Polisi Cyfryngau Cymdeithasol

Yn ystod y diwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm) mae staff yn ein Canolfan Gwsmeriaid wrth law i helpu gydag ymholiadau. 

Caiff ein cyfrifon eu monitro y tu allan i oriau gwaith gan y swyddog cyfathrebu ar ddyletswydd, sydd wrth law i ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu ymateb i bob ymholiad y tu allan i oriau gwaith - ymdrinnir â phob ymholiad difrys yn ystod y diwrnod gwaith nesaf. 

Yn ystod digwyddiadau, gwnawn ein gorau i rannu gwybodaeth ffeithiol reolaidd am y sefyllfa ddiweddaraf. Rydym yn debygol o fod yn brysur iawn yn ystod y cyfnod hwn felly efallai y byddwn yn cymryd ychydig yn hirach i ddychwelyd atoch chi. 

Rheolau’r Tŷ

Mae pobl yn gofalu'n angerddol am yr amgylchedd, ac mae'n wych clywed pobl yn siarad amdano, a'n gwaith ar ein sianeli cymdeithasol. Ond cofiwch y rheolau hyn wrth bostio ar ein cyfrifon. 

Cofiwch:

  • gymryd rhan mewn sgwrs gwrtais gyda'n staff a defnyddwyr eraill 
  • barchu barn eraill 
  • rannu gwybodaeth gywir a gwir 
  • nad yw'r bobl sy'n monitro ein cyfrifon yn arbenigwyr ym mhob rhan o waith CNC

Peidiwch:

  • postio sylwadau sy’n cam-drin neu sy’n dramgwyddus - caiff y rhain eu dileu
  • gwneud sylwadau personol neu dramgwyddus am ein staff (mae gennym i gyd deimladau)
  • dyfalu ar ymchwiliadau cyfredol neu achosion llys parhaus
  • postio unrhyw beth nad oes gennych ganiatâd hawlfraint i'w ddefnyddio
  • sbamio ni trwy bostio'r un cynnwys dro ar ôl tro (negeseuon cyson negyddol neu ddifrïol sy'n ceisio pryfocio ymateb)

Peidiwch â'i difetha i bawb arall 

Nid ydym yn dymuno gwahardd unrhyw un o'n cyfrifon a byddwn ond yn gwneud hyn fel dewis olaf. Ond os yw unigolion yn torri'r rheolau'n gyson, neu'n achosi tarfu mawr ar ein cyfrifon ni fydd gennym unrhyw ddewis. 

Ymateb i'ch negeseuon

Rydyn ni'n hoffi cysylltu â'n dilynwyr a gwneud ein gorau i ymateb lle bynnag y gallwn, ond rydym yn delio â chyfaint helaeth o draffig trwy ein cyfrifon, felly ni allwn bob amser ymateb i bob sylw a dderbyniwn.

Rydym yn darllen pob neges y sonnir amdanom ynddynt, neu’r rhai rydyn yn eu derbyn fel negeseuon uniongyrchol, a byddwn bob amser yn ceisio ateb yr holl gwestiynau perthnasol a ofynnir i ni.

Byddwn yn ceisio ateb y rhain cyn gynted ag y bo modd, fodd bynnag, cofiwch fod rhai meysydd o'n gwaith yn dechnegol a chymhleth, a gall gymryd mwy o amser i ni gael ymateb i chi. Lle bo hynny'n briodol, byddwn yn rhannu'r negeseuon a dderbyniwn gyda chydweithwyr eraill yn y sefydliad er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr atebion cywir.

Rhoi gwybod am ddigwyddiadau

Gall fod yn gyflym ac yn hawdd rhoi gwybod am ddigwyddiadau i ni trwy gyfryngau cymdeithasol, ond nid dyma'r ffordd gyflymaf o’n cyrraedd ni, ac ni fyddwn bob amser yn cael yr holl wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn i ni ei ymchwilio. Rhowch wybod am ddigwyddiadau drwy ffonio 0300 065 3000.

Gwneud cwynion

Nid ydym yn credu mai ar y cyfryngau cymdeithasol yw’r lle cywir i wneud cwyn ffurfiol, felly os hoffech wneud hynny, dilynwch y canllaw hwn.

Diweddarwyd ddiwethaf