Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber, ger Bangor

Beth sydd yma

Croeso

Bu’r rhaeadr ysblennydd a welir yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber yn boblogaidd gydag ymwelwyr ers Oes Fictoria.

Mae’r Rhaeadr Fawr yn disgyn o Fynyddoedd y Carneddau gan blymio i fasn dwfn yn nyffryn yr afon islaw.

Ar hyd yr oesau, gadawyd ôl hinsawdd, daeareg a dyn yma, ac mae digonedd i’w weld ar y ffordd drwy’r dyffryn at y rhaeadr.

Ceir ardaloedd agored o laswelltir a choetir, sy’n cynnwys deri, cyll a gwern, sy’n gartref i lawer o adar gwahanol.

Am ei bod hi mor llaith ger y rhaeadr ac ar hyd yr afon, dyma amodau delfrydol ar gyfer amrywiaeth o fwsoglau, llysiau’r afu a rhedynnau, a chofnodwyd dros gant o rywogaethau o gen yma.

Mae yma nifer o nodweddion archeolegol diddorol hefyd, gan gynnwys bryngaer o’r Oes Haearn ac olion sawl cwt crwn hynafol.

Llwybr cerdded

Ceir arwyddbyst ar y llwybr cerdded sy’n cychwyn o’r maes parcio.

Mae llwybr rhwyddach ar ddechrau’r llwybr i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn trydan – chwiliwch am yr arwyddion.

Llwybr Rhaeadr Fawr

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 2¼ milltir/3.7 cilomedr (yno ac yn ôl))
  • Amser: 1½ awr (yno ac yn ôl)
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae gan y llwybr i’r rhaeadr (o’r giât ger y maes parcio isaf) ddringfa raddol a pharhaus o 100m/330tr. Mae’n 1.5m o led gydag arwyneb o gerrig wedi’u gwasgaru a rhywfaint o raean rhydd. Mae gan y gatiau gloeon RADAR i’w hagor yn llawn.

Dilynwch yr arwyddbyst melyn tuag at y llwybr ar hyd gwaelod y dyffryn sy’n arwain drwy goetir a glaswelltir agored at droed y rhaeadr.

Mae'r arddangosfa ddehongli yn agos at ddechrau'r llwybr cerdded.

Ceir meinciau ar hyd y ffordd.

Mae’r daith yn ôl yn dilyn yr un llwybr.

Arddangosfa ddehongli

Mae'r arddangosfa ddehongli yn agos at ddechrau'r llwybr cerdded.

Mae mewn hen adeilad cerrig ac mae'n cynnwys paneli gwybodaeth am yr ardal gan gynnwys:

  • trosolwg o pam mae 'Coedwig Law Geltaidd' yn ffynnu yma
  • cyflwyniad i'r amrywiaeth enfawr o gennau yn y coetir
  • hanes gwaith gwneud clocsiau gan ddefnyddio coed gwern o’r coetir
  • cipolwg ar hanes y bobl fu’n byw yma o fryngaerau i ffermio a diwydiant gwledig
  • cipolwg ar ystyr enwau lleoedd lleol

Nid oes staff yn yr arddangosfa ddehongli ac mae mynediad yn rhad ac am ddim.

Nid yw'r adeilad yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn oherwydd ei ddrws cul.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Coedydd Aber yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Y gwanwyn

Mae poblogaeth adar y coetir yn cynyddu yn y gwanwyn oherwydd dyfodiad bridwyr mudol, megis:

  • Gwybedogion brith
  • Telor y Coed
  • Tingochion
  • Gylfingroesion

Mae llawr y coetir, sy'n cynnwys coed onnen a llwyfenni llydanddail, o dan orchudd mawreddog o glychau'r gog ac anemonïau'r coed.

Ar y ffridd (y tir rhwng gwaelod y cwm a rhannau uchaf y mynydd) mae'r drain gwynion a'r coed afalau sur yn creu môr o flodau gwynion ym mis Mai.

Yr haf

Caiff y gwerni eu rheoli'n ddiogel drwy fondocio rhai o'r coed yn eu bro, sy'n arwain at ffrwydrad trawiadol o flodau erwain yn yr haf.

Mae'r coetir yn gartref i amrywiaeth o adar megis y gnocell fraith fwyaf a'r gwalch marthin sy'n bwydo ar lawr y coetir llydanddail a'r goedwig gonifferaidd gerllaw.

Drwy gydol yr haf gallwch hefyd weld y rhywogaethau adar canlynol:

  • Gwybedogion brith
  • Telor y Coed
  • Tingochion
  • Gylfingroesion

Mae'r afon, sy'n llifo'n gyflym, yn gynefin i'r trochwr a'r siglen lwyd, tra bod y ffridd (y tir rhwng gwaelod y cwm a rhannau uchaf y mynydd) yn denu rhywogaethau megis corhedydd y coed a'r gynffonwen.

