Logiau Mawrth 2020
Rhyddhawyd yr ymatebion hyn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a/neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Dylid nodi nad yw'r cofnod datgeliadau yn rhestru popeth a ryddhawyd o dan y Ddeddfwriaeth Mynediad at Wybodaeth.
Mae'r meini prawf ar gyfer datgelu ymatebion yn cynnwys:
- Budd sylweddol y cyhoedd
- Dangos gweithdrefnau mewnol
- Dangos sut mae arian cyhoeddus wedi cael ei wario neu wybodaeth am adnoddau
Mae rhai ymatebion/dogfennau ategol yn swmpus iawn neu nid ydynt ar gael mewn fformat electronig. Lle y bo'n ymarferol, rydym wedi sganio'r dogfennau dan sylw ac wedi eu cyhoeddi ar-lein drwy ein gwefan.
Mae'r cofnod hwn yn rhestru'r holl geisiadau pwysig am wybodaeth
Mae'r holl wybodaeth bersonol, am y sawl a wnaeth y cais ac o fewn y cais, wedi'i dileu er mwyn diogelu preifatrwydd.
Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae maint y ffeiliau yn golygu bod hyn yn anymarferol ac rydym yn barod i ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn fformat copi caled ar gais. I gael gwybodaeth am sut i gael gafael ar unrhyw ddeunydd o'r fath, cysylltwch ag: accesstoinformationteam@naturalresourceswales.gov.uk
I ofyn am gopïau o'n llythyrau ymateb, ysgrifennwch at atiteam@naturalresourceswales.gov.uk gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod ATI
Datgeliadau (Ymatebion cyflawn, ymatebion a olygwyd a manylion gwybodaeth nad yw ar gael) ar gyfer ceisiadau a gwblhawyd ym mis Mawrth 2020.
Cod | Geiriau allweddol | Math | Statws |
---|---|---|---|
ATI-18646d |
Gofyn am gopi o ganiatâd Adran 28e ar gyfer Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Trelogan |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Gwybodaeth nad yw'n cael ei chadw gan Cyfoeth Naturiol Cymru |
ATI-18455b |
Gofyn am wybodaeth ynghylch Asesiad Canlyniad Llifogydd y cyfeirir ato mewn llythyr at Gyngor Bro Morgannwg |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-19118a |
Gofyn am fanylion cydymffurfiaeth gwastraff ar gyfer trwydded cludo gwastraff yng Nghymru |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-19119a |
Cais am wybodaeth am brotocol diogelwch ar gyfer Cronfa Ddŵr Blaen Bran |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18847b |
Gofyn am gost gyfartalog y goeden neu fesul hectar ar gyfer yr arfer o chwistrellu mewn i goesynnau |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Wedi cau |
ATI-19113a |
Cais am gopi o'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer safle Fferm Cosmeston Uchaf |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Gwybodaeth nad yw'n cael ei chadw gan Cyfoeth Naturiol Cymru |
ATI-19052a |
Gofyn am gopi o'r adroddiad monitro ar ôl adeiladu ar gyfer Trwydded y Madfall Ddŵr Gribog Llandŵ ar gyfer 5 a 6 Sutton Road |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 12.4(a) Nid ydym yn cadw'r wybodaeth |
ATI-19053a |
Gofyn am wybodaeth ar gyfer prosiectau, rhaglenni a siartiau sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru |
Rhyddid Gwybodaeth (2000) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-19063a |
Gofyn am wybodaeth am Newid a Thrawsnewid Adnoddau Dynol Cyfoeth Naturiol Cymru, a gweithrediad systemau, prosiectau a rhaglenni adnoddau dynol newydd |
Rhyddid Gwybodaeth (2000) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-19007a |
Cais am nifer y coed a blannwyd, a nifer y coed a gwympwyd yng Nghymru |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-19044a |
Gofyn am wybodaeth am drwyddedau gweithredol ynghylch magu dofednod neu foch |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18803b |
Cais am unrhyw adroddiadau, arolygon, digwyddiadau ger Betws-y-coed |
Apêl Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18970a |
Cais am wybodaeth ‘rheoli nwy’ asesiad amgylcheddol ar gyfer safle tirlenwi Aber-miwl |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Gwybodaeth nad yw'n cael ei chadw gan Cyfoeth Naturiol Cymru |
