Swyddog Rheoli Pysgodfa Gocos
Dyddiad cau: 31 Ionawr 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Bwcle os bosib, ond ystyried lleoliadau eraill
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 200108
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Byddwch yn rhan o dîm sy’n rheoli ac yn cynghori ar Ardaloedd Morol Gwarchodedig a’r amgylchedd morol ledled Cymru gan gynnwys rheoli Gorchmynion Rheoleiddio Pysgodfa Gocos ar Aber Afon Dyfrdwy a Chilfach Tywyn. Byddwch yn darparu rheolaeth leol ar bysgodfa gocos ar gyfer pysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy, gan gynnwys cydgysylltu a chyflawni trwyddedu pysgodfeydd cocos, a chefnogi eu rheoleiddio. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o fewn y tîm, a chyda chydweithwyr gorfodi i ddarparu'r gwasanaeth hwn.
Bydd y gwaith yn gymysgedd o waith swyddfa a gwaith maes ar y safle ym mhob tywydd ar ardaloedd rhynglanwol yn Aber Afon Dyfrdwy.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Casglu, mewnbynnu a dadansoddi cofnodion dalfeydd i alluogi asesu gweithgarwch masnachol, dosbarthiad gofodol ac ymdrech bysgota flynyddol
- Cynhyrchu adroddiad blynyddol ar y bysgodfa
- Cefnogi adolygiad o gynllun rheoli’r bysgodfa,
- Rhoi cynllun rheoli’r bysgodfa ar waith
- Cysylltu â physgotwyr a chynhyrchwyr cocos Aber Afon Dyfrdwy a Chilfach Tywyn.
- Prosesu, asesu, cyhoeddi a monitro trwyddedau, gan gadw cofnodion cywir.
- Gweithio gydag archwilwyr allanol i sicrhau bod achrediad pysgodfeydd cynaliadwy Stiwardiaeth Forol yn parhau
- Gweithio’n agos gyda chydweithwyr Gorfodi ar reoleiddio a gorfodi
- Cadw cofnodion a mewnbynnu deallusrwydd i’r system ganolog
- Cysylltu ag adrannau iechyd yr amgylchedd perthnasol, adran DEFRA Llywodraeth Cymru ac, ynghylch afon Dyfrdwy, NWIFCA ac Asiantaeth yr Amgylchedd (y Gogledd)
- Cysylltu â swyddog cadwraeth afon Dyfrdwy a swyddogion lleol Cilfach Tywyn
- Darparu’r gwaith gweinyddu ar gyfer Grŵp Cynghori ar Bysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy (DECFAG) a Grŵp Asiantaethau ar y Cyd Aber Afon Dyfrdwy
- Gweithio’n agos gydag uwch gynghorydd y bysgodfa gocos ar bob agwedd ar reoli’r bysgodfa
- Gweithio gyda Chynghorwyr Ardal perthnasol i asesu ac adrodd ar waith Monitro Morol, a chyda’r timau Cynghori Morol Cymru gyfan, yn enwedig ynghylch arolygon cocos
- Darparu cyngor technegol ar faterion yn ymwneud â physgodfeydd cocos.
- Cefnogi’r gwaith o reoli cyllideb reoli’r bysgodfa gocos
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o weithio yn y sector pysgod cregyn
- Profiad o feithrin cysylltiadau effeithiol
- Profiad o ymdrin â chwsmeriaid anodd a sefyllfaoedd heriol
- Y gallu i ddehongli a chyfathrebu data ar amgylcheddau morol
- Dealltwriaeth o faterion a chadwraeth Aber Afon Dyfrdwy neu Gilfach Tywyn
- Sgiliau rhyngbersonol da a phrofiad o weithio ar y cyd, yn fewnol ac yn allanol
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol Lefel 4 - siarad Cymraeg yn rhugl
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 31 Ionawr 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Charlotte Gjerlov at Charlotte.Gjerlov@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.