Pysgod a warchodir yn y DU

Mae rhai pysgod yn nyfroedd Cymru (mewndirol a morol) yn cael eu gwarchod gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd). Mae’r styrsiwn yn Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop. Rydym yn rhoi trwyddedau er mwyn i chi allu gweithio’n gyfreithlon.

Deddfwriaeth y DU

Mae’r rhywogaethau canlynol wedi’u gwarchod dan Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd). Mae’r ddeddfwriaeth hon yn eu gwarchod hyd at 12 morfilltir oddi ar arfordir Cymru. 

  • Penfras dŵr croyw, Lota lota
  • Gobi Couch, Gobius couchii
  • Gobi mawr, Gobius cobitis
  • Morfarch myngog, Hippocampus guttulatus
  • Morfarch trwyn smwt, Hippocampus hippocampus
  • Heulgi, Cetorhinus maximus
  • Fendas, Coregonus albula
  • Gwyniad môr, Coregonus lavaretus

Mae’r rhywogaethau canlynol wedi’u gwarchod yn rhannol dan Atodlen 5:

  • Herlyn, Alosa alosa
  • Gwangen, Alosa fallax
  • Maelgi, Squatina squatina
  • Styrsiwn, Acipenser sturio

I gael manylion am eu lefelau gwarchodaeth amrywiol, gweler ‘Pysgod a warchodir gan y gyfraith yng Nghymru’. Mae troseddau a nodir yn Adran 9 yn cynnwys cyfuniad o’r canlynol:

  • Lladd, anafu neu gymryd yn fwriadol
  • difa neu ddinistrio safle lloches neu ddiogelwch
  • tarfu ar bysgodyn mewn safle lloches neu ddiogelwch
  • rhwystro mynediad at safle lloches neu ddiogelwch
  • gwerthu, cynnig neu ei roi ar ddangos i’w werthu

Mae’r Ddeddf yn cynnwys adran arbennig i heulgi, sef ‘if any person intentionally or recklessly disturbs….a basking shark, he shall be guilty of ân offence’.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad at ddibenion penodol, fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith. Gweler ‘Trwyddedu pysgod’ am ragor o wybodaeth.

Deddfwriaeth Ewropeaidd

Mae’r Styrsiwn yn cael ei warchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, (a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’). Mae hyn oherwydd bod ei niferoedd wedi bod yn disgyn ledled Ewrop dros y degawdau diwethaf.

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:

  • Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhan o rywogaeth a warchodir gan Ewrop
  • Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
  • Cymryd neu ddifa’n fwriadol wyau anifail o’r fath, neu
  • Ddifa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath

Mae tarfu’n cael ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n debygol:

  • o amharu ar eu gallu – i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
  • o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddi yn lleol

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu. Gweler ‘Meddu ar a Gwerthu Rhywogaethau a Warchodir’ am ragor o wybodaeth.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith. Gweler ‘Trwyddedu pysgod’ am ragor o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf