Cyn cyflwyno cais am drwydded forol, gall ymgeiswyr posibl ofyn am ‘farn sgrinio’ gan y tîm Trwyddedu Morol i bennu a oes Asesiad Effeithiau Amgylcheddol yn ofynnol mewn perthynas â’r gwaith arfaethedig.

Sut mae ymgeisio am farn sgrinio?

Dylai ymgeiswyr posibl ddarparu’r wybodaeth a roir isod i’r Ganolfan Derbyn Trwyddedau:

 

Dylid nodi ‘Barn Sgrinio Forol’ yn glir ar yr ohebiaeth.

Codir ffi sefydlog ar geisiadau am farn sgrinio. Gellir gweld ein lefel gwasanaeth ar gyfer penderfynu cais cwmpasu yma.

Pa wybodaeth y dylid ei darparu gyda chais am farn sgrinio?

Fel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Gwaith Morol, rhaid i gais am farn sgrinio gynnwys:

Siart neu fap (neu’r ddau) sy’n ddigonol i adnabod lleoliad y prosiect a’r gweithgarwch wedi’i reoleiddio

Disgrifiad o’r prosiect cyfan, gan gynnwys:

  • Disgrifiad o’r nodweddion ffisegol ar y prosiect cyfan (a gwaith dymchwel os yw’n berthnasol), gan gynnwys dulliau gweithio
  • Disgrifiad o leoliad y prosiect, o ran sensitifrwydd amgylcheddol yr ardal y mae’n debygol o effeithio arni
  • Disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r prosiect yn debygol o effeithio’n sylweddol arnynt
  • Disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd, neu effeithiau felly o ganlyniad i’r canlynol: gweddillion disgwyliedig ac allyrru a chynhyrchu gwastraff, lle bo’n berthnasol; Defnyddio adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth a
  • Gwybodaeth neu sylwadau eraill felly y bydd yr ymgeisydd yn dymuno eu rhoi, gan gynnwys disgrifiad o unrhyw nodweddion ar y prosiect neu fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd

Wrth lunio’r wybodaeth uchod i ofyn am farn sgrinio, rhaid ystyried y meini prawf dewis a nodir yn Atodlen 1 o’r Rheoliadau Gwaith Morol (AEA) (sef Materion sy’n berthnasol i ystyried a ydy prosiect Atodlen 2 yn debygol ai peidio o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd).

Dylid hefyd darparu manylion unrhyw gais a wnaed i awdurdod caniatáu arall neu Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r gwaith arfaethedig. Dylai hyn nodi a ydy’r awdurdod caniatáu hwnnw wedi gofyn am Ddatganiad Amgylcheddol (DA) ar gyfer y prosiect ac, os felly, dylid darparu copi o’r DA i gefnogi’ch cais am farn sgrinio.

Argymhellwn gyflwyno cais am farn gwmpasu hefyd ar yr un pryd â’r cais am farn sgrinio.

Sut mae barn sgrinio yn cael ei llunio?

Cyn cyhoeddi barn sgrinio, byddwn yn ystyried y gwaith arfaethedig yn erbyn Atodlen A1 ac A2 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (fel y'u diwygiwyd). Ar gyfer prosiectau sy'n dod o dan unrhyw un o baragraffau Atodlen A2, byddwn yn ystyried a yw'r meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 1 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (fel y'u diwygiwyd) yn berthnasol i'r prosiect.

Yn unol â Rheoliad 2(1), Rheoliad 11(4) ac Atodlen 2 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007, pan fyddwn yn derbyn cais Barn Sgrinio AEA gan ymgeisydd, byddwn yn ystyried fesul achos yr angen i ymgynghori ymhellach i gyfarwyddo ein barn. Nid yw'r broses hon yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a byddwn yn gwneud penderfyniad ar y cyrff mwyaf priodol i ymgynghori â hwy. Efallai y byddwn yn dewis ymgynghori ag arbenigwyr mewnol a chyrff allanol, a allai gynnwys Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas), yr Awdurdod Cynllunio Lleol perthnasol a Llywodraeth Cymru.

A allaf gyflwyno cais heb gael barn sgrinio?

Gallwch, disgwylir mai dyma fydd yn digwydd ar gyfer prosiectau llai o faint lle mae’n annhebygol y bydd angen AEA.

Fodd bynnag, os nad ofynnir am farn sgrinio ar gyfer prosiect rydym yn credu sydd efallai angen AEA, ni fyddwn yn bwrw ati gyda'r cais tan fyddwn yn gyntaf wedi dod o hyd i  farn sgrinio.

Diweddarwyd ddiwethaf