Weithiau, gellir gweld mwyeilch y mynydd, cigfrain a haid o frain coesgoch ar lethrau agored y mynyddoedd ac ar y wal garreg serth sydd ar ben pellaf y cwm.

Yr hydref

Wrth i'r dyddiau ddechrau byrhau, mae'r coed yn paratoi am y gaeaf ac mae'r cwm yn glytwaith dramatig o liwiau coch, oren, brown a melyn.

Y gaeaf

Mae'r rhaeadr drawiadol, sef y prif atyniad i nifer o ymwelwyr â Choedydd Aber, yn creu argraff arbennig yn ystod y gaeaf.

Mae llawer o'r adar mudol yn gadael y warchodfa am leoedd cynhesach, ond gellir gweld y rhywogaethau sy'n aros dros y gaeaf, megis y trochwr a'r siglen lwyd o hyd drwy gydol y misoedd oeraf.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Mae llethrau serth agored ger y rhaeadrau.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth am hygyrchedd

  • Mae lle parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas ym maes parcio isaf ac uchaf.
  • Mae toiledau hygyrch ar gael yn y maes parcio uchaf.
  • Mae'r llwybr wedi'i raddio'n 'hawdd' ond gall fod yn hygyrch i rai cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Gweler gwybodaeth y llwybr ar y dudalen hon am fanylion.
  • Mae gan y gatiau gloeon RADAR i’w hagor yn llawn.
  • Nid yw adeilad yr arddangosfa ddehongli yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn oherwydd ei ddrws cul.

Amserau agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Fel rheol, mae gât y maes parcio a'r toiledau ar agor rhwng:

  • 7.30am a 5pm (1 Hydref tan 31 Mawrth)
  • 7am a 7pm (1 Ebrill tan 30 Medi)

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber 7 milltir i’r dwyrain o Fangor.

Mae yn Sir Gwynedd.

Cyfarwyddiadau 

Trowch oddi ar yr A55 ar gyffordd 13 i gyfeiriad Abergwyngregyn.

Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown a gwyn am Raeadr Aber o’r pentref ac ar hyd is-ffordd gul.

Mae’r maes parcio isaf ymhen ½ milltir ar y ffordd hon ac mae’r maes parcio uchaf yr ochr arall i’r bont.

Map Arolwg Ordnans

Mae Coedydd Aber ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.

Cyfeirnod grid yr OS yw SH 664 718.

Cludiant cyhoeddus

Mae'r orsaf drenau agosaf yn Llanfairfechan (mae'n arhosfan ar gais).

I gael manylion am gludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae dau faes parcio bach ger man cychwyn llwybr y Rhaeadr Fawr. Fe’u cyrhaeddir ar ffordd gul (un trac) drwy bentref Abergwyngregyn.

Mae'r ddau faes parcio yn llenwi'n gyflym, yn enwedig ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol, gan arwain at dagfeydd difrifol ac oedi hir ar ddiwrnodau prysur.

Fe'ch cynghorir i osgoi gyrru drwy bentref Abergwyngregyn i gyrraedd y meysydd parcio hyn ac i barcio cyn cyrraedd y pentref.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Maes parcio is (ger y Bont Newydd)

  • Tâl parcio o £5 (arian mân a cherdyn)
  • 16 o leoedd parcio
  • Cewch barcio am ddim os ydych yn ddeiliad bathodyn glas.

Maes parcio uchaf

  • Tâl parcio o £5 (arian mân a cherdyn)
  • 20 o leoedd parcio
  • Toiledau
  • Caiff gât y maes parcio ei chloi bob nos
  • Cewch barcio am ddim os ydych yn ddeiliad bathodyn glas

Maes parcio am ddim

Mae maes parcio am ddim ar gael cyn ichi gyrraedd pentref Abergwyngregyn.

Trowch oddi ar ffordd A55 yng Nghyffordd 13 lle ceir arwydd Abergwyngregyn. Dilynwch yr arwyddion P i’r maes parcio am ddim sydd ar y chwith yn hytrach na dilyn y ffordd sy’n arwain i fyny drwy’r pentref.

Mae’n cymryd tua 30 munud i gerdded o’r maes parcio hwn at fan cychwyn Llwybr y Rhaeadr Fawr (ar y ffordd byddwch yn mynd heibio Caffi Hen Felin). Byddwch yn ymwybodol o’r traffig gan fod y ffordd yn gul iawn mewn mannau.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf