Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Rob Owen yn samplo dyfroed ymdrochi yn Ninas Dinlle

Mae sicrhau fod ein dyfroedd ymdrochi yn lân yn bwysig ar gyfer ein economi, ein cymunedau arfordirol a’r bywyd gwyllt yn y moroedd.

Yn y blog hwn mae Siân Craig, Uwch Wyddonydd Cynorthwyol yn Lab CNC, Llanelli, yn rhoi darlun o waith y tîm Microbioleg wrth iddynt brofi samplau dwr a gesglir o’n traethau bob blwyddyn.

Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn flwyddyn bwysig ar gyfer dŵr ymdrochi yng Nghymru gan taw dyma’r flwyddyn gyntaf i’r Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi ddiwygiedig ddod i rym. Roedd y ddogfen yma yn cyflwyno system ddosbarthiad newydd gyda safonau  ansawdd llymach ar gyfer dŵr ymdrochi. 

Mae’r gyfarwyddeb hefyd yn rhoi pwyslais ar ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd pan fo ansawdd y dŵr yn dirywio.

 Yn 2015, roedd pob un o ddyfroedd ymdrochi dynodedig Cymru yn cyrraedd y safonau newydd a osodwyd yn y gyfarwyddeb ddiwygiedig, gyda 98 y cant yn y dosbarth da i ardderchog.

Rydw i wedi gweithio yn y tîm Microbioleg yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn dadansoddi dyfroedd ymdrochi o gwmpas Cymru ers nifer o flynyddoedd. 

Y flwyddyn ddiwethaf, daeth y safonau ansawdd dŵr newydd i rym gyda gofynion llawer uwch na’r hyn a welir yn y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi wreiddiol. Roedd hi’n ddiddorol felly gweld sut y byddai traethau Cymru yn perfformio yn 2015. 

Yn hapus iawn, llwyddodd pob un o’r 102 o draethau yng Nghymru i gyrraedd safonau’r gyfarwyddeb newydd, o ganlyniad, mae’n debyg,  i waith y staff yn Cymorth Naturiol Cymru, yr Awdurdodau Lleol, y gymuned ffermio a Dŵr Cymru. Mae’r canlyniadau yn dangos sut mae gweithio gyda’n gilydd gydag asiantaethau allanol a pherchnogion tir yn medru cael canlyniadau rhagorol. 

Mae samplau yn cael eu dadansoddi drwy’r haf yn y labordy yn Llanelli o fewn 24 awr iddynt gael eu casglu gan ein staff ar draws Cymru. 

Rydym yn edrych am ddau fath allweddol o facteria (E coli a enterococci coluddol), sydd yn rhoi arwydd o lefel llygredd ymgarthol. Gall hyn darddu o fethiannau yn ymwneud a charffosiaeth neu o dda byw drwy ddŵr ffo o dir amaethyddol. Mae’r ddau ddangosydd organeb yn medru effeithio iechyd pobl gan achosi problemau stumog ac anhwyldeb enterig os yw’n cael ei lyncu. Felly mae gwirio ansawdd dŵr hefyd yn ffordd o warchod iechyd y cyhoedd.

Ystyrir canlyniadau’r flwyddyn flaenorol wrth ddosbarthu safon traeth, er mwyn rhoi darlun tymor hir, ac i roi cyfle i ystyried unrhyw ddigwyddiadau a allent fod wedi digwydd.

Ein gwaith ni yw monitro lefel y bacteria ar draethau Cymru ac ymchwilio i unrhyw fethiannau fel bod modd eu datrys cyn gynted â phosib. Bydd yn sialens y flwyddyn hon i geisio cyrraedd yr un safon â pherfformiad y llynedd a chynnal y safon uchel.

Mae twristiaeth yn  cyfrannu yn helaeth ac economi ardaloedd o Gymru ac mae’r gwaith o gynnal a chadw dyfroedd ymdrochi yn rhan o hynny.

Mae cael statws mawreddog y Faner Las i draeth yn atyniad mawr i dwristiaid, felly mae’n bwysig iawn cynnal y safon. 

Mae chwaraeon dŵr yn gynyddol boblogaidd ac mae nifer o ddigwyddiadau a chystadlaethau yn cael eu cynnal mewn dyfroedd ymdrochi o gwmpas Cymru e.e Triathlon Iron Man yn Ninbych-y-pysgod. Mae’r hwb i’r economi yn ystod digwyddiadau o’r fath yn medru gwneud gwahaniaeth sylweddol i drefi ac i fusnesau lleol. 

O ystyried hyn, mae monitro a chynnal y traethau yng Nghymru yn cadw defnyddwyr y traethau yn ddiogel a hefyd yn ffordd o gefnogi ein trefi glan môr.

Gallwch gadw llygaid ar statws traeth yr ydych am ymweld ag ef ar-lein wrth edrych ar yr Archwiliwr Dŵr Ymdrochi sy’n rhoi proffil o bob traeth yng Nghymru. 

Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gweld neu’n amau achos o lygredd i ddweud wrthym ar ein llinell gymorth 24 awr 0800 807060.

Rydym hefyd yn dadansoddi agweddau eraill o’r amgylchedd yn ein labordy - felly cadwch lygad am negeseuon pellach gan fy nghydweithwyr dros y misoedd nesaf wrth i ni symud i’n safle newydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.