau ar gyfer cynlluniau lliniaru perygl llifogydd, canfod ardaloedd lle mae angen rhybuddio am lifogydd a nodi lefelau sbardun, asesu perfformiad ein hasedau llifogydd presennol a mwy.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Arwain a rheoli'r gwaith o gyflawni cofrestr perygl strategol effeithiol ar sail risg a ddefnyddir i gyfarwyddo penderfyniadau buddsoddi ar gyfer perygl llifogydd.
- Darparu cyngor technegol a chanllawiau i wella'r broses o wneud penderfyniadau ar sail risg yn fewnol, gydag Awdurdodau Rheoli Risg eraill, Awdurdodau Cynllunio a Llywodraeth Cymru.
- Arwain rôl oruchwylio CNC, gan lywio, gwirio, dylanwadu a chydlynu'r Prif Awdurdodau Llifogydd Lleol
- Cyflwyno tystiolaeth mewn ymchwiliadau cymhleth i sicrhau bod yr amgylchedd, pobl a seilwaith critigol y wlad yn cael eu hamddiffyn rhag datblygiadau amhriodol a pheryglus.
- Darparu rôl ymgynghorol arweiniol ar fodelau llifogydd i CNC ac fel rhan o dimau prosiect sy'n darparu rhaglen gyfalaf perygl llifogydd CNC gan nodi cyfleoedd posibl i gyflawni SMNR.
- Rhoi cyngor arbenigol Strategol a Thactegol gyda thimau ymateb aml-asiantaeth.
- Cymryd rhan neu arwain grwpiau prosiect i ddarparu gwybodaeth genedlaethol am berygl llifogydd i'w defnyddio gan y Llywodraeth, partneriaid, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yng Nghymru.
- Sicrhau bod yr holl raglenni gwaith yn cael eu darparu heb risg i unrhyw dîm neu unigolyn, gan roi iechyd a diogelwch wrth wraidd yr hyn rydych chi'n ei wneud ac arwain eich tîm i ddatblygu diwylliant sy'n ymwybodol o ddiogelwch.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn disgyblaeth gwyddoniaeth/peirianneg neu brofiad galwedigaethol cysylltiedig sylweddol
- Aelod Siartredig neu'n gweithio tuag at aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol fel Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE)/Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd (CIWEM).
- Sgiliau cryf o ran ymwneud â chwsmeriaid, gyda gwybodaeth eang o'n dyletswyddau a'n cyfrifoldebau i ddiwallu anghenion cwsmeriaid.
- Y gallu i ddeall, herio, arwain a chynrychioli CNC ar bob lefel mewn sefyllfaoedd technegol ac annhechnegol. Gallu dylanwadu ar benderfyniadau i amddiffyn a gwella'r amgylchedd yng Nghymru.
- Y gallu i weithio ar y cyd ag arweinwyr tîm eraill ledled y sefydliad a briffio timau rheoli uwch ar broblemau ac atebion.
- Rhaid bod gennych drwydded yrru lawn ar gyfer y DU.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros bobl |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 10 Ebrill 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Sara Pearson ar sara.pearson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu Richard Weston ar Richard.Weston@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.