Cynorthwyydd Cynllunio Datblygu

Dyddiad Cau: 20 Mawrth 2023 | Cyflog: £21,655 - £24,408 (Gradd 2) | Lleoliad: Gogledd Cymru

Math o Gontract: Parhaol

Patrwm Gwaith: Llawn Amser, 37 awr y wythnos, Dydd Llun to Dydd Gwener

Rhif Swydd: 200031

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r Swydd

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi gwaith y tîm sy'n asesu cynigion datblygu ar gyfer effeithiau amgylcheddol posibl ar draws ehangder buddiannau CNC. Mae'r tîm yn ymateb i Gynllun Datblygu Lleol ac ymgynghoriadau gwaith achos datblygu ar draws sawl ardal Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n sicrhau bod cyngor yn cael ei roi i gwsmeriaid sy'n dylanwadu ar wneud lleoedd cynaliadwy ac yn cefnogi rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Darparu cymorth gweinyddol a busnes effeithiol i’r tîm.
  • Cynnal systemau gwybodaeth busnes (copi caled ac electronig) gan gynnwys y system gynllunio TG.
  • Cofnodi data yn gywir ar y systemau rheoli data cynllunio.
  • Cynhyrchu gwybodaeth o systemau TG.
  • Trin ac ymateb i ymholiadau sylfaenol gan gwsmeriaid.
  • Bydd angen cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: Addysg i lefel TGAU neu brofiad gwaith perthnasol.
  2. Gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm
  3. Y ddawn i ganolbwyntio ar y cwsmer a sgiliau cyfathrebu effeithiol a dull dymunol o siarad ar y ffôn
  4. Sgiliau trefnu da
  5. Y gallu i reoli a blaenoriaethu llwyth gwaith prysur a chyflawni canlyniadau o fewn y dyddiadau angenrheidiol.
  6. Y gallu i ddefnyddio systemau TG safonol.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl

Dymunol Lefel 5 – Siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Bydd gwybodaeth a sgiliau wedi'u hennill trwy brofiad gwaith ymarferol blaenorol fel bod gan ddeiliad y swydd lefel resymol o gymhwysedd technegol i gyflawni gofynion y rôl. Bydd y rôl yn gofyn am sgiliau rhifedd, llythrennedd, TG a chyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Bydd hefyd gan ddeiliad y swydd sgiliau llythrennedd, rhifiadol a chyfathrebu da, a dealltwriaeth o'r gofynion a goblygiadau o safbwynt iechyd a diogelwch sy’n ymwneud â gweithgareddau’r gwaith.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Yn gyffredinol, bydd yr wybodaeth a ddefnyddir at ddibenion gyflawni’r rôl yn syml, yn hawdd ei deall, ac o ffynonellau sy'n hawdd eu cyrchu.
  • Gallai fod elfen o gasglu a chofnodi data sy’n gofyn am rywfaint o gywirdeb.  Gall gwirio a dilysu data/gwybodaeth fod yn nodwedd rolau ar y lefel hon.
  • Mae dogfennau eraill yn debygol o fod yn weddol arferol a safonol o safbwynt eu deall neu eu cwblhau.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Yn gyffredinol, bydd y gwaith yn dilyn cynllun gwaith cytunedig a fydd angen i ddeiliad y swydd ei ddilyn heb lawer o ofyn i wyro oddi arno, heblaw am flaenoriaethu tasgau. Yn gyffredinol, bydd gwaith yn dilyn trefn arferol. Fodd bynnag, efalli y bydd rhai problemau sy'n dod i'r golwg a fydd yn gofyn am rywfaint o flaengaredd neu farn, er y bydd datrysiadau yn seiliedig ar wybodaeth a phrofiad blaenorol a datrysiadau a chanlyniadau hysbys yn gyffredinol. Felly, mae gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth yn eithaf cyfyngedig.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Bydd cyfathrebu gyda chydweithwyr sy'n cyflawni agweddau tebyg ac agweddau gwahanol ar y gwaith. Efallai y bydd hyn yn cynnwys arwain ar rai agweddau ar y gwaith sy'n gofyn am y gallu i roi arweiniad neu gyfarwyddiadau clir i eraill os oes angen.
  • Bydd cyswllt â'r cyhoedd a thrydydd partïon hefyd, a fydd fel arfer yn golygu cyfnewid gwybodaeth.
  • Bydd cyfathrebu ysgrifenedig yn cynnwys cwblhau dogfennau safonol a chadw cofnodion, gan ofyn am sgiliau TG da.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 20 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Bryn Jones ar bryn.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf