Uwch-swyddog Amgylcheddol (Adnoddau Dŵr)

Dyddiad cau: 2 Ebrill 2023 | Cyflog: £37,308-£40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Gogledd-orllewin Cymru (Dolgellau).

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos yn ogystal â chymryd rhan mewn rota wrth gefn ar gyfer rheoli’r amgylchedd y tu allan i oriau a threfniadau diwygiedig ar gyfer rota wrth gefn.

Rhif swydd: 200212

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.

Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae'r swydd yn eistedd yn Nhîm Amgylchedd Dwyfor a Meirionnydd ond fe'i lleolir yng Ngogledd Orllewin Cymru. Gall yr ymgeisydd fod wedi'i leoli gartref neu yn y swyddfa agosaf at eu cartref. Byddant yn cael eu contractio i swyddfa Dolgellau lle bydd gofyn iddynt fynychu ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un-i-un gydag Arweinydd y Tîm. Bydd y rhain wedi'u cynllunio o flaen llaw.

Er mwyn sicrhau cydbwysedd priodol o sgiliau yn y tîm, mae'r rôl hon yn gofyn am arbenigedd technegol mewn Adnoddau Dŵr, yn enwedig Cynlluniau ynni dŵr. Rhan fawr o'r gwaith fydd goruchwylio'r gwaith o ddarparu arolygiadau a rheoleiddio Adnoddau Dŵr ardal y Gogledd Orllewin. Er mwyn helpu i gyflawni'r gwaith hwn rydym yn edrych am unigolyn sydd â phrofiad naill ai mewn gwaith rheoleiddio neu adnoddau dŵr; neu ddealltwriaeth o unai Mathemateg neu ddehongli lluniadau technegol.

Yn ogystal, bydd disgwyl i'r rôl dreulio cyfran o'u hamser yn darparu'r gefnogaeth ofynnol ar ddigwyddiadau amgylcheddol a chymryd rhan mewn rota standby rheoli amgylchedd y tu allan i oriau ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru, mae'r rôl yn gofyn i’r unigolyn hyfforddi i dal warant lefel Gorfodwr Rheolaidd i gyflawni gwaith sy'n cwmpasu'r Ddeddf Adnoddau Dŵr, a'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol..

  • Mae diben ein sefydliad, sef rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae gan bawb yn Cyfoeth Naturiol Cymru rôl i'w chwarae wrth reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac, o fewn hynny, rôl Cyfoeth Naturiol Cymru o sicrhau bod cydnerthedd ecosystemau yn sail i lesiant ehangach yng Nghymru.
  • Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl arweiniol yn y lle i wella llesiant drwy reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy gylch gwaith y tîm.
  • Bydd yn canolbwyntio ar y materion / gwaith achos mwy cymhleth ac yn rhoi cyngor arbenigol yng nghyd-destun yr amgylchedd, gwaith rheoli, safleoedd gwarchodedig, pysgodfeydd a bioamrywiaeth.
  • Bydd yn gweithio'n agos gydag arweinydd y tîm i sicrhau bod cylch gwaith tîm yr amgylchedd yn cael ei gyflawni’n effeithiol yn y lle ac mewn ffordd sy'n bodloni’r nifer mwyaf o amcanion llesiant, Cyfoeth Naturiol Cymru a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Bydd yn cefnogi arweinydd y tîm mewn gwaith partneriaeth perthnasol ac wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Cynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru mewn trafodaethau gyda sefydliadau partner.
  • Gweithredu fel mentor technegol a chynghorydd i aelodau'r tîm.
  • Cynorthwyo arweinydd y tîm yn agos wrth gynllunio a chyflenwi’r rhaglen gydymffurfio a gwaith gorfodi.
  • Cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Lle nodir diffyg cydymffurfio, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith.
  • Cydlynu datblygiad technegol aelodau o'r tîm.
  • Chwarae rôl allweddol o ran nodi cyfleoedd ar gyfer cytundebau rheoli a phrosiectau partneriaeth newydd i gyflenwi blaenoriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lle.
  • Chwarae rôl uwch wrth gefnogi Gwasanaeth Rheoli Digwyddiadau cadarn a chymwys o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n dilyn prosesau Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:

  1. Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau (dymunol).
  2. Dealltwriaeth gyffredinol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gyda phrofiad wedi'i ganolbwyntio ar faes penodol o gylch gwaith tîm yr amgylchedd.
  3. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid a'r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  4. Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddiol a gorfodi.
  5. Trwydded yrru lawn sy'n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd Cyfoeth Naturiol Cymru (ceir a faniau).

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd Gwaith.

