Gweld a oes arnoch angen trwydded gweithgaredd perygl llifogydd

Bydd angen trwydded gweithgarwch perygl llifogydd arnoch, a alwyd yn gydsyniad amddiffyn rhag llifogydd yn flaenorol, pe byddwch am wneud gwaith yn y lleoedd canlynol:

  • ar neu'n agos at brif afon
  • ar neu'n agos at adeiledd amddiffyn rhag llifogydd
  • ar neu'n agos at amddiffynfa rhag y môr
  • mewn gorlifdir

Gallech fod yn torri'r gyfraith os byddwch yn dechrau’r gwaith heb gael y drwydded sydd ei hangen arnoch.

Gwiriwch a yw'r gweithgaredd yn agos at brif afon

Bydd angen trwydded arnoch i weithio ar neu'n agos at brif afon. Defnyddiwch ein map o brif afonydd isod i wirio'r afon dan sylw: 

(Mae'r map yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio ar gael fersiwn Gymraeg)

Ddim yn agos at brif afon

Ni fydd angen trwydded perygl llifogydd arnoch i weithio ar gwrs dŵr cyffredin – fel arfer afonydd bach, nentydd a ffosydd. Ond dylech gysylltu â'ch awdurdod cyfrifol er mwyn gwneud cais am ganiatâd cwrs dŵr cyffredin.

Os yw'r gwaith rydych yn ei gynllunio mewn Ardal Draenio Mewnol, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd draenio tir.

Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a yw'r cwrs dwr yn brif afon, yn gwrs dwr cyffredin, neu'n rhan o Ardal Draenio Mewnol

Gweithgareddau y mae angen trwydded amdanynt

Bydd angen i chi wneud cais am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd cyn gwneud y gwaith dros dro neu barhaol a ganlyn:

  1. codi unrhyw adeiledd mewn, dros neu o dan brif afon
     
  2. gwneud unrhyw waith o ran addasu neu atgyweirio unrhyw adeiledd mewn, dros neu o dan brif afon os yw'r gwaith yn debygol o gael effaith ar lif y dŵr yn y brif afon neu gael effaith ar unrhyw waith draenio
     
  3. codi neu addasu unrhyw adeiledd sydd wedi'i ddylunio i gadw neu ddargyfeirio llifogydd unrhyw ran o brif afon
     
  4. unrhyw waith i garthu, codi neu gymryd unrhyw dywod, silt, balast, clai, graean neu ddeunyddiau eraill sydd ar wely neu lannau prif afon (neu lle achosir i ddeunyddiau o'r fath gael eu carthu, eu codi neu eu cymryd), gan gynnwys carthu hydrodynamig a dadsiltio
     
  5. unrhyw weithgarwch sy'n debygol o ddargyfeirio cyfeiriad llif y dŵr i mewn i brif afon neu allan ohoni, neu sy'n newid lefel y dŵr mewn prif afon
     
  6. unrhyw weithgarwch sydd o fewn wyth metr i afon nad yw'n llanwol, neu o fewn wyth metr i adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar yr afon honno neu unrhyw weithgarwch sydd o fewn 16 o fetrau i brif afon lanwol, neu o fewn 16 o fetrau i adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar yr afon honno, sy'n debygol o achosi'r canlynol:

    • difrodi neu beryglu sefydlogrwydd glannau'r afon honno neu lannau unrhyw gwlfer
    • difrodi unrhyw waith i reoli’r afon
    • addasu unrhyw waith i reoli’r afon, ei ailadeiladu, ei ddirwyn i ben neu ei dynnu i ffwrdd
    • dargyfeirio neu rwystro llifogydd, neu gael effaith ar ddraenio'r afon honno
    • ymyrryd â mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r afon ac ar ei hyd

  7. unrhyw weithgaredd (heblaw gweithgaredd a ganiateir (gweler isod am ddiffiniad)) mewn gorlifdir sydd:

    • yn fwy nag wyth metr o brif afon nad yw'n llanwol, neu’n fwy nag 16 o fetrau o brif afon lanwol
    • yn fwy nag wyth metr o unrhyw adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar brif afon nad yw'n llanwol
    • yn fwy nag 16 o fetrau o unrhyw adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar brif afon lanwol sy'n debygol o ddargyfeirio neu rwystro llifogydd, difrodi unrhyw waith i reoli’r afon neu gael effaith ar ddraenio

  8. unrhyw weithgaredd sydd o fewn 16 o fetrau o sylfaen amddiffynfa rhag y môr sy'n debygol o achosi'r canlynol:

    • peryglu sefydlogrwydd yr amddiffynfa rhag y môr honno, ei difrodi, neu leihau ei heffeithiolrwydd
    • ymyrryd â mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r amddiffynfa rhag y môr honno, ac ar ei hyd

  9. unrhyw weithgaredd o fewn wyth metr i sylfaen amddiffynfa anghysbell sy'n debygol o achosi'r canlynol:

    • peryglu sefydlogrwydd yr amddiffynfa honno, ei difrodi, neu leihau ei heffeithiolrwydd
    • ymyrryd â mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r amddiffynfa honno, ac ar ei hyd

  10. unrhyw waith chwarela neu gloddio o fewn 16 o fetrau i sylfaen amddiffynfa anghysbell sy'n debygol o ddifrodi'r amddiffynfa honno, neu beryglu ei sefydlogrwydd
     
  11. unrhyw waith chwarela neu gloddio o fewn 16 o fetrau i brif afon neu unrhyw adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar yr afon honno sy'n debygol o ddifrodi neu beryglu sefydlogrwydd glannau'r afon honno

Gweithgareddau nad oes angen trwydded amdanynt

Esemptiadau

Nid oes angen i chi wneud cais am drwydded os yw eich gweithgaredd yn bodloni disgrifiad ac amodau un o'r gweithgareddau perygl llifogydd sydd wedi'i esemptio. Ond bydd angen i chi gofrestru eich esemptiad cyn dechrau gwaith.

Gellir cofrestru esemptiad yn rhad ac am ddim.

Eithriadau

Nid oes angen i chi gael caniatâd os ydych yn bwriadu gwneud un o'r gweithgareddau sydd wedi'u heithrio. Ond bydd yn rhaid i chi weithredu dan ddisgrifiad ac amodau'r eithriad.

 

Gwneud gwaith brys

Rhowch wybod i ni os oes angen i chi wneud unrhyw waith brys mewn ymateb i ddigwyddiad heb ei gynllunio sy'n cyflwyno: 

      • perygl o lifogydd difrifol i eiddo
      • effaith andwyol ddifrifol ar ddraenio
      • niwed difrifol i'r amgylchedd
      • perygl difrifol i ddiogelwch y cyhoedd

Mae angen i chi gysylltu â ni cyn gynted ag y bo'n ymarferol (drwy'r cyfeiriadau e-bost isod) ac egluro pa weithgareddau sydd wedi'u cynnal a'r amgylchiadau:

Ni chaiff gweithgaredd a gynllunnir ymlaen llaw ac sydd wedi'i gynllunio mewn ymateb i argyfwng cyn iddo ddigwydd ei ystyried yn waith brys.

Diweddarwyd ddiwethaf