Gall pawb sy’n hoffi bod allan yn yr awyr agored fwynhau geogelcio. Mae’n hwyl ac mae’n ffordd dda o gyflwyno aelodau iau’r teulu i weithgareddau awyr agored.

Beth yw geogelcio?

Mae geogelcio fel helfa drysor allan yn yr awyr agored, yn y byd go iawn, â chymorth mapiau a dyfeisiau sy’n gallu defnyddio System Leoli Fyd-eang (GPS).

Y nod yw canfod eich ffordd i set benodol o gyfesurynnau GPS, yna ceisio dod o hyd i’r geogelc (cynhwysydd) sydd wedi’i guddio yn y lleoliad hwnnw.

Os byddwch yn dod o hyd i gelc, yn aml iawn bydd yn cynnwys eitemau y gallwch eu cyfnewid a llyfr i chi allu cofnodi eich ymweliad.

Pa wybodaeth sydd ar gael am geogelcio?

Cymdeithas Geogelcio Prydain yw’r sefydliad geogelcio cenedlaethol ar gyfer geogelcwyr, perchnogion tir, y cyfryngau ac eraill sydd â diddordeb mewn geogelcio.

Ewch i wefan Cymdeithas Geogelcio Prydain i gael mwy o wybodaeth am geogelcio.

Ble galla i fynd i geogelcio yng Nghymru?

Mae gan Gymdeithas Geogelcio Prydain ddolenni cyswllt sy’n arwain i wefannau sy’n rhestru safleoedd geogelcio.

Mae dau lwybr geogelcio ym Mharc Coedwig Coed y Brenin sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ble mae’r llwybrau geogelcio sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru?

Mae dau lwybr geogelcio ym Mharc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau.

Cylchdeithiau ar hyd ffyrdd a llwybrau yn y goedwig ydy’r rhain.

Maen nhw’n mynd â chi i safleoedd hanesyddol pwysig mewn lleoedd diarffordd yng nghanol y goedwig, gan gynnwys ffordd Rufeinig Sarn Helen, gwaith haearn o’r Oesoedd Canol a hen weithfeydd aur.

Mae’r llwybrau’n cychwyn ac yn gorffen yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Coed y Brenin, lle mae caffi, toiledau a chyfleusterau eraill i ymwelwyr.

Edrychwch ar dudalen Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin i gael mwy o wybodaeth.

Sut alla i gael gwybodaeth am lwybrau sydd wedi cael eu cau neu eu gwyro?

Weithiau mae’n rhaid cau neu wyro hawl dramwy gyhoeddus.

Dylai arwyddion ar y safle ddweud wrthych chi ydy hawl dramwy gyhoeddus ar agor neu wedi cau.

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae gwaharddiadau neu gyfyngiadau’n cael eu defnyddio ar dir mynediad agored, ewch i’r dudalen rheoli mynediad.

Sut alla i gael caniatâd ar gyfer digwyddiad geogelcio mewn coetir sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru?

Caniatâd i drefnu digwyddiad geogelcio yn un o’r coetiroedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Y Cod Cefn Gwlad

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn berthnasol i bob ardal yng nghefn gwlad Cymru a Lloegr.

Ei nod yw helpu pawb i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad.

Gallwch lawrlwytho copi o’r Cod Cefn Gwlad cyn eich ymweliad.

Diweddarwyd ddiwethaf