Dymunol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl, bydd disgwyl i’r ymgeisydd ddatblygu ei sgiliau Cymraeg i’r lefel hon drwy ddilyn rhaglen hyfforddi y cytunwyd arni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Y gallu i gyflawni tasgau neu waith ymarferol neu dechnegol sy'n gofyn am wybodaeth/arbenigedd arbenigol.
  • Arbenigwr mewn ystod o bynciau sy'n ymwneud â'i arbenigedd a’r gallu i weithredu fel yr arbenigwr lleol neu'r arweinydd arbenigol ar gyfer ardal fach mewn rôl gynghorol.
  • Yn dangos profiad sylweddol a gwybodaeth arbenigol yn ei faes, gyda'r gallu i reoli prosiectau, gan gynnwys cyllideb y prosiect a'r tîm.
  • Yn meddu ar sgiliau dadansoddi, dylanwadu, perswadio, goruchwylio a mentora, ynghyd â sgiliau rheoli prosiect. 

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddehongli cynlluniau cyflenwi gweithredol y swyddogaeth a deall eu cyd-destun o fewn strategaeth ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru. 
  • Y gallu i ddehongli datblygiadau yn ei faes arbenigedd, gan gyfrannu at gynllunio busnes a dylunio a darparu rhaglenni gwaith tîm.
  • Yn dangos y gallu i ddadansoddi a dehongli ystod eang o wybodaeth gymhleth, gan ddidynnu pwyntiau allweddol ac â’r gallu i’w cyfleu i unigolion ar bob lefel a chyfrannu at ddatblygiad polisi.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i arwain a rheoli prosiectau mewn meysydd gwaith penodol, gan gymryd cyfrifoldeb dros reoli cyllidebau a thimau prosiectau, ac am lwyddiant y prosiect a'r gwaith o'i gyflawni.
  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau, gydag arweiniad gan gymheiriaid, sy'n gofyn am yr angen am rywfaint o farn a chreadigrwydd a allai arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig yn y maes gwaith.
  • Bydd deiliad y swydd yn cyflwyno rhaglenni gwaith sy'n aml yn sylweddol, a allai olygu bod angen newid blaenoriaethau oherwydd galwadau sy'n gwrthdaro.
  • Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau annibynnol ar lefel weithredol, gyda mewnbwn gan reolwyr llinell a chymheiriaid, ynghyd â dealltwriaeth o bolisi Cyfoeth Naturiol Cymru a'r ystod o opsiynau sydd ar gael a'u goblygiadau posibl i'r busnes.
  • Yn deall canlyniadau gwneud penderfyniadau anghywir, a fyddai’n cael effaith andwyol mewn perthynas â rhanddeiliaid allanol, fel sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaethau ac ati. 
  • Gall penderfyniadau a wneir ymwneud ag ystod eang o faterion, efallai na fydd eu canlyniad bob amser yn glir neu'n amlwg ar unwaith, ac maent yn debygol o fod yn ehangach na'r swyddogaeth neu adran uniongyrchol.
  • Efallai y bydd problemau sy'n dod i'r golwg hefyd yn ymwneud â'r gwaith mewn rhannau eraill o'r sefydliad a gallai’r rhain fod yn amrywiol.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ryngweithio a chysylltu â rolau eraill ar draws y busnes, gan feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da a chynnwys y sefydliad wrth gyflawni polisïau a chynlluniau gwaith yn y ffordd fwyaf effeithlon. 
  • Bydd cyfathrebu ag eraill ar lefel weithredol yn fewnol ac yn allanol, ac fel rheol bydd yn arbenigol ei natur. 
  • Y gallu i weithredu fel arbenigwr cynghorol neu swyddogaethol, gan ddarparu cyngor, a all fod yn dechnegol, yn arbenigol neu'n fanwl, a chan deilwra'r dull, yr arddull a lefel y cyfathrebu yn briodol i’r gynulleidfa. 
  • Yn dangos sgiliau cyfathrebu a pherswadiol effeithiol gyda'r gallu i arwain prosiectau, a all gynnwys hwyluso a chyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan roi cyngor a chyfrannu yn ôl yr angen. 
  • Y gallu i gynhyrchu dogfennau, adroddiadau, rhaglenni a chontractau gyda pheth cymhlethdod ac sy’n cynnwys cyngor, arweiniad neu farn a fyddai’n cael canlyniadau niweidiol pe baent yn anghywir neu'n cael eu drafftio'n wael.
  • Y gallu i gynnal gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth a data o sawl lleoliad neu ffynhonnell a defnyddio barn broffesiynol wrth benderfynu sut y dylid dehongli'r wybodaeth.

Cyfrifoldeb dros Adnoddau

  • Bydd ganddo gyllideb fach ar gyfer cyflwyno prosiect penodol a/neu gyfrifoldeb am wirio dilysrwydd ffurflenni a dogfennau fel rhan o broses neu wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 2 Ebrill 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Arfon Hughes at 03000 655304 neu Arfon.Hughes@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd

Diweddarwyd ddiwethaf