ATI-19043a |
Gofyn am wybodaeth am systemau ariannol |
Rhyddid Gwybodaeth (2000) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-19051a |
Gofyn am wybodaeth am Gronfa Ddŵr Brynbuga a Chronfa Ddŵr Talybont |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Gwybodaeth nad yw'n cael ei chadw gan Cyfoeth Naturiol Cymru |
ATI-19026a |
Gofyn am wybodaeth am unrhyw ddŵr sy'n cael ei ollwng sy’n fwy na'r gorlif arferol i mewn i afon Wysg o Dal-y-bont ar Wysg |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Gwybodaeth nad yw'n cael ei chadw gan Cyfoeth Naturiol Cymru |
ATI-19039a |
Cais am feintiau lleoliadau tomenni glo a'r polisi o ran adfywio |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Gwrthodwyd yn rhannol – Anfonwyd rhan o'r wybodaeth |
ATI-19024a |
Gofyn am gopi o drwydded safle gwasgaru Ardal Forol Cardiff Grounds |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn (cadarnhawyd yn rhannol) |
ATI-19031a |
Gofyn am drwydded safle ar gyfer Safle Tirlenwi Pwllfawatkin, Rhyd y Fro, Pontardawe |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18835a |
Gofyn am ddata sy'n ymwneud â nifer y digwyddiadau tipio anghyfreithlon yng Nghymru |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-19032a |
Cais am adroddiadau arolygu asesiad risg Nant Clydach Ynysybwl |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Gwybodaeth nad yw'n cael ei chadw gan Cyfoeth Naturiol Cymru |
ATI-18966a |
Cais am Organagram gan gynnwys manylion cyswllt |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18977a |
Gofyn am restr o doriadau sy'n ymwneud â thrwyddedau gwastraff a gosodiadau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yng Nghymru |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18993a |
Gofyn am wybodaeth am safleoedd tomenni glo yng Nghymru |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Gwrthodwyd yn rhannol – Anfonwyd rhan o'r wybodaeth Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 12.4(a) Nid ydym yn cadw'r wybodaeth |
ATI-18607c |
Gofyn am ddata pellach ar gludo ar draws ffiniau |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18734b |
Gofyn am wybodaeth am y drwydded gollwng dŵr ar gyfer Chwarel Ton Mawr, Caerdydd |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18949a |
Cais am wybodaeth sy'n ymwneud â Chontractau Hyfforddiant Allanol |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18956a |
Cais am wybodaeth sy'n ymwneud â gwariant ar hyfforddiant allanol |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18944a |
Gofyn am gopi o'r asesiad priodol cysgodol ynghylch rhyddhau beleod er mwyn effeithio ar Ardal Cadwraeth Arbennig Ystlumod Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd gwrthodiad Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 12.5(f) Gwybodaeth a ddarparwyd yn wirfoddol |
ATI-18953a |
Gofyn am nifer yr argraffwyr, llungopiwyr, y defnydd o bapur, arlliwiau yn Cyfoeth Naturiol Cymru |
Rhyddid Gwybodaeth (2000) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18961a |
Cais am ragor o wybodaeth sy'n ymwneud ag adroddiad digwyddiad |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18892a |
Cais am ddata allforion tunelledd gwastraff |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18918a |
Gofyn am restr o safleoedd monitro allweddol ar afonydd |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18901a |
Gofyn am wybodaeth am fewnforio ac allforio pren rhwng mis Ionawr 2018 a mis Chwefror 2020 |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Anfonwyd ymateb llawn |
ATI-18879a |
Gofyn am gopïau electronig o adroddiadau monitro llosgyddion ar gyfer Llosgyddion Gwastraff Trefol yng Nghymru |
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) |
Gwrthodwyd yn rhannol – Anfonwyd rhan o'r wybodaeth |